30.4.08

Adref ar wib!

Mae'n rhaid i El Jefe fynd adref ar wib heddiw, a hynny oherwydd ei bod yn ddiwrnod pleidleisio yn yr etholiadau lleol.

Mae bod oddi cartref ar ddiwrnod fel hwn fel methu parti, neu golli digwyddiad yr ydych yn gwybod y dylech fod yn rhan ohonno.

Dyna pam y bydd El Jefe ar y tren cyntaf allan o Gaeredin wedi diwedd ei gynhadledd, yn teithio cyn gyflymed ag y gall yn ôl i Gymru.

Dywedodd rhywun rhywdro wrth El Jefe ei fod yn gwastraffu ei bleidlais oherwydd nad oedd yn pleidleisio i un o'r pleidiau mawr 'Seisnig'. Yn ei ddoethineb, atebodd yntau mai'r unig bleidlais sy'n cael ei gwastraffu yw honno nad yw'n cael ei defnyddio!

Dyna pam y mae'n teimlo fod yn rhaid iddo gyrraedd adref cyn 10.00pm heno, er mwyn rhoi y tamaid papur pwysig hwnnw yn y bocs bach du!

Ar daith er mwyn y gwaith!

Heno, mae El Jefe yng Nghaeredin. Daeth yma ar y tren, a mwynhau y siwrnai yn fawr iawn.

Cynhadledd arall sydd wedi dod ag ef yma, a mawr yw ei fraint yn cael cwmni tua 70-80 o bobl eraill.

Un peth a'i trawodd pan yn edrych o gwmpas yr ystafell yn ystod y cyfarfod - fod cymaint o'r rhai oedd yn bresennol yn ymddangos yn bobl od! Pwysodd ymlaen at gynrychiolydd arall o Gymru, a gofyn iddo, 'Wyt ti wedi sylwi cymaint o bobl od sydd yma, a ti a minnau yn eu plith?'

Edrychodd y cyfaill yn gam ar El Jefe, ac ychwanegu, 'Yr wyt ti'n ymddangos yn fwy od na fi!'

Bobol bach! Y fath hyfdra! Nid dyna'r ffordd i hybu ysbryd eciwmenaidd yn ein plith!

(Os nad ydych yn deall y gair 'eciwmenaidd', na phoener! Nid ydych ar eich pen eich hun!)

28.4.08

Adnoddau'r Brifddinas

Heddiw bu El Jefe yn y brifddinas, hynny yw, yng Nghaerdydd.

Aeth yno ar y tren ddoe ac aros y noson gyda chyfeillion hael eu croeso. Bydd bob amser yn mwynhau cael mynd atynt, a chwith meddwl ei fod wedi gorfod dychwelyd adref heddiw yn lle cael aros noson arall yn eu cwmni. Ond dyna ni, prin fod angen atgoffa'r sawl sy'n darllen y nodiadau hyn mai bywyd prysur a chaled yw un El Jefe!

Dyna i chi le ydi'r brifddinas! Mae popeth yno, popeth y gallech ei ddymuno a'i brynu! Rhesi o siopau mawr a bach yn darparu ar gyfer pob math o chwaeth, a hyd yn oed y di-chwaeth mewn ambell i le!

Tynnodd un siop sylw El Jefe. Ni welodd ei thebyg yn unman o'r blaen. Siop ydoedd ar gyfer pobl foel (Peladito, Bandido, El Constructor, &c), y rhai sy'n wynebu sialens yn yr adran 'copa walltog'.

Dyma i chwi (ar y dde) lun o arwydd y siop. Sylwch pa mor ofalus yw'r perchnogion wrth nodi, mewn Ffrangeg, yr hyn y maent yn ei werthu. Mae'n debyg mai'r bwriad yw osgoi embaras i'w cwsmeriaid 'dôm debyg'!

Gall El Jefe feddwl am amryw o fewn cylch ei gydnabod y gall eu cyfeirio at y siop hon. Os am wybod ble'n union y mae, anfonwch e-bost ato!

27.4.08

Defnyddio’r llinyn mesur

Teithio yn y car ar draws Sir Fôn yr oedd Mujer Superior a minnau pan fu i ni ddechrau trafod y duedd honno sydd ym mhawb ohonom ni i roi ein llinyn mesur ar bobl eraill.

'Onid yw'n beth rhyfedd,' meddai MS, 'ein bod ni wrthi mor ddygn yn rhoi ein llinyn mesur ar bobl eraill, ond bron byth yn ei roi arnom ni ein hunain.' Fel y gwelwch, mae rhyw ddwysder arbennig yn dod dros MS pan fydd hi'n teithio mewn car.

