31.12.07

Un peth bach arall . . . .





. . . cyn i 2007 ddod i ben.

Credaf i mi ddweud wrthych mai prif deganau'r Nadolig yn El Castillo oedd dau hofrennydd yr oeddwn wedi eu prynu yn ystod mis Rhagfyr. Dyma hwy yn y lluniau.

Yr hyn sydd wedi digwydd yn awr yw fod eu hedfan wedi cydio fel hobi yma, a chan ein bod yn amau fod eraill o gwmpas y wlad (neu o gwmpas y byd) sy'n siwr o fod yn rhannu ein diddordeb, credwn fod yr amser yn aeddfed i ni sefydlu cymdeithas newydd ar gyfer hedfanwyr hofrenyddion. Oherwydd argyhoeddiadau personol, credwn fod yn rhaid i enw'r gymdeithas fod ag awgrym 'Cristnogol' ynddo.

Gan nad ydym yn gallu cytuno ar yr enw gorau, rhoddwn y mater hwn eto i bleidlais yn y golofn ar ochr chwith y sgrin.

Pleidleiswch dros eich hoff enw! (Nodyn golygyddol: Daeth y pleidleisio i ben ar 6 Ionawr)

Cwestiwn bach ar ddiwedd blwyddyn





Mae yna ambell i beth sy'n ddirgelwch i mi. Un ohonynt yw'r 'peth' hwn yn y llun a welais yn iard gefn El Constructor yn Capilla Roja. Beth ar wyneb daear ydio?

A yw El Constructor yn adeiladu rhyw fath o arf dieflig? Ydio'n ddarn o set Meccano ar gyfer oedolion? A yw'n rhan o'r cyfrifiadur diweddaraf i gyrraedd Sir Fôn?

Pleidleiswch yn y golofn ar yr ochr chwith.

Os bydd El Constructor yn fodlon rhoi'r ateb i mi, fe'ch hysbysaf ar y cyfle cyntaf!

30.12.07

Ar y brig!

Tydwi erioed o'r blaen wedi dod ar dop y rhestr gan Gwgl, ond dyma'n union ddigwyddodd heno pan roddais y geiriau 'Bywyd caled' i mewn i'r peiriant chwilio!

Wedi dim ond amrantiad, yr oedd wedi dod o hyd i mi!

Rhag ofn nad ydych wedi sylwi, gadewch i mi dynnu eich sylw at y ffaith mai 'Bywyd Caled El Jefe' yw'r y cyntaf a'r ail yn y rhestr!

Adlewyrchiad yw hynny o pa mor galed yw bywyd i mi!

Noder, yn ychwanegol at hyn, mai dim ond 'trydydd' gafodd Dewi Sant!

El Cobertizo del Constructor

Mae pawb erbyn hyn wedi clywed am ‘gynhesu byd eang’ ac am y pryderon sy’ 'nghlwm wrth hynny. Yr ydych hefyd wedi clywed am bartïon ‘cynhesu tŷ’ wrth i bobl symud i mewn iddynt. Wel, dyma i chi un newydd sydd a’i darddiad yn Sir Fôn; nos Wener, bûm mewn parti ‘cynhesu sied’.


Mae angen esbonio fod gwahaniaeth sylweddol rhwng siediau amrywiol bobl. Dyna i chi ein sied ni yma wrth gefn El Castillo. Sied fechan yw hi, a dim byd o werth ynddi. Os bydd dau o deulu El Jeje yn mynd i mewn iddi, mae’n broblem os yw’r ddau'n penderfynu anadlu yr un pryd, gan mor gyfyng yw.


Tra gwahanol yw sied ‘El Constructor’! Digon yw dweud fod tua 70 wedi cael eu gwahodd i’r parti cynhesu, ac nid yn unig yr oeddent i gyd yn ffitio i mewn ar yr un pryd, yr oedd hefyd ddigon o le i’r cwmni ddawnsio, a hynny o amgylch coeden Nadolig nobl oedd wedi ei gosod yng nghanol y llawr!

Dylai disgrifio'r olygfa fel hyn gyfleu i chwi fod El Constuctor nid yn unig wedi adeiladu cobertizo, ond ei fod wedi adeiladu cobertizo grande, un oedd yn deilwng o gael parti cynhesu i’w hagor yn swyddogol. Da iawn fo.

