31.5.08

Hiraeth am Hiraethog

Tra yng Nghaerfyrddin ar 29 Mai, cafodd El Jefe fynd i weld capel Heol Awst, un o'r ddau gapel Annibynnol sydd yn y dref.

Sylwodd fod yno ffenestri coffa lliwgar i gyn-weinidog yr eglwys, John Dyfnallt Owen, i Stephen Hughes (1622-88), Apostol Sir Gaerfyrddin, ac i nifer a gollodd eu bywydau yn Rhyfeloedd Byd yr ugeinfed ganrif. Yr oedd yno hefyd nifer o blaciau, er cof am amryw eraill.

Yr hyn nad oedd yno oedd unrhyw beth i ddweud mai yng nghapel Heol Awst y traddodwyd yr anerchiad gan Gadeirydd, neu Lywydd, cyntaf Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1872. Yr oedd hyn yn syndod i El Jefe, oherwydd yr oedd y diwrnod hwnnw yn gryn garreg filltir yn hanes y traddodiad Annibynnol yng Nghymru.

Gwilym Hiraethog oedd y Cadeirydd, a'i deitl cofiadwy - wrth sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, cofiwch - oedd, 'Satan'!

Da iawn, Gwilym! Cofiadwy dros ben, a nodweddiadol o'r Annibynwyr sydd bob amser wedi dangos tuedd i wrthod gwneud yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, a gwneud yr annisgwyl! Hir y parhaed y traddodiad hwnnw, meddai El Jefe!

Un da yw disgrifiad John Thomas, Lerpwl, o anerchiad Hiraethog. 'Er mai "Satan" oedd y testun,' meddai, 'yr oedd un a ymddangosai yn feistr ar Satan yn trin ei gyflwr, ac yn dinoethi ei ddichellion.'

30.5.08

Cofio John Penri

Bu El Jefe am dro i Gaerfyrddin ddydd Iau, 29 Mai, a hynny oherwydd ei bod yn Ddydd John Penri ac fod cyfarfod yn cael ei gynnal yng nghapel y Priordy i gofio amdano. Cafodd groeso mawr gan y Gweinidog a'r rhai oedd yn bresennol.

John Penri oedd un o Annibynwyr cyntaf Cymru. Yr oedd yn dod o fferm fechan o'r enw Cefn-brith yn Sir Frycheiniog, ac wedi troedigaeth tra ym Mhrifysgol Caergrawnt, trodd yn Biwritan a dechrau herio'r sefydliad eglwysig oherwydd ei ddiffyg darpariaeth ar gyfer pregethu'r Efengyl yng Nghymru.

Arweiniodd un peth at y llall, ac yn y diwedd fe arestiwyd Penri yn Llundain. Aethpwyd ag ef gerbron llys a'i ddedfrydu i'w grogi ar 29 Mai 1593, a hynny am deyrn-fradwriaeth (Sbaeneg: traición, Saesneg: treason). Yr oedd yn 29 oed a chanddo bedair o ferched bach.

Nid yw Annibynwyr Cymru erioed wedi anghofio'r digwyddiad hwnnw, a da yw hynny, oherwydd dylai cenedl gofio cewri y gorffennol, y bobl a safodd dros yr hyn oedd yn gyfiawn, yn deg ac yn gywir.

21.5.08

Gwneud amser

Credwch fi neu beidio, bu'n rhaid i El Jefe fynd i Lundain eto yr wythnos hon. Wrth ei fod yn mynd yno'n lled aml erbyn hyn, yr oedd yn dda ganddo weld ffrind o'r gorffennol ar y tren. Am ddarn helaeth o'r siwrnai bu'r ddau ohonynt yn cyfnewid hanes ac atgofion.

Cyfarfod byr gafwyd yn y ddinas, ond ar ei ffordd yn ôl adref cafodd El Jefe bleser annisgwyl, sef cwmni ei chwaer, La Melo, of no fixed abode gan ei bod yn byw ar y tren rhwng gogledd Cymru a phrifddinas yr Ymerodraeth Fawr.

