29.2.08

Here we go . . .

. . . A dyma ni wedi cyrraedd mis Mawrth, ac i El Jefe a'i deulu mae hynny'n golygu y mis y bydd Peladito a Bojas Rojas yn priodi.

Prin fod angen dweud fod manylion y diwrnod wedi eu trefnu ers misoedd lawer, a P & BJ wedi llwyddo i gael tŷ (sy'n dipyn o gamp i bobl ifanc heddiw), sef Casa Roble yn Roble Torcido. Gallwn ddweud, felly, fod popeth yn barod.

Fe fydd dathliad eithaf sylweddol, a nifer helaeth o'r ddau deulu a ffrindiau yn dod at ei gilydd. Bydd El Irlandés yn bresenol (yn gefn, fel arfer, i El Jefe), a bydd El Reverendo yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Mae Pañuelo yn dweud ei bod yn ymarfer ar gyfer yr achlysur ers wythnosau, ond nid er mwyn ledio emyn mae hi'n feddwl! Bydd gan El Constructor ddigon i'w wneud yn cadw trefn arni pan ddaw y diwrnod.

Yn ystod y dyddiau nesaf bydd yn rhaid i Bandido a Rebelde ddechrau meddwl am ryw fath o anerchiad i'w draddodi, a bydd yn rhaid i El Jefe feddwl am 'syrpreis' neu ddau i fywiogi'r gweithgareddau! A pheidiwn ac anghofio am Mujer Superior! Mae pwysau arni hithau, wrth reswm, gan fod disgwyl i'r mamau hefyd edrych ar eu gorau ar ddiwrnod priodas eu plant.

Mae gan bawb ddigon i'w wneud, felly, ond y peth pwysig i El Jefe yw fod pawb yn mwynhau! 'Forget the issues, and bring some tissues!' Mae hon yn mynd i fod yn briodas hapus i bawb!

El Jefe yn lladd adar

Dyma'r cyfnod i wisgo Cennin Pedr ar ein cot/siaced/cardigan neu gap, i ddangos ein teyrngarwch i'r hen Gymru fach! Y fath sentimentalismo!

Ar y dydd cenedlaethol, 1 Mawrth, mae'r Annibynwyr wedi galw ar bawb i weddio dros Gymru a'i phobl. Maent am agor rhai o'u capeli er mwyn i ni fedru gwneud hynny, sy'n syniad da ym marn El Jefe.

Mae 'na ddigon wnaiff gwyno a thuchan am yr hen genedl fach; pa werth sydd yn hynny? Gwneud rhywbeth sydd ei angen! Dyna fy marn i fel hombre de acción!

Beth feddyliwch chi o'r blodyn? Elegante, eh? Fel mae'n digwydd, mae'r hen Genhinen Bedr hefyd yn sumbol i un o'r elusennau cancr, rhywbeth sy'n agos iawn at galon El Jefe. Trwy wisgo'r genhinen, felly, mae'n llwyddo i ladd dau aderyn gydag un garreg!

Mae'n swnio'n greulon, ond peth da ydio mewn gwirionedd.

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi!

26.2.08

Pwy fydd yn gweithio am ddim?

Tybed pwy fydd yn gweithio am ddim ddydd Gwener nesaf, 29 Chwefror? Mae El Jefe'n amau y bydd miloedd ar hyd a lled y wlad yn gwneud hynny.

Dyma'r sefyllfa. Mae cyflogau llawer yn cael eu pennu ar gyfer blwyddyn; hynny yw, mae gweithiwr yn cael ei dalu £15,000, £20,000 neu £30,000 y flwyddyn.

Fel arfer mae blwyddyn yn golygu 365 o ddyddiau, ond bob 4 blynedd mae'n flwyddyn naid, ac mae hynny'n golygu fod yna 366 o ddyddiau.

Y cwestiwn yw, felly, a ydych yn cael cyflog diwrnod ychwanegol ddydd Gwener nesaf? Os mai 'Nag ydw' yw'r ateb, yna yr ydych chi, amigo, yn gweithio am ddim i'ch cyflogwr!

Rwy'n siwr eich bod yn ddiolchgar iawn i El Jefe am ddod a hyn i'ch sylw.