Nodyn 1: Gellir cau yr ysgol a’r capel lleol yn awr, a chynnal pob gweithgarwch yn y cobertizo newydd. Gellir hefyd ei ddefnyddio yn ystod y gyda’r nos fel neuadd bentref neu neuadd gyngerdd. Byddaf yn fodlon gwneud y trefniadau i gyd am gomisiwn bychan.

Nodyn 2: El Constructor yw gŵr chwaer Mujer Superior, Pañuelo. Maent yn byw mewn lle o'r enw Capilla Roja nepell o Iglesia de Cyngar.


29.12.07

Peladito a Bojas Rojas

Mae'n debyg ei bod yn amser i mi ddangos llun i chwi o Peladito a Bojas Rojas gyda'i gilydd.

Tynnwyd y llun hwn ar ddiwrnod braf ar draeth yn Sir Fôn pan oedd Bojas Rojas mewn iechyd ac yn medru mynd allan. Tra gwahanol yw hi ar hyn o bryd.

Ydi, mae afiechyd Bojas Rojas druan yn parhau, a hynny er gwaethaf ei hymweliad â’r doctor.

Nid fy mod am foment yn feirniadol o'r doctor! Rhoddodd dabledi gwrth-fiotig iddi, a'i ddymuniadau gorau, a rhaid cyfaddef ei bod ychydig yn well erbyn hyn. Er yn wan, llwyddodd i gyfathrebu gyda Peladito trwy symud ei llaw y bore yma, ac mae hynny'n brawf digonol i mi fod pethau'n gwella. Yr oedd llawenydd Peladito o weld yr arwydd hwn yn dra amlwg! Onid hyfryd o beth yw gweld pobl mewn cariad? (Ah!)

Mae tri mis union heddiw tan eu priodas. Fel y dywed y gân, 'It's the final countdown'!

Mae gan Bojas Rojas ddigon o amser i wella'n iawn, ac fe gaf innau ddigon o gyfleoedd i roi hanes y paratoadau i chi.

'Watch this space!'

28.12.07

Caredigrwydd

Mae caredigrwydd pobl eraill yn difrifoli dyn weithiau, yn enwedig pan mai ef yw gwrthrych y caredigrwydd hwnnw.


Felly mae hi wedi bod dros gyfnod y Nadolig wrth i mi unwaith eto dderbyn anrhegion gan bobl nad ydynt o fewn cylch cyfyng y teulu.


Cyfeillion yw'r rhain sydd a'u teuluoedd eu hunain ganddynt, ond sydd eto wedi mynd i'r trafferth o baratoi, neu anfon, anrhegion i mi a'm teulu.


Ystyriwch y deisen hon. Ni wneuthum ddim i'w haeddu, ac fe'i rhoddwyd i mi'n gwbl annisgwyl. Dyna i chwi bleser, wedi i ni orffen edmygu ei harddwch, fydd ei bwyta! Prin fod angen dweud y bydd angen help arnaf i wneud hynny!

Nid dyma'r unig rodd yr ydym wedi ei dderbyn fel teulu. Daeth eraill hefyd dros yr ŵyl i'n hatgoffa o hen gystylltiadau a phethau a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.

Edrychwch ar y rhain! Bataliwn o boteli!

Byddai un wedi bod yn rhodd ardderchog, ond dyma chwech wedi eu hanfon i ni gan gyfeillion sydd wedi dangos caredigrwydd mawr tuag atom dros gyfnod maith.

Y peth rhyfedd yw fod bod yn wrthrych y fath garedigrwydd yn brofiad lled gyffredin, nid yn unig i mi, ond i lawer sy'n gweithio yn yr un maes â mi. Nid yw hynny'n gwneud y caredigrwydd yn ddim llai rhyfeddod i ni, a da yw cael cyfle i ddweud yn syml, 'Diolch i chwi, bawb, am eich haelioni.'

Argyfyngau'r gwyliau

Fe ddywedais wrthych yn barod fod bywyd yn galed, ac nid yw hyd yn oed y Nadolig yn newid hynny, er ei fod, o bosibl, yn rhoi cyfle i ni gael ein dyrchafu uwchlaw'r arferol.

O bosibl eich bod wedi sylwi nad yw'r tywydd wedi bod o'n plaid yn ddiweddar. Gan ei bod yn fis Rhagfyr, ni fuaswn yn disgwyl iddi fod yn heulog, ond byddai wedi bod yn dda pe byddai'r gwynt wedi gostegu a'r glaw wedi peidio. Byddai wedi bod yn well pe byddem wedi cael ychydig (nage! - lot) o eira! Fel fy niweddar dad, El Jefe Grande, yr wyf yn arbennig o hoff o eira, ac yn hiraethu am gael ei weld bob gaeaf. Gyda'r cynhesu byd-eang sy'n digwydd, anaml iawn y daw erbyn hyn. Ymunwch â mi wrth i mi roi ochenaid o siom. Hmmmm.