Bu sgwrsio a chwerthin, a rhannu hanesion, ac wedi dod adref ni allai El Jefe lai na meddwl ein bod yn esgeulus iawn yn y dyletswydd o roi amser i'n gilydd, i ymlacio a sgwrsio - a'n bai ni ydio.

Oni ddylem fod yn gwneud amser i hyn, a hynny ar frys? Dim ond am ychydig yr ydym ar yr hen blaned yma, ac ofer dweud ar ôl i rywun fynd, 'Fe fyddai wedi bod yn dda pe byddem wedi medru gwneud mwy â’n gilydd.'

'Nawr yw'r amser i wneud hynny! Ffoniwch rywun yn awr i wneud cysylltiad ac i gael sgwrs. O leiaf fe fyddwch wedi dechrau wedyn!

18.5.08

Tempus fugit!

I lawer, bydd hwn yn ymddangos fel tegell, ond os edrychwch yn fanwl fe welwch mai 'amserydd' (timer) cegin ydyw, un o'r pethau hynny yr ydych yn rhoi 'tro' ynddo, ac yna'n ei adael i dician tan y bydd cloch yn canu i ddweud fod yr amser y bu i chwi ei osod ar y deial wedi darfod. Fe welwch y deial ar waelod y 'tegell', lle mae'r '0' i'w weld.

Heddiw, rhoddodd Mujer Superior 'dro' i'r amserydd am ddim rheswm yn y byd! Gosododd ef ar 10 munud, a mynd i wneud rhywbeth arall.


Hyn sydd yn poeni El Jefe: gan nad oedd yr amserydd yn amseru dim, oedd 'amser' yn cael ei wastraffu?

Mewn byd lle mae gofyn i ni fod yn ddarbodus, wnaiff hi mo'r tro i wastraffu dim!

Nid teisen, ond . . .

Pancos!

Dyna wnaeth Bojas Rojas i'w gŵr newydd, Peladito, ar ddiwrnod ei benblwydd, ac er fod teisen yn llawer mwy traddodiadol, bodlonodd El Jefe iddynt gael y pancos gan mai dyna, yn ôl BR, oedd yn draddodiadol yn ei theulu hi!

Felly, ganol y prynhawn, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael cinio nobl gan Mujer Superior, aeth y ddau ati uwchben y stôf i baratoi'r danteithion. Rysait o eiddo Mamgu oedd yn eu tywys, ac er fod BR ychydig yn fler wrth ei gwaith (gweler y jwg), yr oedd yn ymddangos i El Jefe yn addawol dros ben! Gyda chyfarwyddyd cadarn Mamgu ac ychydig o ymarfer, buan y bydd wedi meistroli'r grefft!

Wrth gwrs, fel sy'n digwydd ar achlysuron fel hyn, aeth pobl ati i ddechrau chwilio am siapiau a wynebau yn y cynnyrch. O edrych ar yr un sydd ar y dde, buasai El Jefe'n awgrymu fod arwyddion pendant o ymdrech fwriadol i borthi y ffwlbri hwn; os na, mae'n debyg y gallwn honni fod rhyw fath o wyrth wedi digwydd yn ein cegin ni heddiw!

Ymunodd Rebelde yn hyn gan honni ei fod ef wedi cael wyneb creadur o blaned arall. Dilornus iawn oedd El Jefe o'r awgrym hwn, a thynnodd sylw at y ffaith fod ei bancosen yn llawer iawn tebycach i Smot i ci nac unrhyw beth arall. Nid oedd Rebelde'n fodlon o gwbl, a llyncodd y darn heb sylw pellach!

Ac mae hynny'n brawf, pe byddai angen un, fod pancos Bojas Rojas a Mamgu yn rhai blasus dros ben. Ni allwn ond gobeithio y bydd Peladito a BR yn dod acw bob tro y bydd penblwydd o hyn ymlaen, oherwydd mae ambell bancosen yn fodd i godi calon hyd yn oed y dyn sy'n cael bywyd yn galed!

