31.3.08

Priodas Peladito a Bojas Rojas

Do, fe gafwyd priodas, a honno'n un ardderchog dros ben!

Dywedodd rhywun fod y tywydd wedi bod yn siomedig, ond yng nghanol yr hwyl a'r dathlu, pwy oedd yn sylwi ar hwnnw?

Wrth reswm, nid fu El Jefe yn defnyddio camera drwy'r dydd oherwydd, fel y dywedodd Mujer Superior, diwrnod oedd hwn iddo ef a hithau gael tynnu eu lluniau, yn hytrach na'u tynnu eu hunain. Ac felly'n union y bu, nid na chafodd El Jefe ysfa fwy nac unwaith i glywed swn ei gamera yn clicio atgofion i'w storfa helaeth o hiraeth!

Yn garedig iawn, daeth El Constructor a Pañuelo a chasgliad o'u lluniau hwy i El Jefe eu gweld, a dyma gynnwys rhai o'r goreuon gyda'r adroddiad hwn. Bydd yn amlwg i chwi fod El Constructor yn ffotograffydd o gryn ddawn.

Mae'r llun cyntaf, fel y gwelwch, yn dangos y tu mewn i'r capel lle y cynhaliwyd y gwasanaeth priodas, ac mae'r ail yn dangos Peladito a Bojas Rojas yn gadael y sedd fawr. Erbyn hyn yr oeddent yn ŵr a gwraig, y naill i'r llall. Onid ydych yn cytuno ag El Jefe fod Bojas Rojas yn edrych yn hynod, hynod brydferth? Wrth gwrs eich bod! Ac fel y byddai Rebelde a Bandido yn dweud, "Tydi Peladito ddim yn edrych yn 'bad' chwaith"! Rwy'n siwr eich bod yn rhyfeddu at safon godidog eu Cymraeg! Cofiwch mai dysgwyr ydynt!

Ond gadewch i mi ddod at y trydydd llun! Mae hwn yn un o oreuon El Constructor, yn dangos carped y gwesty yr oeddem yn dathlu ac yn aros ynddo.

Ymddiheuraf nad wyf yn gwybod troed pwy sydd yn y llun, ond pethau felly yw priodasau; mae ynddynt bob amser draed nad ydych yn gwybod i bwy y maent yn perthyn!

21.3.08

Peidiwch a hollti blew!

Un dda yw'r ferch sy'n torri gwallt El Jefe!

Pan oedd yno'n ddiweddar yn cael twtio peth ar y tyfiant cryf sy'n digwydd ar ei benglog (yn wahanol iawn i Peladito, a Bandido o ran hynny!), rhoddodd y ferch â'r siswrn gerdyn iddo. 'Hwn,' meddai, 'yw fy ngherdyn busnes newydd.'

Edrychodd El Jefe ar y cerdyn a'i edmygu, er nad oedd gair o Sbaeneg yn agos ato. Fodd bynnag, yr oedd un peth yn achosi penbleth iddo, felly 'doedd dim amdani ond gofyn, 'Ers pryd ydych chi wedi bod yn steilydd rhyngwladol?

Daeth yr ateb heb unrhyw oedi. 'Mae gen i chwaer yn byw yn yr Almaen. Bob tro y byddaf yn mynd draw yno i'w gweld, byddaf yn torri ei gwallt. Mae hynny'n fy ngwneud yn 'rhyngwladol', yn tydi?

Dywedwch a fynnwch, mae gan y ferch bwynt!

19.3.08

Methu dal y straen!

Heddiw, dim ond 10 diwrnod sydd i fynd tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas. Credaf fod y tensiwn i'w weld yn y bachgen erbyn hyn. Druan ohono!

Bum yn aros gydag ef neithiwr, ac aethom allan i swper. Daeth Rodrigo gyda ni.

Ymweliad arall a gafwyd â'r Luz de Asia, a chafwyd cyri ychydig mwy tanllyd na'r arfer, un o safon Naga yn hytach na dim ond Madras. Salad ffrwythau gyda saws cyri drosto gafodd Rodrigo.

Beth bynnag am hynny, ni allai Peladito weld fy nghefn yn ddigon buan y bore yma. Safai wrth y drws ffrynt yn dawnsio'n lled-frodorol o un goes i'r llall gan fwmblan rhywbeth am 'natur yn galw'.

