2.3.09

Cenwch yn llafar i'r Arglwydd

Nid yn aml y byddwch yn gweld offeryn fel hwn y dyddiau hyn, ond dyma oedd yng nghapel yr Annibynwyr yn Llanwrtyd lle bu El Jefe yn ddiweddar. (Gweler y stori flaenorol.)

Er mor fychan ydyw, gwnaeth yr organ fach ei gwaith yn rhagorol yn yr oedfa olaf, yr oedfa oedd yn dod a'r cyfan i ben wedi dros 300 mlynedd o hanes.

Nid bod yr offeryn yr oedran hwnnw, wrth gwrs! Ond wrth i'r organyddes bwmpio'r gwynt trwyddi trwy droedio'r pedalau yn egniol, penderfynodd yr organ mai yn soniarus yr oedd dod a phethau i ben, nid yn ddigalon nac yn alarus.

Yr hyn yr ydym ei angen yw i'r Ysbryd Glân ddod a phwmpio ychydig o wynt drwy'r eglwysi eraill cyn ei bod yn rhy hwyr. Ond pwy a ŵyr; fe all ddigwydd mewn rhai mannau eto, yn enwedig o gofio mai Duw sy'n gallu atgyfodi'r meirw yw ein Duw ni, nid un sydd wedi pacio'i fag a'n gadael!

Diwedd pennod

Ychydig dros wythnos yn ôl, bu El Jefe yn datgorffori eglwys yn Llanwrtyd. Ysytyr hynny yw ei fod wedi gweld cau capel arall. O fewn mis, mae wedi bod yn dyst i dri o'r achlysuron hyn; yn dyst i ddiwedd tair o gymunedau ffydd gwan a bregus.

Prin fod unrhyw beth yn dangos mor glir ein bod yn byw mewn cyfnod o newid mawr. Mae pennod gyfoethog yn hanes Cristnogaeth Cymru bellach wedi dod i ben, a rhan o ddyletswydd El Jefe ac eraill tebyg iddo yw nodi hynny gyda chymaint o urddas ag sy'n bosibl yn y fath sefyllfa.

Nid yw'n waith pleserus, ond mae'n waith y mae'n rhaid i rhywun ei wneud. Thâl hi ddim i ni adael pethau i fynd rhwng y cŵn a’r brain!