Digywilydd, 'ta be?

Tydi hi ddim yn talu i drio bod yn neis gyda'r genhedlaeth ifanc!

Yn y gegin yr oedd El Jefe pan gyrhaeddodd Leona, cariad Bandido. Er mwyn bod yn groesawgar, cyfarchodd hi mewn dull cyfoes trwy ddweud, 'Hi there, babe!' Ceisio dangos yr oedd ei fod yn medru Saesneg yn ogystal â Chymraeg a Sbaeneg.

Fel mellten o wagle, dyma'r ateb yn dod oddi wrth y señorita, 'Hi there, sugar plum!'

'Sugar plum'? 'Sugar plum' ????????? Ydi El Jefe wedi mynd yn 'sugar plum'??

Choelia i fawr, ond mae'r bobl ifanc yma wedi mynd yn ddigywilydd dros ben!

24.2.08

Mae'r cloc yn tician!

Ar ddydd Iau, 28 Chwefror, dim ond 30 diwrnod fydd tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas!

Erbyn hyn, mae nifer o aelodau'r ddau deulu wedi dechrau cynhyrfu, a hyd yn oed El Jefe'n fodlon cyfaddef ei fod yn edrych ymlaen!

Tybed a fyddai popty microdon (aka, 'popty gwyllt' neu 'bopty ping' neu 'microondas') yn gwneud anrheg priodas da iddynt?

Mae El Jefe mewn dryswch!

Fel y gwyddoch chi, tydi Cymraeg El Jefe ddim yn dda iawn. O dro i dro mae'n llithro'n ôl i'r Sbaeneg, yr iaith y mae fwyaf cyffyrddus ynddi. Y rhan fwyaf o'r amser, mae'n llwyddo i beidio gwneud hyn er mwyn ymarfer y Gymraeg, ond mae'n anodd - yn anodd iawn.

Beth bynnag am hynny, mae El Jefe'n teithio'n weddol aml ar y trên, a thra'n gwneud hynny mae'n hoffi darllen revistas fotográficas neu 'gylchgronau ffotograffig'.

Fel y digwyddodd, yr oedd yn teithio y dydd o'r blaen ar drên gydag amigo iddo, ac yr oeddent wedi bod yn son am brynu filtros, y pethau hynny yr ydych yn eu rhoi ar flaen lens camera er mwyn cael efectos especiales, neu 'effeithiau arbennig', yn y Gymraeg.

Gwelodd El Jefe hysbyseb yn ei gylchgrawn a gofyn i'r amigo, 'Beth am y rhain?' Wedi edrych ar y dudalen, dechreuodd yr amigo chwerthin fel dyn gwirion, ac er i El Jefe ofyn pam, gwrthododd roi esboniad iddo.


Pan welodd gyfeiriad correo electrónico (e-bost) y cwmni, bu bron iddo dagu, ond unwaith eto, gwrthododd ddweud pam ac nid oedd El Jefe yn deall. Tybed fedr rhywun esbonio i mi?

20.2.08

Mynd o fan i fan!

Clywais yn ddiweddar fod y Maffi-aye yn meddwl prynu fan newydd.

Cefais gip arni ddoe!

Beth feddyliwch chi? Mae El Jefe yn credu ei bod yn arbennig o addas!

19.2.08

Gwybodaethau o bwys!

Cefais sgwrs ddifyr gyda'm brawd, El Reverendo, heddiw. Son yr oeddem am 'wybodaeth' a cheisio ateb y cwestiwn, 'A yw gwybodaeth yn ychwanegu at bwysau dyn?'

Mae'n gwestiwn difyr. A yw dyn gwybodus yn pwyso mwy oherwydd yr wybodaeth sydd ganddo yn ei ben? A fyddai'n ysgafnach hebddi?

Nid awgrymu yr ydym fod pawb sy'n dew yn wybodus neu'n glyfar, oherwydd gall y sawl sy'n dew fod yn bwyta gormod, neu'n gwneud rhy ychydig o ymarfer corff, yn hytrach na bod yn llawn gwybodaeth!