'Tensiwn a nerfusrwydd', meddai El Jefe wrth ddringo i mewn i'w gerbyd. 'Os ydio felly rwan, sut bydd o ar ôl cael gwraig?'

16.3.08

Glywsoch chi achlust o hyn?

Heno, sef nos Sul, 16 Mawrth, mae El Jefe yn dioddef o'r hyn a elwir yn y famwlad yn dolor de oídos. Yr oedd mor ddolurus ychydig yn gynharach fel nad oedd yn gallu bwyta ei swper.

Yma yng ngogledd Cymru, gelwir yr aflwydd yn 'bigyn clust'. Ew, mae'n beth poenus!

Un peth cyn darfod; onid ydych chi'n meddwl fod methiant El Jefe i fwyta ei swper yn arwain at gwestiwn diddorol?

A all dioddef o dolor de oídos beri fod dyn yn colli pwysau?

Os y gall, yna dylid sicrhau fod haint yn mynd ar led ar unwaith i ni gael gwared o'r 'broblem gorbwysau' honno y mae'r meddygon a'r cyfryngau yn ein diflasu cymaint wrth son amdani.

Gyda llaw, rwy'n rhoi hawlfraint ar y syniad yna, rhag ofn i mi golli fy nghyfle i gael bod yn filiwnydd!

Byw mewn steil, ond mewn ofn!

Fe fu El Jefe ar ymweliad â phlas Gregynog ychydig ddyddiau yn ôl. Dyna i chi le! ¡Muy, casa muy grande!

Mae'r lle'n ddigon mawr i chi fynd ar goll ynddo ac, yn wir, fe fu El Jefe ar goll unwaith neu ddwy! Ond y peth gwaethaf ddigwyddodd oedd i'r larwm tân ganu tra yr oedd yno.

Bu'n rhaid gwagio'r adeilad, a chicio sodlau y tu allan am beth amser, hynny yw, tan i'r frigad dân ddod o'r Drenewydd a chadarnhau mai dim ond tostiwr rhywun oedd wedi gwneud yr evacuación yn angenrheidiol.

Ar y pryd, yr oedd rhywbeth yn poeni El Jefe; pe byddai'r lle wedi bod ar dân go iawn, y byddai ef, neu Peladito (oedd yno hefyd), wedi cael y bai!

Wedi'r cyfan, y rebels sydd bob amser yn cael eu beio mewn sefyllfaoeddd o'r fath, a phe byddai'r awdurdodau wedi gweld y lluniau o feibion El Jefe ar y wefan hon rai wythnosau yn ôl (gweler stori 18 Chwefror), yna byddai wedi bod ar ben arnom!

Credwch fi, er mor braf oedd y lle, yr oeddwn yn falch o ddod oddi yno!

9.3.08

'It's the final countdown!'

Dydd Sul, 9 Mawrth 2008.

20 diwrnod i fynd tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas!

Dim ond 20!

Buan y bydd o'n 10!

Scary!

8.3.08

Caution! Evolución in progress!

Y noson o'r blaen, cafodd El Jefe sgwrs ddifyr iawn gyda'i gyfaill, El Irlandés, sydd, a barnu oddi wrth y llun ar y chwith, yn dymuno bod yn fôr-leidr.

Rhywsut neu'i gilydd, cawsom ein hunain yn son am evolución, neu esblygiad, a dyma El Irlandés yn gofyn, 'Os ydi hwnnw wedi digwydd, ac os ydi bywyd wedi dod allan o'r môr, fel yn yr hysbyseb Guinness honno, ac os ydio wedi dod i'r tir ac esblygu a datblygu dros y canrifoedd, sut mae 'na bysgod yn dal ar ôl yn y môr, a mwncwns yn dal i fod yn y coed?'

'Nid mater o'u bod nhw'n datblygu'n arafach ydio,' medda fo, gan ymestyn yr ysbaid hon o ddoethineb ychydig eiliadau yn hŵy, 'tydi'r bygars ddim wedi dechrau eto.'