'Rwyn sylweddoli'n llawn na ellir dweud fod diffyg eira neu wynt a glaw yn 'argyfyngau', ond yn wir, fe gawsom ni ddau argyfwng go iawn yn El Castillo dros gyfnod y Nadolig eleni.

Argyfwng 1: Yn dilyn yr ŵyl, daeth Bojas Rojas i aros gyda ni. Prin fod angen dweud fod Peladito wedi edrych ymlaen yn fawr at weld ei ddyweddi ond, pan gyrhaeddodd, buan y gwelwyd nad oedd yn gwbl iach. Methodd ddod i barti penblwydd Mujer Superior.

Oedd, yr oedd MS yn cael ei phen blwydd ddoe, ond fe waharddwyd i mi son dim am y peth. Gwaharddwyd fi'n arbennig rhag dweud faint yw ei hoed, ond digon fyddai awgrymu, pe byddech am wneud teisen iddi, na fyddai 52 o ganhwyllau cweit yn ddigon.

Beth bynnag am hynny, dirywio fu hanes Bojas Rojas dros nos, ac erbyn y bore 'ma yr ydym wedi penderfynu fod yn rhaid iddi weld meddyg.


Argyfwng 2: Argyfwng arall y bu'n rhaid i ni ymdopi ag ef oedd yr un y bu Rebelde mor garedig a'i oresgyn i ni. Gwnaeth hynny trwy fynd i siop ar y cyfle cyntaf wedi'r Nadolig.

Gadawaf i chwi ddyfalu beth yr oeddem wedi anghofio sicrhau fod digon ohono yn El Castillo dros gyfnod y dathlu.

Nid oes gwobr am ateb yn gywir.

27.12.07

Enw llawn fy nghartref


Gan ein bod wedi bod yn trafod enwau hir, hoffwn hawlio'r record byd am yr enw hiraf i dŷ. Enw fy ngartref o hyn ymlaen fydd,

Elcastillogerllawycolegarybrynsyddyndrigfanieljefemewntrefageglwysgadeiriolynddisyddhefydgeryfenaisyddynllifoodanbontyborthacislawllanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogochigyfeiriadcarnarfonpanfoyllanwweditroiyndrai

Er cyfleustra i bawb, rydym yn talfyrru'r enw i 'El Castillo GYCAYB', ond fe wnaiff 'El Castillo' y tro.

Yr enw mawr hir!

Mae Leona yn dod o Sir Fôn, ac felly'n un o'r Monwysion. Gellir gweld llun ohoni isod yn chwarae gem Nadolig gyda Peladito, Bandido a Rebelde. Peladito a Rebelde enillodd (rhag ofn bod diddordeb gennych).

Chwi gofiwch mai'r Monwysion yw'r bobl sy'n ymfalchio fod ganddynt bentref ac arno'r enw hwyaf yn y byd! Newyddion drwg i’r cyfryw rai, felly, oedd clywed fod lle yn Seland Newydd o’r enw,

TaumatawhakatangihangakoauauotamateaturipukakapikimaungahoroNukupokaiwhenuakitanatahu

Y siom i Selandwyr Newydd yw mai enw bryn yw hwn yn hytrach na thref neu bentref.

Canlyniad? 'Disqualified’!

Mwy problemus i’r Monwysion, mae'n debyg, yw fod dinas Bangkok yng ngwlad Thai yn cael ei galw wrth ei enw llawn gan y brodorion yno. Enw’r lle mewn gwirionedd yw,

Krungthepmahanakonbowornratanakosinmahintarayudyayamahadiloponoparatanarajthaniburiromudomrajniwesmahasatarnamornpimarnavatarsatitsakattiyavisanukamphrasit’.

Mae hwnna’n enw hwy nag enw'r pentref yn Sir Fôn, felly, a bod yn greulon o onest, mae ganddon nhw ychydig bach o broblem.

(Cyngor: Peidiwch a son am hyn yn Sir Fôn, oni bai eich bod chi’n medru rhedeg yn ddychrynllyd o gyflym.)