16.5.08

A phenblwydd hapus, Peladito!

Wel, wel, mae'n dymor y pennau blwydd, mae'n amlwg!

Un arall sy'n dathlu pasio carreg filltir dros y Sul hwn yw Peladito, mab El Jefe, a'r tro hwn mae ef yn disgwyl teisen sylweddol i nodi'r achlysur gan ei wraig newydd, Bojas Rojas. Un 'salw' iawn fydd hi os na fydd ganddi deisen!

Prin fod angen dweud beth yw oed y bachgen. Yr sawl sy'n gallu cyfrif fel Rhufeiniwr, cyfrifed!!

Penblwydd hapus, Pañuelo

Mae gweddill y stori yma yn 'BANNED'!

14.5.08

Darllenwyr o safon!

Heno, bu El Jefe yn siarad ar y teleffon gydag El Científico.

Yr oedd wedi gweld yr hyn yr oedd El Jefe wedi ei ddweud amdano rai dyddiau'n ôl yn y nodiadau hyn (gweler 'Ych a Pych!'), sydd ddim ond yn dangos pa mor ofalus mae'n rhaid i ddyn fod wrth ysgrifennu ar y we!

Beth bynnag am hynny, o feddwl am y peth, nid yw'n syndod o gwbl ei fod wedi darllen y darn, oherwydd fel y dywedodd El Jefe, mae'n ŵr o safon a chwaeth, ac yn un sy'n hoffi opera, sushi a phethau doniol felly!

Rhan o'i adloniant, felly, yw darllen geiriau fel y rhain, a'u mwynhau! Bendith arno, meddai El Jefe, a gwyn ei fyd!

13.5.08

Cadw cyfrinachau personol!

Wel, wel! Mae Peladito yn ôl, ac o'r diwedd cawn symud ymlaen oddi wrth y llun hwyaden hwnnw sydd wedi bod ar frig ei flog mor hir! Gweler y modd y mae'r hwyaden wedi gorfod ildio ei lle yma.

Darllenais ei ddatganiad diweddaraf, a gweld y geiriau, "Bu newidiadau mawr yn fy mywyd dros yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n gobeithio caf gyfle i son am yr anturiaethau hynny."

Gobeithio ddim, Peladito! Mae rhai pethau mewn bywyd ddylai aros yn breifat hyd y bedd! Ddaru dy rieni di ddim dysgu hynny i ti?

12.5.08

Ych a pych!

Mae croeso i chwi alw El Jefe yn tradicional, neu hyd yn oed yn conservador, os mai dyna'ch dymuniad, ond un peth y mae'n methu'n lân a chymryd ato yw'r syniad o fwyta bwyd sushi!

Tra yn Llundain yn ddiweddar, bu a'i drwyn ar ffenestr bwyty o'r fath yn edrych ar y bwyd yn mynd rownd a rownd fel tren bach. Beth ar wyneb daear sy'n gwneud i bobl sy'n ymddangos yn normal ym mhob cyd-destun arall fwyta'r fath bethau, yn enwedig pan fo'r 'danteithion' wedi pasio heibio i bobl sy'n pesychu a phoeri wrth siarad a'i gilydd yn y bwyty?

Mae gan El Jefe gyfaill sy'n bwyta'r bwyd hwn. Yn ôl pob son, mae El Científico wedi gwirioni arno! Ym mhopeth arall mae'n hollol synhwyrol, doeth, deallus a chytbwys, ond yn y mater hwn mae wedi llwyr golli plot holl ddatblygiad y gwareddiad yr ydym ni yn perthyn iddo!

Mae hyn wrth gwrs yn dangos gwirionedd yr hen, hen ddywediad, 'Pan gyll y call, fe gyll ymhell!'

10.5.08

O diar mi!