Wyddoch chi be'? Mae ganddo fo bwynt, ac mi fydd yn rhaid i El Jefe feddwl yn hir uwchben hyn!

7.3.08

Haelioni El Jefe

O dro i dro bydd Mujer Superior yn cwyno wrth El Jefe nad yw byth yn cael dim ganddo.

Wel, yr wythnos hon yr wyf wedi rhoi annwyd iddi, ac mae'n sniffian a phesychu ei ffordd o gwmpas y paith.

Y siom fawr yw ei bod yn dal i gwyno!

Does dim plesio ar rai merched!

6.3.08

Mae beibl.net yn ôl

Mae El Jefe wedi clywed fod beibl.net yn ôl ar lein wedi misoedd o drafferthion technegol.


Dechreuodd y problemau yn 2007 pan wnaethpwyd ymgais i symud y wefan o un gweinydd i un arall.

Bad move! Cafodd y testun ei lygru, ac aeth y cyfan yn doji.



Erbyn hyn, mae'r problemau wedi eu datrys a'r fersiwn hynod ddarllenadwy hon o'r Beibl ar gael i bawb sydd am ei defnyddio. Er ei bod wedi ei hanelu at bobl ifanc a dysgwyr, mae cylch ei hapêl yn llawer iawn ehangach.

Os nad ydach erioed wedi ymweld â’r wefan, be' ydach chi'n 'neud yn fama?

Cliciwch ar beibl.net ar unwaith, ond COFIWCH ddod yn ôl wedyn i flasu ychwaneg o ddanteithion melys El Jefe!

5.3.08

Ymestyn amser

Peth rhyfedd yw tiempo (amser). Mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ddefnyddio, yn ei golli, yn ei fwynhau a'i gasáu. Gallwn wneud yn fawr ohono neu ei wastraffu. Gall fod yn dda neu'n ddiflas.

Y cwestiwn sy'n corddi El Jefe yw, 'A ellir ei ymestyn?' A yw amser yn debyg i ddarn o elastig y gallwn ei wneud yn hirach, os dymunwn, ynteu a yw yn ymestyn neu yn crebachu er ein gwaethaf?

Rwy'n gofyn y cwestiynau hyn oherwydd nad yw'n ymddangos i mi fod pob awr yr un hyd, na phob diwrnod chwaith!

Cymerwch yr adegau hynny pan fyddwch yn mwynhau eich hun. Mae'r amser yn mynd heibio'n gyflym. Ydi hynny'n golygu fod yr oriau'n fyr? A ydynt fel y wifren yn y llun ar y chwith? Yr ydych yn mynd o 'A' i 'B' yn sydyn iawn am eich bod yn mwynhau, a dyma'r adegau y byddwn yn dweud fod amser wedi 'hedfan' heibio.

Ar adegau eraill, mae awr yn gallu bod yn hir. Mae fel ei bod wedi ymestyn, yn enwedig pan fo rhyw ddiflastod neu'i gilydd wedi dod drosom. Mae'r wifren yn sydyn fel yr un a welir yn y darlun ar y dde.

Yr un hyd yw'r wifren (amser) ond mae wedi ei hymestyn yn bellach. Dyma'r adegau y byddwn yn dweud fod amser yn 'llusgo' heibio oherwydd mae'n cymryd mwy o amser i fynd o 'A' i 'B' yn awr.

Mae ambell i bregeth sy'n gwneud i El Jefe deimlo fod y wifren yn arbennig o hir, a'r awr wedi ei hymestyn i'r eithaf. Ar adegau eraill (a diolch am hynny!), mae ambell bregeth arall yn gwneud iddo feddwl fod y cyfan drosodd yn llawer iawn rhy fuan, a'r wifren yn fyr. Yn hyn o beth, tydi El Jefe ddim yn wahanol i neb arall!

A ddylai El Jefe chwenychu mwy o'r oriau pleserus, byr? Os gwna, fe fydd bywyd ei hunan yn mynd yn fyrrach, sydd ddim ond yn dangos fod yna bwynt wedi'r cyfan mewn bod yn anciano gruñón (hen ddyn blin)!

Mae'n ymestyn eich oes!

Spot the difference!


Am fod El Jefe yn arbennig hoff o rai ffrwythau, bu Mujer Superior allan yn prynu bananas iddo'n ddiweddar.