Teulu a ffrindiau

Gwell i mi ddweud ychydig am fy nheulu a’m ffrindiau, yn lle ychwanegu at y rhestr ar ochr chwith y sgrîn heb esbonio dim. Wrth reswm, fedra i ddim son am bawb yr wyf yn ei adnabod, felly dyma’r teulu agos ac un neu ddau arall y gallaf son amdanynt heb ofni eu tramgwyddo!

Fel y cyfeiriais mewn man arall, mae un o’m meibion, Peladito, wedi gadael cartref ac yn byw ‘por el mar’. Mae’r ddau arall, Bandido a Rebelde (llun ar y chwith (Bandido sydd ay dde)), yn dal i fyw adref gyda mi a Muher Superior er fod y ddau ohonynt erbyn hyn yn ddynion cryfion. Mae ganddynt eu busnes eu hunain yn cynhyrchu ‘serrín’ wrth y dunnell! Wnawn ni ddim hysbysebu enw'r cwmni yn y fan yma gan mai arall yw pwrpas hwn o ofod!

Tra bo Peladito wedi dyweddïo â Bojas Rojas,ac yn paratoi’n ddygn at y briodas sydd i’w chynnal ddiwedd mis Mawrth, mae Bandido yn treulio bron iawn i bob gyda’r nos gyda Leona, merch o’r pentref sydd a’r enw hiraf yn y byd, yn ôl pobl Sir Fôn.(Gweler y stori nesaf)

Ond beth am Rebelde? Gadewch i mi ddweud mai hwn yw’r callaf o’r tri. Mae’n dweud ei fod yn cymryd ei amser gan nad yw’n barod eto ‘i fyw dan awdurdod’. Mae’n amlwg ei fod wedi etifeddu doethineb ei dad!

Yr wyf wedi cyflwyno'r brawd ‘El Reverendo’ i chwi’n barod, ond mae angen i mi ddweud rhywbeth am El Irlandés (llun ar y dde), un sydd wedi bod yn ffrind i mi ers blynyddoedd lawer. Cyfarfyddais ag ef yn nyddiau coleg, ac yr ydym wedi cadw cysylltiad byth wedyn. Credwch fi, aeth dyfroedd lawer o dan y bont, ond er hynny, cyfochrog ac agos yw llwybr y ddau ohonom wedi bod dros y blynyddoedd, er gwaetha’r ffaith fod y naill a’r llall ohonom wedi bod ‘yn y dyfroedd mawr a’r tonnau’ o dro i dro.

Dyma’r bobl fydd yn ymddangos yn fy hanesion o hyn ymlaen. Wrth reswm, fe fydd eraill hefyd yn cael eu crybwyll, ond rhaid pwyllo rhag son am bobl heb eu caniatâd. Mae cwrteisi a meddwlgarwch fel olew ar olwynion bywyd; o beidio’i gael bydd y cyfan yn torri i lawr yn hwyr neu’n hwyrach, a ninnau ar ein colled yn fawr oherwydd hynny.

26.12.07

Nadolig wrth ein bodd!

Do, wedi'r holl brysurdeb, yr holl siopa a'r holl baratoi, cawsom Nadolig ardderchog yn El Castillo! Pump ohonom oedd yma, sef y teulu i gyd: fi, Mujer Superior, Peladito, Bandido a Rebelde, a chawsom amser gwirioneddol da! Fel ym mhob blwyddyn arall, fe ddaeth Papá Noel heibio, a gadael pentwr o roddion. Wedi i ni ychwanegu digon o fwyd a diod, pentwr ychwanegol o anrhegion, a dogn helaeth o hwyl, yr oedd gennym ddigon wedyn i wneud diwrnod cofiadawy a da!


Wrth gwrs, 'roedd angen un elfen arall arnom i wneud y diwrnod yn un gwirioneddol lwyddiannus, felly i ffwrdd â ni erbyn 10.00am i'r gwasanaeth cydewadol sy'n cael ei gynnal bob bore Nadolig yn y dref hon. Tua 60 oedd yno, ac eleni Peladito oedd yn arwain. Er yn gymharol ddibrofiad yn y maes arbennig hwn, gwnaeth ei waith yn rhagorol. Yr oedd y gwasanaeth yr union hyd cywir (sef 45 munud); cafwyd tair carol, darlleniad, neges i'n hatgoffa o'r hyn y mae Duw wedi ei wneud drosom yn Iesu Grist, a gweddi i orffen. A braf oedd gweld cymaint o'n cyfeillion yno!


