18.5.09

Ddy pyp growing yp!

Ydi, fel y gwelwch, mae'r pyp yn dal i dyfu.

Bellach, yn dilyn triniaeth lawfeddygol, gall fynd allan i chwarae yn ddi-lyfethair, a heb i El Jefe orfod poeni a yw ei gartref yn mynd i or-lifo o gwn bach maes o law!

Chwe mis a hanner yw Nel erbyn hyn, a thua chwe stôn a hanner hefyd. Mae'n yfed fel ych, ac yn bwyta fel ceffyl!

Mae wedi gwneud cymaint o ddifrod i ffens yn y cefn fel bod un ymwelydd eisoes wedi awgrymu y byddai 'Shredder' wedi bod yn enw da iddi!

Dim ond gobeithio mae El Jefe na chlywodd Nel yr awgrym, oherwydd mewn ychydig o fisoedd eto fe fydd yn ddigon cryf, a digon mawr, i gymryd talp allan o'i goes - hynny yw, os nad ydi hi'n gwerthfawrogi hiwmor fel yna.

Mae lle i bryderu oherwydd, wedi'r cyfan, ysgyrnygu ei dannedd wnaeth hi ar El Jefe pan awgrymodd o mai 'Schnell' oedd ei henw hi mewn gwirionedd, am mai ci Almaenig oedd hi.

Sie wurde nicht amüsiert!

PB hapus, Peladito!

Dyma'r ail benblwydd y mis hwn o fewn cylch cyfyng cydnabod El Jefe!

Pañuelo ddoe, Peladito heddiw!

Faint yw ei oed? Mae yn ei ugeiniau, ond y flwyddyn nesaf bydd yn cychwyn ar gyfnod newydd yn ei fywyd pryd y bydd yntau hefyd, fel eraill sydd wedi mynd o'i flaen, yn teimlo ei fod yn gadael dyddiau ieuenctid ar ôl.

Penblwydd hapus i ti, Peladito, oddi wrth bawb yn 'El Castillo'. Cawn ddathlu'r achlysur y tro nesaf y bydd El Jefe'n pasio heibio i La Tienda Vieja!

17.5.09

A chaewyd y drws!

Gan ei bod yn ddydd Sul, aeth El Jefe am y capel y bore yma. Nid yw'n gallu mynd i'w gapel ei hun yn aml am ei fod yn teithio cymaint, ond heddiw daeth cyfle.

I ffwrdd ag ef, felly, yn ei gerbyd modur, ond pan gyrhaeddodd, (och a gwae!) cafodd fod y lle dan glo a neb yno.

O edrych ar yr hysbysfwrdd, deallodd ei bod yn Sul cymanfa, ac yr oedd pawb wedi mynd i fyny i Ddyffryn Ogwen ar gyfer honno. O edrych ar ei oriawr, gwelodd El Jefe ei bod yn rhy hwyr iddo ef wneud hynny, ac felly bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref yn ddyn siomedig!

'Loc-owt ar y Sul, hwnna ydio!,' chwedl Ifans y Tryc, 'Loc-owt!'

Penblwydd hapus!

Dyma hi'n dydd Sul, 17 Mai, ac ydi, mae Pañuelo, fy chwaer yng nghyfraith, yn cael ei phenblwydd - eto! Nid yw'n 50 nac yn 52, ond eleni, rhywle yn y cyfeiriad yna mae cael nifer ei blynyddoedd.

Gwn nad yw'n mwynhau'r proses o heneiddio, ond mae'n gwneud hynny gydag urddas (y rhan fwyaf o'i hamser). Mae'n fythol ifanc (ar y cyfan), yn ymatal rhag sinigiaeth y canol oed (pan mae'n gallu), ac yn dal i fyw bywyd i'w eithaf (pan fo'r egni ganddi).

Felly, eleni eto, Pañuelo, penblwydd hapus iawn i ti! Mwynha dy ddiwrnod, a chofia fod pawb yn heneiddio'n gynt ar y tu allan nag y mae nhw ar y tu mewn!

Gwylier y gofod hwn am benblwydd arall yfory!

16.5.09

Pwy ydi hwn?

Mae nhw'n dweud fod gan pawb ei ddwbwl rywle yn y byd!

Os felly, tybed ydach chi'n gweld i bwy y mae hwn yn debyg?

He, he! Spitting image!


(Nodyn cyfreithiol: Nid yw El Jefe yn cynnig gwobr am yr ateb cywir.)

Mae pobl yn cwyno!

Mae bywyd El Jefe yn mynd hyd yn oed yn galetach!

Meddyliwch am y peth! Ac yntau yng nghanol ei brysurdeb, yn teithio, yn cyfarfod â phobl, yn ceisio eu helpu, eu cynghori, a thrwy wneud hynny, wneud bywyd yn haws iddynt, mae rhai pobl wedi cwyno ei fod yn esgeuluso ysgrifennu ei hanes yn y tudalennau hyn!

Gyfeillion mwyn, nid oes ond 24 awr i'r dydd, a dim ond 60 munud mewn awr! Mae El Jefe'n gwneud ei orau, ond mae'r pwysau gwaith yn ei heneiddio'n gyflym, fel y gwelwch yn y llun.

Wedi dweud hynny, mae El Jefe'n addo y bydd o hyn ymlaen yn gwneud ymdrech wirioneddol i roi rhywbeth ar y sgrin i'ch difyru!

Wedi'r cyfan, fe fyddai bywyd yn dipyn tlotach iddo heb y ffans!