Gwelodd rai 'Masnach Deg' yn gyntaf, a'u prynu; gwelodd rai 'Masnach sy'n cymryd mantais o bobl dlawd' wedyn, a theimlo rheidrwydd i brynu'r rheini hefyd!

Ei bwriad oedd dangos y gwahaniaeth i El Jefe,
yr arch-fwytawr bananas!

Mae'r sialens yn syml - Spot the difference!


Y cwestiwn yw, "Pa rai yw'r rhai 'Masnach Deg'?" Fel arfer, yr ydym yn meddwl mai pethau eilradd, sâl yw pethau 'Masnach Deg'. Ond edrychwch!


O Guatemala y daw'r mini-bananas ar y chwith, a'r rheini yw'r rhai 'Masnach sy'n cymryd mantais o bobl dlawd'. Daw'r mega-bananas ar y dde o Costa Rica, a'r rheini (credwch fi neu beidio!) yw'r rhai 'Masnach Deg'!


Pa fananas dybiwch chi y bydd El Jefe yn eu mwynhau heddiw?

Mmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmm!


3.3.08

Nibl yn y Nobl

Tra yng Nghaerdydd dros y Sul diwethaf, aethpwyd ag El Jefe i fwyty lleol gan ei frawd, El Reverendo.

Dyma'r lle yr aethont iddo. Addas, ynte?

Fel y gŵyr rhai ohonoch, dau go nobl yw El Reverendo ac El Jefe, ond 'nobl' mewn mwy nac un ffordd, gobeithio!

Un peth y gellir bod yn saff ohono: mae'r ddau ohonom yn meddu ar gymeriadau digon crwn!

'Hyfryd o beth'; 'hyfryd o beth'!

Welsh? - Not!

Mae yna rai cwmniau sy'n araf iawn yn dysgu beth yw cwrteisi, a beth sy'n ddisgwyliedig mewn gwlad fel Cymru! Y rheswm am hynny yw nad ydynt, mae'n debyg, yn ystyried Cymru'n wlad o gwbl, dim ond yn ranbarth bach ddel o Loegr!

Dros y penwythnos diwethaf, bu El Jefe ar daith arall ac yn aros mewn gwesty yng Nghaerdydd.

Dyma gyrraedd yno a mynd i'r ystafell, ac edrych ar y neges groeso ar sgrin y teledu.

Mewn Saesneg yr oedd y neges honno, felly dyma fynd i chwilio am y Gymraeg.

Dyma luniau o'r tair sgrin yr oedd eu hangen i restru'r ieithoedd oedd ar gael ar y sustem - yr 17 ohonynt. Ond nid oes golwg o'r Gymraeg yn unman!

Mewn gwesty ym mhrifddinas Cymru, siawns na allem ni ddisgwyl gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio, ond mae'n siwr fod yna lawer i westy arall yn ddigon tebyg i'r un y bu El Jefe ynddo, yn cynnal rhyw fath o 'Welsh Not'!

Tydi'r peth ddim yn dderbyniol. Mae'n sarhâd ar y Cymry, ac mae El Jefe'n teimlo drosoch. Os ydym yn gallu cael y Gymraeg ym Mhatagonia, pam na allwn ei chael yng ngwestai prifddinas Cymru ei hun?

Erbyn hyn mae El Jefe wedi cysylltu â’r cwmni a gofyn, yn gwrtais iawn, am i'r Gymraeg gael ei chynnwys gyda'r ieithoedd eraill ar eu sustem wybodaeth. Dywedodd yr ateb a dderbyniodd y byddai'r neges yn cael ei phasio ymlaen i'r sawl oedd yn gyfrifol. Cawn weld beth fydd yn digwydd, felly!

Os hoffech chwi anfon gair at y cwmni yn gofyn am gael gweld y Gymraeg ymhlith y ieithoedd y maent yn eu cydnabod a'u defnyddio, dyma'r cyfeiriad i anfon e-bost iddo. Cofiwch fod yn garedig a chwrtais. Fel y mae'r hen bobl yn dweud ym Mhatagonia, mae siwgwr yn fwy tebygol o gael ymateb ffafriol na llond ceg o finegr.