Mae rhywbeth arbennig yn mynd a'n sylw bob Nadolig, a hofrennydd oedd hi eleni, neu 'hofrenyddion', i fod yn onest. Yr oeddwn wedi gweld un yn cael ei hysbysebu ar y we, a chan wybod y byddem yn cael cryn bleser o chwarae â fo, dyma archebu un.

Pan ddaeth yr e-bost i gadarnhau'r archeb, dyma ddarganfod fy mod wedi prynu dau! O ganlyniad, yr ydym yn gyfoethog o hofrenyddion yma eleni, ac wedi dysgu sgiliau newydd wrth eu hedfan! 'Does gennych chi ddim syniad pa mor anodd yw hi i lanio hofrennydd yn ymyl y stabl, heb son am ei lanio ar y to! 'Rydan ni'n ystyried cynnig gwobr sylweddol i bwy bynnag all gyflawni'r gamp hefo llai na diwrnod o ymarfer a hyfforddiant!


Tydi un diwrnod ddim yn ddigon i werthfawrogi a mwynhau yr holl anrhegion y mae teulu yn eu rhoi i'w gilydd dros yr ŵyl, felly mae'n dda o beth fod y Nadolig yn ymestyn, i bob pwrpas, hyd y flwyddyn newydd. Rhydd hynny gyfle i ni gael mwy o amser yng nghwmni'n gilydd, a mwy o amser i fwynhau!

Daliwch chithau ati gyda'ch dathlu, a mwynhewch!

24.12.07

Yn cyflwyno 'El Reverendo'!

Hoffwn eich cyflwyno i'm cyfaill a'm brawd, 'El Reverendo'!

Un garw yw hwn; da gyda geiriau, ffyddlon i'r Efengyl, a chyfaill y gellir dibynnu arno!

Cewch glywed llawer amdano yn ystod y misoedd nesaf, oherwydd yr ydym yn gwneud cryn dipyn gyda'n gilydd! A dyna braf yw hynny; rhannu'r un gwaith, a rhannu llawer o ddiddordebau hefyd!

Yfory, dydd Nadolig, bydd yn arwain gwasanaeth mewn capel y bûm innau ynddo yn y gorffennol.

Mae hwn yn 'amigo', yn wir!

Nadolig Llawen i bawb!

Wel, mae'r cyfan bellach wedi ei wneud! Mae'r anrhegion wedi eu prynu a'u pacio, mae pob cwpwrdd yn y tŷ yn llawn o fwyd ac, hyd y gwn i, mae popeth yn awr yn barod! Dylai yfory fod yn ddiwrnod da!


Er ein bod ni wedi addurno ychydig ar y tŷ, nid oes gennym unrhyw beth i'w gymharu â'r tŷ hwn ym Mhantperthog ger Machynlleth. Hoffwn i ddim talu bil trydan hwn!





Wrth gwrs, mae gofyn i ni atgoffa ein hunain pam yr ydym yn gwneud hyn. Mae'r ateb yn yr ysgrifen ar y gwydr melyn.


Pe byddech yn dod o China, ac yn siarad yr iaith, byddech yn adnabod y llythrennau fel y rhai sy'n sillafu enw 'Iesu'.

"Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni . . . ," meddai'r proffwyd Eseia.

"A daeth y Gair yn gnawd," meddai Ioan, "a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad."

Dyna'r rheswm. Dyna yr ydym yn ei ddathlu!

Nadolig llawen iawn i bawb ohonoch! Mwynhewch!

Byw gyda'r annisgwyl!

Tydi bywyd yn llawn o bethau annisgwyl? Dyma fi yn paratoi ar gyfer y Nadolig, yn edrych ar y we, yn rhoi fy enw fy hun i mewn i'r peiriant chwilio, ac yn gwbl annisgwyl yn darganfod fod yna dŷ bwyta yn Las Vagas a'm henw i arno!


Fy uchelgais yn awr yw mynd draw yno i gael pryd o fwyd a thynnu fy llun! Hoffai rhywun roi tocyn awyren yn anrheg Nadolig i mi?

Gallwch ddysgu rhywbeth am y tŷ bwyta trwy glicio yma.

23.12.07

Gwasanaeth i gloi blwyddyn ac i gloi pennod

Bûm ar daith heddiw, i Goedpoeth ger Wrecsam, i gymryd rhan mewn gwasanaeth mewn capel. Hwn oedd y gwasanaeth olaf yno. Mae'r capel yn awr wedi cau.