Bu El Jefe yn ei drydedd prifddinas mewn llai na pythefnos ddoe ac echdoe. Wedi bod yng Nghaerdydd a Chaeredin ar ddiwedd Ebrill, tro Llundain oedd hi yr wythnos hon.

Gwaetha'r modd, rhywun arall oedd yn gofalu am y trefniadau llety ac, o ganlyniad, cafodd El Jefe ei hun yn aros mewn 'deif', lle cwbl anaddas i ddyn o'i urddas ef. Dyna pam yr ebychodd, 'O! diar mi!'

Gan mor siomedig ydoedd, tynnodd lun er mwyn dangos i chwi safon 'is-na-mynachaidd' y lle. 'Un i'w osgoi i'r dyfodol,' oedd barn El Jefe!

Ei unig gysur oedd fod Henk, cyfaill iddo o'r Iseldiroedd yn aros yn yr un pydew, ac wedi cael eu hallweddi, aeth y ddau allan am swper, a mwynhau eu hunain yn fawr iawn! Pa bynnag ddiffygion sy'n perthyn i Lundain fel lle, 'does dim amheuaeth nad yw'n le eithriadol o dda am fwyd!

Bob tro y bydd Henk yn dod draw i Brydain o'r Iseldiroedd, mae'n rhaid iddo gael prynu te, ac felly bu'n rhaid mynd i ganolfan siopa Brunswick nepell o orsaf Euston i chwilio am beth. Yr oedd y dewis yn helaeth, fel ym mhob canolfan siopa, a phrynodd Henk bwysau da o'r dail i fynd adref gydag ef. Diau y bydd yn sipiau yn helaeth yn awr tan y daw drosodd nesaf, rhywdro ym mis Medi!

Un nodyn dwys cyn gorffen: yr oedd y 'deif' yr oedd El Jefe a'i gyfaill yn aros ynddi yn agos i'r man lle y chwythwyd y bws i fyny yn ystod ymosodiad terfysgwyr 7/7.


Trist meddwl fod pobl yn gweld gwerth mewn gwneud y fath bethau, a chwalu bywydau eraill. 'Segurdod yw clod y cledd', y gwn a'r bom, a phob arf arall y gall dyn ei ddefnyddio i niweidio a lladd. Dyna farn El Jefe, beth bynnag!

7.5.08

Mae enw da yn bopeth!

Yr oedd ddoe yn ddiwrnod da i deithio deithio mewn car yng Nghymru - hynny yw, os oes gennych aire acondicionado yn eich car! Beth bynnag y gwres y tu allan, mae'r ddyfais honno'n sicrhau fod awelon peraidd a dymunol yn cylchdroi o'ch cwmpas drwy'r amser. Mae'n un o ddyfeisiadau mawr y ddynoliaeth!

Gan fod El Jefe'n mynd ar daith arall cyn diwedd yr wythnos, yr oedd wedi gorfod symud yn gyflym o amgylch Cymru yn yr awelon peraidd hyn, a theithio o'r gogledd i Abertawe, ac yna i Lanelwedd, cyn troi trwyn y coche bach yn ôl am y gogledd, lle'r oedd ei swper yn disgwyl amdano. Ar y daith yn ôl, fe stopiodd yn Ninas Mawddwy a thynnu llun capel yno.

Hoffodd yn fawr y maen a welir yn y llun. Sylwer nad 'Capel Cynulleidfaol' yw'r disgrifiad, ond 'Eglwysdy', sydd ddim ond yn dangos fod pobl Dinas Mawddwy wedi taro'r hoelen ar ei phen yn 1867, a nodi'n eglur mai dim ond 'tŷ' ar gyfer yr 'eglwys' yr oeddent hwy wedi ei adeiladu!

Ar yr 'eglwys' mae'r pwyslais, ar y bobl yn hytrach na'r adeilad. Ac yn y fan yna mae gwers i Gristnogion ym mhobman, sef mai mewn pobl mae angen buddsoddi adnoddau, amser ac arian, nid mewn cerrig, brics a sment.