Ond mewn unigolyn cyffredin, a yw hel gwybodaeth yn ychwaegu at ei bwysau? Os ydyw, a yw dyn (neu ddynes) yn ysgafnach pan fo'n anghofio rhywbeth? A yw syniadau yn medru cael eu pwyso, ac os ydynt, a yw syniad da yn pwyso mwy na syniad ffol?

Mae'n rhywbeth i feddwl amdano!

18.2.08

Rownd a rownd!

Dynes ryfedd yw Pañuelo, fy cuñada (chwaer yng nghyfraith).

Mae'n debyg iddi weld y darn oedd gen i am y bathodyn 'pengwin tew' ('You're in good shape! Round is a good shape!') yr oedd un cyfaill creulon wedi ei anfon ataf (gweler stori 28 Ionawr '08), a dyma hi'n anfon gair ataf yn dweud,

"Y DYN MWYAF YW'R LLEIAF YN EI OLWG EI HUN"

Beth ar wyneb daear mae hynny'n ei olygu, ac ydio'n dilyn mai

"Y WRAIG DENEUAF YW'R MWYAF YN EI GOLWG EI HUN"?

Diawch! O bosibl fy mod wedi ei brifo hi yn awr. Mi fydd yn ymestyn am ei hances boced ac yn cwyno amdanaf wrth El Constructor! Gwell i mai alw am y Maffi-aye i ddod i'm hamddiffyn!

Rhai o'r Maffi-aye

Dyma gyfle o'r diwedd i son am beth o weithgarwch diwylliannol Peladito, Rebelde a Bandido. Rhybudd: Nid ydynt, o angenrheidrwydd, yn ymddangos yn y drefn yna yn y llun.

Gwelir hwy yma yng ngwisg draddodiadol y Maffi-aye.

Mae'n siwr y byddech yn cytuno ag El Jefe eu bod yn ymddangos yn giwed frawychus dros ben, yn debyg i'r hyn a elwir yn yr hen famwlad yn revolucionarios neu'n luchadores de libertad. Maent yn debyg iawn!

Beth bynnag am hynny, mynd allan am dro ar lan y môr yr oeddent ar ddiwrnod pan yr oedd y gwynt yn arbennig o fain ac oer, sydd ddim ond yn profi na ddylai neb neidio i gasgliadau pan yn gweld y ffordd y mae rhywun arall yn gwisgo. Y tu ôl i'r mygydau y mae tri o'r bechgyn mwyaf dymunol yn y wlad (tan i chwi eu croesi, wrth gwrs.) Mae eu parodrwydd i helpu eraill yn ddibendraw!

Os oeddech, wrth edrych ar y llun, am roi meibion El Jefe dan glo, a thaflu'r allwedd i ffwrdd, ¡usted debería estar avergonzado de usted! ('Dylech fod â chywilydd ohonoch eich hun!')

Y rhain yw rhai o'r Maffi-aye. Os oes gennych broblem, ac os nad oes neb arall yn gallu eich helpu, ac os y gallwch ddod o hyd iddynt, o bosibl y gallwch chwithau gael cymorth y Maffi-aye!

17.2.08

Cario baich, mewn enw'n unig!

Mae ambell un sy'n cael ei feichio gydag enw anffodus. Tra'n teithio ar y tren y dydd o'r blaen, a thra'n darllen ei gylchgrawn ffotograffiaeth arferol, daeth El Jefe ar draws yr enghraifft hon.


Druan ohono! Diolch i'r drefn nad yw'n Gymro Cymraeg, neu fe fyddai wedi ei watwar hyd at ddigalondid!

Dim ond un peth y byddwn yn ei ymbil arnoch - peidiwch, da chi, a rhoi gwybod iddo beth yw ystyr ei enw!

Mae'r dyddiau'n mynd heibio

Ar ddydd Llun, 18 Chwefror, dim ond 40 diwrnod fydd tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas.

Erbyn hyn, maent wedi cael eu tŷ, ac mae edrych ymlaen mawr at y diwrnod y byddant yn symud i mewn iddo!

Dim ond un broblem sydd: nid oes bwyty Indiaidd, Sbaenaidd na Tseineaidd o fewn cyrraedd i'r lle! Beth wnânt am fwyd, y pethau bach? Byddai'n well i Bojas Rojas fynd i ddosbarthiadau gwneud cyri, neu rywbeth!

