31.1.09

'O enau plant bychain . . .'

Dychryn wnaeth El Jefe pan welodd y creaduriaid hyn ar lawr cegin El Reverendo heno!

Aeth ati i edrych beth oeddent, a chael mai'r ateb oedd - slipars!

'Bobol bach,' meddai wrtho'i hun, 'Beth ar wyneb daear fyddai'n gwneud i ddyn fel Reverendo wisgo'r fath bethau?'

Wedi holi, dyma ddarganfod yr ateb - 'Cael ei ferch fach i'w prynu yn anrheg iddo.'

Da iawn ti, ferch Reverendo. 'Rwan, beth am brynu siwt Superman iddo fo?

He, he!

Llygad am lygad!

Heno, mae El Jefe yn aros gyda'i frawd, El Reverendo. Mae yna bob amser groeso ar yr aelwyd hon, a chryn dipyn o chwerthin!

Wedi dweud hynny, trist yw gweld gwendidau canol oed yn cydio yn yr hen Reverendo. Gadewch i mi esbonio; mae wedi cael sbectol am y tro cyntaf!

'Dim ond i ddarllen,' meddai wrth El Jefe.

'Ie. ie! Wrth gwrs, frawd!' Dyna mae pawb yn ei dweud - ar y dechrau!!

26.1.09

Mae'r pyp yn tyfu!

Wyddai El Jefe ddim fod cwn yn gallu tyfu mor gyflym!

Pe byddech yn craffu ar Nel, yr ast sydd yn y llun, rwy'n siwr y byddech yn gallu ei gweld yn datblygu o ran ei chorffolaeth ac yn cynyddu o ran ei maint.

Credwch fi, mae'n frawychus codi yn y bore, a gweld ei bod wedi tyfu eto dros nos! El Jefe druan!


Wedi dweud hynny, na foed i neb weld bai yn El Jefe! O gofio mai dim ond tua chwe modfedd a hanner, os hynny, oedd uchder neu daldra ci diwethaf Mujer Superior, fyddai dim disgwyl i'r hen fachgen fod yn arbenigo ar dyfiant cwn. Pan fo'r perro llawn maint mor fychan, toes 'na ddim cymaint â hynny o dyfu i'w wneud!

Mae un peth bach arall hefyd. Pwy sy'n ymddangos fwyaf peryglus i chi - Nel y ci, ynteu Rebelde, mab El Jefe?

Ar hyn o bryd, mae cyfarthiad Rebelde yn rhagori ar un Nel, ac mae El Jefe'n amau fod ei frathiad yn dipyn fwy poenus hefyd! Ond rhowch chi dri neu bedwar mis arall, ac fe fydd pethau wedi newid tipyn erbyn hynny.

Yn wir, ar y raddfa mae'r ast hon yn tyfu, nid ei chyfarthiad na'i brathiad fydd yn ein poeni, ond y perygl iddi sathru arnom ni! Mae lle i gredu y bydd hi fel eliffant!

Credwch chi fi, dechrau gofidiau yw hyn, dim ond dechrau'r gofidiau!

20.1.09

Ydi, mae bywyd yn galed!

Onid ydi El Jefe wedi dweud o'r dechrau fod bywyd yn galed? Bob dydd mae'n dod o hyd i dystiolaeth newydd i gadarnhau hynny.

Cymerwch, er enghraifft, Nel yn y fan yma. Tra mae rhai ohonom yn gorfod gweithio i ennill ein bara 'menyn, a chwysu er mwyn cael dau pen linyn ynghyd, dyma hi, aelod diweddaraf y Clwb y Cenel, yn mwynhau ei hun dan blanced gynnes ac ar sach cysgu.

Cyn hir bydd rhywun yn dod i'w bwydo ac i glirio ar ei hôl. Wedi hynny, caiff ei difyru a'i difetha!

Fel y dywedodd El Irlandés wrth El Jefe unwaith, '¡La vida no es justa!' (Tydi bywyd ddim yn deg!)

¡Exactamente, mi amigo, exactamente!

11.1.09

Croeso, Nel!

Tybiodd El Jefe y byddech yn hoffi cael gweld yr ychwanegiad diweddar at y teulu yn El Castillio!