Pan fo'n bosibl i chwi wneud y ddau, popeth yn iawn, ond pan fo'n rhaid dewis, y bobl ddylai ddod gyntaf bob amser. Dyna'r traddoliad Cynulleidfaol, yr un mae El Jefe yn ymhyfrydu ynddo.

Gyda llaw, diffiniad syml o eglwys Gynulleidfaol fyddai, 'cymuned o Gristnogion lleol sydd mewn cytundeb a'i gilydd i addoli Duw, ei wasanaethu mewn ufudd-dod i'w Air, a gweinyddu'r bedydd a'r cymun.'

Mae mor syml, ac nid oes son am adeilad!

5.5.08

Ydych chi'n mynd yn ben-isel?

Un o'r bechgyn acw dynnodd sylw El Jefe at gyflwr y blodau yr oedd Mujer Superior wedi eu rhoi ar silff y ffenestr.

Wedi dim ond ychydig ddyddiau ar ôl cael eu hunain yng nghanol bwrlwm yr hacienda acw, yr oedd rhai ohonynt wedi mynd braidd yn ben-isel a digalon yr olwg, tra'r oedd y lleill yn dal i edrych at i fyny, gan chwilio am yr haul, mae'n siwr!

Felly, mae'n ymddangos, y mae pobl hefyd. Ymhob sefyllfa, fe gewch rai sy'n torri eu calon, yn ildio i'w hamgylchiadau ac yn mynd yn ben-isel, tra bo eraill yn cadw eu pennau i fyny a chwilio hwnt ac yma am arwyddion gobaith. Y rheini, yn amlach na heb, yw'r bobl sy'n gwneud gwahaniaeth yn y diwedd.

Yr unig gwestiwn ar ôl i'w ofyn yn awr yw, pa fath un ydych chi?

2.5.08

Tren bach y 'sgwarnogod

Do, fe ddaeth El Jefe yn ôl mewn pryd i ymarfer ei derecho a votar!

Gadawodd y gwesty yng Nghaeredin yn fuan wedi cinio ddoe, a dal y tren cyntaf yng ngorsaf Waverley fyddai'n caniatau iddo ddychwelyd i Pais de Gales cyn ei bod yn rhy hwyr iddo fwrw'i bleidlais.

Daeth Mujer Superior i'w gyfarfod yn yr orsaf ar ddiwedd y daith 300 milltir, a mynd ag ef ar ei union i'r centro electoral er mwyn iddo fedru rhoi ei groes gyferbyn a'r enw cywir.

Os ydych yn disgwyl iddo ddweud wrthych enw pwy oedd hwnnw, mae arnaf ofn fod yn rhaid iddo eich siomi! Un o freintiau'r drefn bresennol yw nad oes rhaid i neb ddatgelu i bwy y mae wedi pleidleisio. Diogelwch y fraint honno, neu fe fydd y llywodraeth am gael gwybod! Mae nhw eisoes yn gwybod popeth arall amdanom ni!

Ond tybed, yn awr, wedi'r ymdrech fawr, fydd pleidlais El Jefe wedi gwneud unrhyw wahaniaeth? Ni allwn ond disgwyl am y canlyniadau er mwyn cael gwybod hynny.

Wrth gwrs, byddai'n haws pe na bai gwefan Cyngor Gwynedd wedi dadfeilio dan y straen o gael etholwyr eiddgar yn cesio darganfod pwy yw eu cynghorwyr nesaf yn mynd i fod. Dyma, ar y dde, y sgrin oedd yn croesawu ymholwyr brwd drannoeth diwrnod yr etholiad.

O gael eu hethol, o bosibl mai tasg gyntaf y cynghorwyr newydd fydd pleidleisio dros gael gweinydd mwy a gwell i'r Cyngor Sir! O wneud hynny, byddant yn gallu teimlo ar unwaith eu bod wedi gwneud rhywbeth i newid pethau yn y rhan yma o'r byd!

Gwyn eu byd!