24.11.08

Da 'te?




O'r diwedd, mae El Jefe wedi dod o hyd i'r union beth y mae capeli Cymru ei angen!

Mae'n naturiol, yn iachus, yn rhad ac yn hawdd ei ddefnyddio. Yr unig beth sydd angen i chwi ei wneud yw eistedd ar eich pen ôl a'i sipian.

Fe y dywedais, addas iawn ar gyfer pobl capeli Cymru, ynte?

22.11.08

Near miss!

Dyma sut olwg fyddai wedi bod ar gar El Jefe nos Iau diwethaf, oni bai am ei feddwl chwim!

Teithio adref yr oedd, ac wedi dod i Finffordd ger Porthmadog. Yr oedd ychydig wedi 10.00pm ac yntau'n gyrru ar 30 milltir yr awr (wir!) allan o'r pentref. Yn sydyn, penderfynodd y car y tu ôl iddo ei basio, ond pan oedd y ddau gar ochr yn ochr, dyma gar arall yn dod rownd y gornel i'w hwynebu! 'Doedd dim amdani ond derbyn ein bod yn mynd i gael 'head-on'!

Ond dyma lle y gwelwyd meddwl chwim El Jefe! Mewn ymdrech i arbed ei hun, gyrrodd ei gar ar y palmant, a thrwy hynny wneud lle i gar y mwnci oedd yn ceisio'i basio. Symudodd hwnnw yn ôl i'r ochr iawn o'r ffordd, a phasiodd y trydydd car, yr un oedd yn mynd i'r cyfeiriad arall, yn ddiogel ond gan ganu ei gorn a fflachio ei oleuadau yn ffyrnig!

Stopiodd El Jefe, a'r troseddwr! Ond gredwch chi beth ddigwyddodd nesaf? Penderfynodd y troseddwr yrru i ffwrdd heb ddweud na 'diolch' na 'mae'n ddrwg gen i'! Aeth El Jefe ar ei ôl, a chodi ei rif.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awr yn edrych i mewn i'r mater.

17.11.08

Mab y Gadair!

Bu El Jefe am dro ddoe i El Roble Torcido lle mae Peladito a Bojas Rojas yn byw. Gwaetha'r modd nid oedd BR yn gymaint o Bojas Rojas ag arfer, oherwydd yr oedd yn anhwylus a sâl, ac o ganlyniad yn welw.

Beth bynnag am hynny, mae eu cartref, La Tienda Vieja, wedi ei weddnewid yn ddiweddar! Nid yr un profiad yw galw yno bellach, nac aros yno chwaith!

Fe'ch clywaf yn gofyn, 'Beth sydd wedi digwydd?', a'r ateb yw fod Peladito wedi dod yn Fab Cadeiriol; mae ef a Bojas Rojas wedi prynu dwy gadair a soffa!

Fel dyn sy'n dioddef o 'la enfermedad de banco de iglesia', mae hyn wedi dod fel rhyddhad mawr i El Jefe. Lle gynt yr oedd cadeiriau a mainc galed, yn awr y mae cyfforddusrwydd braf.

Diolch Peladito a Bojas Rojas! Eistedded y hijo y nuera yn hedd y sillas newydd!

13.11.08

I-tap

Rhag ofn i chi feddwl mai mewn gwestai moethus yn unig y mae El Jefe yn aros, mae'n rhaid iddo ddweud wrthych am un gwesty y bu'n aros ynddo'n ddiweddar ym mhrifddinas Gwlad y Menyg Gwynion. Ei enw oedd 'I-tap'!

Wele lun o'r ystafell! Yr oedd yn debyg i gell, a'r syniad oedd fod dau yn cysgu yn y gwely, ac un arall wedyn uwch eu pennau yn y bync!

'Nefar in Ewrop or Sowth America,' meddai El Jefe wrtho'i hun! Byddai'n rhy beryglus o lawer gydag aelodau o'i deulu ef! Pe byddai mab yn cymryd at y bync, byddai wedi rowlio allan cyn y bore a disgyn ar El Jefe a Mujer Superior. Gan fod y tri mab yn hogiau heffdi, gallai'r fath gwymp achosi loes ddifrifol. Nid 'tap' fyddai, ond coblyn o swadan hegar.

Oni ddylid galw y gwesty yn 'I-swadan' felly, yn lle, 'I-tap'? Dyna fyddai fwyaf addas!

Tystiolaeth!

Mae El Jefe yn amau nad yw ei ddarllenwyr hoff yn credu pa mor arw oedd hi yn Aberystwyth pan oedd yno'n ddiweddar!

Cyn gadael y gwesty, tynnodd y llun hwn allan drwy ffenestr ei ystafell (gwydro sengl). Gellir gweld yn glir pa effaith yr oedd y gwynt wedi ei gael ar y coed bychain ar y balconi - yr oedd y cyfan wedi mynd yn gam, yn gorfod ymdopi a bod wysg eu hochr!

Wrth gwrs, mae El Jefe yn gobeithio nad oes angen dweud fod y coed wedi eu clymu i ffens y balconi! Os nad oeddech chi wedi gweithio honna allan, mae yna le i boeni am eich hachos chi!

11.11.08

Rhewi!

Dywedwch a fynnwch chi, lle oer yw Aberystwyth y dyddiau hyn!

Hyd yn oed pan fyddwch yn eistedd mewn gwesty ar y prom ac yn edrych allan dros y mor, os nad oes gwydr dwbl yn y ffenestr, credwch fi - mae'r awelon main yn gwthio i mewn ac yn wafftio'n rhewllyd o'ch cwmpas!

Peidiwch a cheisio dadlau gydag El Jefe wrth iddo ddweud hyn! Mae'n digwydd yn awr wrth iddo deipio'r geiriau hyn!

Brrrrrrrrrrrr!!

4.11.08

Hmmmmmmmmm!

Tra'n cydnabod fod yna lawer iawn o ryfeddodau i'w gweld yn y dwyrain, ac fod Taiwan yn ynys hynod iawn, mae'n rhaid i El Jefe gyfaddef nad oedd popeth yr oeddent yn ei baratoi ar gyfer ei fwyta yn apelio ato.

Dyma olygfa y daeth ar ei thraws ar ochr y stryd. Nid yw'n gwneud cyfrinach o'r ffaith ei fod wedi teimlo'n reit doji am beth amser wedyn ac wedi cael trafferth i feddwl am fwyta unrhyw beth o gwbl.

O graffu yn y fowlen, mae'n fwy na phosibl y byddwch yn deall pam!

Bydd El Jefe'n ôl yn fuan!



Gobeithio y byddwch yn falch o glywed fod El Jefe'n dod yn ei flaen yn ardderchog yn dilyn ei afiechyd blin, a'i fod yn mynd i fod yn holliach yn fuan iawn!

Pan ddigwydd hynny, bydd yn dod yn ôl i'r tudalennau hyn i'ch diddanu.