Cyrhaeddodd yr ast fach hon ar ddydd Sul, 11 Ionawr, a hithau yn ddim ond 8½ wythnos oed.

Yn enedigol o Geredigion, mae bellach yn cartrefu yn y gogledd wedi siwrnai hir ond didrafferth i'w chartref newydd.

Bydd y sawl sy'n deall y pethau hyn yn gwybod mai 'ci bugail Almaenig' sydd yma, brîd y newidwyd ei enw yma ym Mhrydain oherwydd nad oedd Prydeinwyr ar un adeg yn hoff o unrhyw beth Almaenig.

Defnyddiwyd yr enw 'Alsatian' yn lle'r enw gwreiddiol.

Bellach, mae'r gymuned bridio cŵn yn dychwelyd at yr hen enw gan gyfeirio ato'n aml fel 'GSD' (German Shepherd Dogs).

Fel y byddech yn disgwyl, nid oes gan El Jefe unrhyw fwriad galw'r ast fach y fath beth (er mai dyna ydyw), oherwydd yr enw y mae'r teulu wedi ei roi arni yw 'Nel'.

Ni fydd yn ast fechan yn hir gan mai un o nodweddion y brîd hwn yw ei fod yn tyfu'n arswydus o gyflym.

Mae hynny'n awgrymu fod trafferthion dirifedi yn aros El Jefe unwaith eto, a diau y byddwch yn clywed yr hanes, ac yn gweld datblygiad Nel, ar y tudalennau hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Am y tro, yr unig beth y gall El Jefe ei ddweud yw, 'Croeso, Nel'!

Gyda llaw, oeddech chi'n gwybod mai'r cyfieithiad Sbaeneg am 'y ci' yw 'el perro'! Os na, dyna chi wedi dysgu rhywbeth newydd wrth ddarllen hanes El Jefe!

5.1.09

Syndod a rhyfeddod!

Mynd yn ôl i'w waith yr oedd El Jefe, yn dilyn cyfnod gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd, a phwy oedd yn cyrraedd y swyddfa yr un amser ag ef ond neb llai na chymeriadau'r deisen Nadolig!

Ar y blaen yr oedd Joseph, a dafad yn ei ddilyn gyda pharsel bach gwerthfawr ar ei chefn. Y tu ôl iddi hi, yr oedd Mair yn cadw llygad barcud ar y parsel.

Y tu ôl iddi hi wedyn, yr oedd bugail, ac yn cwblhau y fintai hapus, tri gŵr doeth oedd yn dal i gludo eu anrhegion, rhag ofn iddynt fynd i ddwylo Cyngor Sir Gaerfyrddin, mae'n siwr, wrth iddynt basio drwy'r rhan arbennig honno o'r wlad.

Uwch eu pennau yr oedd angel yn cadw gwyliadwriaeth, a mynd yr oeddent i gyd i gyfeiriad desg Wendy, y gogyddes a'u rhoddodd ar y deisen.

Mewn amrantiad, yr oeddent wedi diflanu, a go brin y gwêl neb hwy eto tan tua'r Nadolig nesaf!

4.1.09

In control!


Mae'n amlwg fod El Irlandés, cyfaill El Jefe, yn ei adnabod yn dda!

O wybod am ddau wendid El Jefe, y teledu a'i angen dwfn i gadw rheolaeth ar bethau, dyma El Irlandés yn prynu'r anrheg Nadolig hwn iddo.

Tydio'n ardderchog? Y rimôt mwyaf yn y deyrnas!

Cymharwch ei faint â’r darn 50 ceiniog sydd wrth ei ochr. Fel y gwelwch, mae'n anferthol!

Yr hyn na ŵyr El Irlandés yw y bydd El Jefe yn awr yn gallu rheoli ei deledu ef o El Castillio, ac mae'r ddau dŷ o leiaf dair milltir oddi wrth ei gilydd!

Gyda llaw, batri car sy'n rhoi pwer i'r rimôt. Mae y tu ôl iddo yn y llun hwn.

Croeso n’ôl - unwaith eto!


Da gweld fod Peladito (aka Tybi Boi) wedi penderfynu ail gydio yn ei flog! Gweler yma.

Bu'r we yn dlotach lle yn ystod ei absenoldeb.