Mae'r fath ddigwyddiad yn drist oherwydd fod yr eglwysi oedd yn cyfarfod yn y capeli hyn ar un adeg wedi bod yn gwneud gwaith mawr yn eu cymunedau. Yr oeddent yn fywiog, yn llawn egni ac yn fwrlwm o weithgarwch o bob math. Ond daeth y trai a'u llethu. Aeth nifer yr addolwyr yn fychan, a baich yr adeiladau yn rhy drwm.


O bosibl nad yw llawer yn sylweddoli cymaint o golofnau fu'r eglwysi hyn, nid yn unig i'r dystiolaeth Gristnogol, ond hefyd i'r diwylliant Cymraeg yn eu hardal.

Un peth sy'n sicr, ni ddylai neb deimlo'n hapus nac yn fodlon o'u gweld yn diflannu. Lleia'n byd o golofnau sy'n dal rhywbeth i fyny, y mwyaf tebygol ydyw i syrthio pan fo un o'r colofnau hynny'n methu.

Mae'n rhyfedd meddwl fod Cristnogaeth wedi bod mewn cyflwr drwg fel hwn o'r blaen, ond eto wedi dod yn ôl. Mae 'na rhywbeth felly am Gristnogaeth; y foment mae pobl yn tybio fod y cyfan ar ben, mae'n darganfod ffordd newydd i adnewyddu ei hun ac i ail-gydio.

A phwy a ŵyr na fydd Duw'n dymuno i hynny ddigwydd eto? Mae wedi dymuno yn union felly fwy nag unwaith yn y gorffennol.

Amddiffyn fy hun!

Mae teithio'n rhywbeth yr wyf yn gwneud cryn dipyn ohono. Gydag un swyddfa ym Mangor ac un arall yn Abertawe, a 160 milltir rhyngddynt, rwy'n treulio darn sylweddol o'm bywyd yn y car, a thrwy'r tanwydd yr wyf yn ei brynu, yr ydw i, wrth reswm, yn talu mwy nag yr wyf yn ei ddymuno mewn treth. Dyna pam yr oeddwn yn teimlo'n flin yn Aberystwyth nos Wener.


Yr oeddwn wedi stopio yno gan fod Peladito yn teithio i'r gogledd gyda mi i dreulio'i Nadolig olaf gyda ni fel teulu. Mae'n priodi ym mis Mawrth.

Gan fy mod wedi teithio o Fangor i Abertawe yn gynharach yn yr wythnos, a theithio o Abertawe i Aberystwyth wedyn, yr oedd haenen drwchus o halen wedi casglu ar ben ôl fy nghar. Nid fy mai i oedd hynny; canlyniad brwdfrydedd y cynghorau lleol ydoedd wrth iddynt geisio sicrhau nad oedd damweiniau'n digwydd ar unrhyw ffyrdd llithrig o amgylch y wlad.

Wrth i ni roi ein gwregysau diogelwch i gychwyn ar ein taith tua'r gogledd, daeth cnoc ar y ffenestr. Plismon oedd yno. 'Can't see your number plate,' meddai'n sarug. 'If a traffic officer sees you, he'll give you a £30 fine.'

Bobol bach! Yr oeddwn yn teimlo fel troseddwr yn barod! Yr oedd holl rym ac awdurdod y gyfraith wedi rhoi pwniad i mi! Fy ymateb cyntaf, er na ddywedais hynny wrth yr heddwas (oedd, wrth gwrs, yn gwneud cymwynas â mi), oedd meddwl, 'Nid arnaf fi mae'r bai! Bai y cynghorau ydio. Ac ar ben hynny, rwy'n cyfrannu'n helaeth at bwrs y wlad trwy deithio fel ag yr ydw i. Pwy wyt ti i fy nwrdio i?'

Peth felly ydi'r natur ddynol; mae'n teimlo ysfa ffyrnig i amddiffyn ei hun bob amser, fel mae Peladito hefyd pan fydda i yn ei gyhuddo fo! Ac am y rheswm hwnnw, mi fyddai'n mwynhau ei gyhuddo! Tybed gafodd y plismon bleser o fy nghyhuddo i o fod a phlatiau rhif annealladwy? Mae'n bur debyg!

Beth bynnag am hynny, aeth Peladito allan o'r car, a rhwbio'r plat rhif gyda hen bapur chips oedd yn digwydd bod ar lawr y car. O ble y daeth hwnnw, does gen i ddim syniad! Wir!