Ond yna, aethom ymlaen i drafod pa mor anodd yw hi i'ch mesur eich hunan. Ydych chi wedi sefyll yn erbyn wal, a cheisio rhoi marc yn y lle cywir i nodi eich taldra? Mae'n ddychrynllyd o anodd, os nad yn amhosibl! Dim ond trwy gael help rhywun arall y gallwch fod yn hollol siwr fod y mesur yn gywir.

A dyna pam yr ydan ni'n rhoi ein llinyn mesur ar bobl eraill yn hytrach nac arnom ni ein hunain! Dyna pam yr ydym yn gweld y brycheuyn yn llygaid pobl eraill, heb fod yn gweld y trawst sydd yn ein llygad ni ein hunain.

Peth difyr yw teithio yn y limo gydag El Jefe a MS, ond prin yw y rhai sy'n cael y fraint!

Llandudno by the sea

Ddoe, bu El Jefe mewn cyfarfod sefydlu gweinidog yn Llandudno.

'Sefydlu' sy'n digwydd pan fo rhywun yn cael ei wneud yn weinidog capel ar ôl iddo/iddi fod yn weinidog yn rhywle arall cyn hynny. Pan fo'n cael ei wneud yn weinidog am y tro cyntaf, cael ei 'ordeinio' y mae.

Cael ei 'sefydlu' yr oedd gweinidog newydd Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno felly, a chafwyd oedfa ddymunol iawn gyda phregeth oedd yn 'gwneud sens' gan weinidog o Bwllheli.

Ond yr hyn oedd yn drawiadol oedd cyfartaledd oed y gynulleidfa! Prin fod llawer yno oedd o dan 60 oed. Mae El Jefe'n gwybod fod hyn yn gyffredinol wir am gynulleidfaoedd capeli yng Nghymru, ond mae'n dangos yn eglur fod rhywbeth o'i le ar fynegiant y Cymry o Gristnogaeth fod y traddodiad wedi datblygu fel hyn.

Y gwir amdani yw fod angen i bobl ieuengach hawlio'r traddodiad Cristnogol yn ôl. Nid eiddo preifat y genhedlaeth hŷn mohono, ond eiddo pawb. A rhaid i'r genhedlaeth hŷn fod yn barod i ollwng yr awennau pan fo cyfle'n dod. Sut arall y cawn ni ddyfodol i'r hen ffydd?

Chwyldro sydd ei angen yng nghapeli Cymru, ond chwyldro sy'n deillio o'r Ysbryd Glân, nid o unrhyw ddrwgdeimlad rhwng pobl a'i gilydd.

26.4.08

Mae El Jefe yn ôl

A dyma El Jefe yn ôl, yn llond ei wasgod ac yn llond ei groen, fel y gwelwch!

Mae'n syndod cymaint o effaith y mae priodas deuluol yn gallu ei chael ar ddyn! Dim ond yn awr, bron i fis yn ddiweddarach, yr wyf yn dod dros y pryder, y straen a'r profiad cymharol newydd o fod yn ôl yn dlawd. Bu'r mis diwethaf yn brawf nid bychan ar f'adnoddau! Ar 6 Ebrill, nid oeddwn ond tua 7 stôn; yr oeddwn yn denau, yn wan ac yn welw. Erbyn hyn daeth haul ar fryn unwaith eto!

Y gwir amdani yw na fuaswn wedi methu'r briodas a gafwyd am unrhyw bris yn y byd! 'Roedd gweld Peladito a Bojas Rojas mor llawen ag yr oeddent y diwrnod hwnnw yn werth popeth i mi, ond, dyna ni, rydwi'n bod yn sentimental yn awr! Gwelsom hefyd Bandido a Rebelde yn eu siwtiau! Amhrisiadwy! Wele lun o'r triawd (Peladito, Bandido a Rebelde) gyda'i gilydd ar yr achlysur!

Erbyn hyn, mae bywyd wedi symud yn ei flaen, ac yn yr wythnosau diwethaf mae El Jefe wedi bod wrth ei waith, yn teithio hwnt ac yma o amgylch y wlad ac yn mynychu nifer dda o gyfarfodydd. Ac o fod yn ôl yn y tresi, mae'n dod yn bosibl unwaith eto i adrodd peth o'r hanes wrthych, a dyna'r bwriad am ychydig eto!

Daliwch eich gwynt! Mae'r difyr a'r dwys ar eu ffordd!