Amgylchiadau anodd

Cafodd El Jefe, ei gydweithwyr a'i gyfeillion, wythnos arbennig o anodd yr wythnos ddiwethaf, ond nid dyma'r lle i fanylu. Bydd y sawl sydd yn gwybod beth ddigwyddodd yn deall.

A dyna'r rheswm pam y bu El Jefe mor ddistaw; nid wedi colli diddordeb mewn rhoi ei hanes yr oedd, ond teimlo nad oedd yn medru oherwydd yr amgylchiadau.

Erbyn hyn, mae'n gallu dweud mor dda y mae Duw wedi bod yn cynnal a chysuro amrywiol bobl yn ystod yr wythnos a aeth heibio.

Fel y dywed yr Beibl, 'trugarog a graslon yw'r Arglwydd'. Mae'n ffyddlon i ni ymhob amgylchiadau.

6.2.08

Tempus fugit

Dim ond 52 o ddyddiau sydd ar ôl yn awr tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas.

Mae hynny'n 1,248 o oriau, neu'n 74,880 o funudau.

Buan y daw, a buan yr aiff heibio.

Ni allaf ond gobeithio a gweddio y bydd iddynt gael yr hyn a elwir yn yr hen famwlad yn 'matrimonio largo y feliz'

Gyda llaw, Peladito, mae gen i fatri iach iawn yn fy oriawr i!

4.2.08

Y 'Menyg Duon'

Yn ystod 'Fin de Semana Venado' (hynny yw, 'Penwythnos Stag') Peladito, sefydlwyd cymdeithas newydd dan nawdd y Maff-aye, cymdeithas fydd yn cael ei hadnabod o hyn ymlaen fel 'Urdd y Menyg Duon'. Gwyliwch allan amdani!

Dyma'r cefndir. Diau eich bod wedi clywed am Gymru'n cael ei disgrifio fel 'Gwlad y Menyg Gwynion'. Wel, mewn adwaith i'r meddylfryd hunan-foddhaus hwnnw y sefydlwyd y gymdeithas newydd, i hyrwyddo daliadau hogia (a merched) 'go iawn' sy'n gweld, deall ac ymateb i bethau fel ag y maent yn y byd sydd ohoni heddiw.

Nid oes cyfansoddiad wedi ei lunio, a go brin y bydd un byth. Fe fydd y 'Menyg Duon' yn ymddangos a diflanu yn ôl angen Cymru a'i phobl, i amddiffyn un ac i geryddu'r llall!

Wwwwwww! 'Dwi'n siwr eich bod chi'n poeni 'nawr!

(Daw'r menyg duon o siop Gwerth-Gwlân am £1 y pâr. Maent yn ddelfrydol ar gyfer cadw'r dwylo'n gynnes pan fo'r gwynt yn oer!)

He who hurries his curries, worries!

Do, fe gafwyd 'Fin de Semana Venado' (hynny yw, 'Penwythnos Stag') Peladito, a daeth y Maffi-aye at ei gilydd mewn rhan anghysbell o Gymru i nodi'r ffaith fod y bachgen wedi ei rwydo (yn wir, ei hudo) gan Bojas Rojas!

Dechreuodd y dathlu yn Por el Mar nos Iau diwethaf, a hynny gyda chyri. Chwech ohonom oedd yno: Peladito, El Jefe, Bandido, Rebelde, Rodrigo ac El Irlandés. Ar derfyn dirwnod caled o waith, daethom o amrywiol gyfeiriadau a chynnull mewn bwyty o'r enw Luz de Asia, ac yno cafwyd gwledd y bydd son amdani yn ein plith am flynyddoedd maith.

Sylwais fore trannoeth mai dim ond El Irlandés oedd wedi dod a rhywbeth gydag ef i'w helpu gydag effaith y cyri a'r danteithion eraill y buom yn eu mwynhau.

Hawdd gweld sut y mae wedi llwyddo i ddod ymlaen yn y byd! Mae'n edrych ymlaen ac, oherwydd hynny, yn un i'w edmygu.