Cofiwch chi, mae wedi ceisio ail gydio ynddi o'r blaen - a methu! Mae El Jefe'n credu mai rhywbeth fel 'pwysau cyfrifoldeb y bywyd priodasol' oedd y rheswm am y methiant y tro hwnnw!

O bosibl ei fod wedi cyfarwyddo â hynny erbyn hyn!

3.1.09

Crwcs!

Yng Nghaerdydd yr oedd El Jefe, ac wedi cael syniad da!

I arbed talu £6 y diwrnod am barcio yng nghanol y ddinas tra'r oedd ef a Mujer Superior yn dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd, aeth a'i gar i Benylan, at dŷ ei frawd, El Reverendo, a'i adael yno am ddau neu dri diwrnod. Wedi rhoi 'Krooklock' arno, aeth ymaith yn dawel ei feddwl i fwynhau ei hun.

Pan aeth yn ôl ato ar ddiwedd ei wyliau, darganfu nad oedd allwedd y 'Krooklock' ganddo. Yr oedd wedi diogelu ei gerbyd rhag cael ei yrru ganddo ef ei hunan! Dyma ffonio Mujer Superior, ond 'och a gwae', nid oedd allwedd ganddi hithau chwaith!

Nid oedd dim amdani ond galw am help yr AA (nage - NID Alcoholics Anonymous!). Daeth y dyn o fewn yr awr, ac wedi pwyso a mesur y sefyllfa, ymestynnodd am ei 'hacksaw'. Mewn pum munud, 'roedd El Jefe'n gyrru'n hamddenol i lawr y ffordd!

'Da hynny,' meddech chwi, ddarllenwyr. 'Beth?' meddai El Jefe. 'Fe delais arian da am y 'Krooklock' yna. Pe byddwn wedi gwybod mor hawdd fyddai llifio trwyddo, fyddwn i ddim wedi cyboli!'

'Krooklock', wir! Y 'crooks' oedd y bobl oedd wedi cynhyrchu'r fath declyn diwerth!

Y tro nesaf, bydd El Jefe yn tynnu darn o'r injan allan i atal ei gar rhag cael ei ddwyn!

2+2 = 4!


Annie Lennox yn siarad ar y teledu o blaid y Palestiniaid yn Llain Gaza heddiw, ac El Jefe yn gofyn i'w feibion, 'Beth oedd enw grŵp pop hon?'

'Arithmetics,' meddai Bandido heb oedi!

That just about sums it up!

1.1.09

Rownd a rownd!

Do, fe fu El Jefe a Mujer Superior yn y ffair!

Yr oedd yn ddychrynllyd o oer yno, a MS yn dioddef o hypothermia wedi iddi ddod yn ôl i'r gwesty.

Yr oedd yn werth mynd er hynny, petai ddim ond i weld yr olwyn fawr. Yr oedd yn strwythur trawiadol, a chyda'r golau oedd arni, yr oedd i'w gweld o bob cyfeiriad ar draws y ddinas.

Wrth gwrs, mae El Jefe'n ymwybodol o'r cwestiwn sy'n mynd trwy feddyliau'i ddarllenwyr yn awr.

A fu El Jefe ar yr olwyn? Wel do siwr! Onid ydi hynny'n amlwg!

Gallwch chwi benderfynu ym mha gerbyd yr oedd yn teithio!

Blwyddyn newydd dda i chwi unwaith eto!

I fyny ac i lawr!

Gwelwyd hwn mewn lifft yng Nghaerdydd.

Beth, ar wyneb daear, yw 'emergency breakdown' pan ydych chi mewn lifft? Onid yw pob 'breakdown' yn 'emergency'?

Os ydych chi mewn rhywbeth tebyg i focs esgidiau, a hwnnw i fod yn mynd a chwi o un llawr i'r llall, ond yn sydyn ei fod yn stopio rhwng dau lawr, onid yw hynny'n 'emergency' ymhob amgylchiad?

Ynteu oes yna achlysuron y byddech yn fodlon aros yn y lifft a marw'n ddistaw oherwydd eich bod o'r farn nad yw eich achos yn 'emergency' go iawn?

Pobl rhyfedd yw pobl dinas!