28.9.08

Llogi

Heddiw, ar ei daith yn ôl o aeropuerto Manceinion, wedi iddo ffarwelio â Bandido, gwelodd El Jefe y cerbyd hwn.

Daeth cwestiwn i'w feddwl.

'Beth sy'n digwydd os mai dim ond pedwar yr ydych yn dymuno eu llogi?'

Dyrys!

27.9.08

Ar daith

Yfory, mae Bandido, ail fab El Jefe a Mujer Superior, yn mynd i Japan.

Mae'n mynd yno i roi arddangosfa o waith cerfio, a hynny ar wahoddiad cwmni o siopau yn y wlad.

Gwyn ei fyd, a phob dymuniad da iddo ar ei daith.

Cwestiwn!




Beth ddigwyddodd fan hyn, 'ta?

26.9.08

Beth ydi'r ysfa?

Yr wythnos hon bu El Jefe yn Coventry.

Fe gofiwch i'r ddinas gael ei bomio'n ddi-drugaredd gan yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mai un o'r adeiladau a chwalwyd oedd yr Eglwys Gadeiriol.

Mae'r adfail yno o hyd i atgoffa pawb o'r hyn a ddigwyddodd.

Wrth ochr yr hen adeilad, codwyd Eglwys newydd. Mae'n adeilad anferth, ac mae'r tu mewn yn wirioneddol hardd, fel y gwelwch. Nid yn unig y mae yno waith celf sy'n cipio'r anadl, mae yno hefyd ffenestri lliw gyda'r gorau a welodd El Jefe erioed. Nid oes gennym ddim tebyg i hyn yn yr hen wlad, Patagonia.

Ond pam, o gofio costau cynnal a chadw'r fath adeilad, yr adeiladawyd adeilad mor fawr, mor wych? Beth ydi'r ysfa sy'n peri fod pobl yn gwneud hyn? Mae'n ddirgelwch llwyr i El Jefe!

Oni all shed fod yn gysegr i'r sawl sy'n ceisio Duw yn gymaint ag unrhyw Eglwys Gadeiriol grand? Ac os oes angen lle i dyrfa, wel, yr ateb amlwg i El Jefe yw cael shed fwy . . .

. . . ond nid un mor fawr ag Eglwys Gadeiriol Coventry! Mae hynny'n sicr!


Tybed fyddai ymateb gweithwyr cwmni Watkino Jonso i sylw fel yna? (He, he!)

Dirgelwch!

Pam fod lori gario ceffylau yn gorfod bod ag arwydd arni sy'n dweud 'Caution Horses'?

Wrth deithio o amgylch y wlad, ni fydd El Jefe byth yn gweld lori ag arni arwydd yn dweud 'Caution Sheep' neu 'Caution Cows'.

A pham fod angen 'Caution'? Ydi ceffyl yn fwy perygus na tharw?

Ac os yw'r ceffyl mewn lori, onid ydi pawb yn ddiogel? Ai y pryder yw fod y perchenog wedi anghofio cloi cefn y lori'n iawn?

Os felly, nid y ceffyl yw'r perygl, ond y perchenog!

Mynd yn hen

Heddiw, mae El Jefe'n cael ei benblwydd.

Peidiwich a theimlo'n euog am beidio gyrru cerdyn iddo; dathlu'n dawel y bydd, a hynny yng nghwmni Mujer Superior.

Tydio'n beth rhyfedd fod pobl yn cwyno oherwydd eu bod yn 'mynd yn hen'.

Oni ddylem fod yn ddiolchgar ein bod ni'n fyw o gwbl, oherwydd rwy'n siwr y gall pob un ohonom feddwl am rywun fu farw'n ifanc ac na chafodd y fraint a gawn ni o basio un garreg filltir ar ôl y llall dros gyfnod maith?

Mae pob penblwydd yn rhywbeth i lawenhau ynddo, beth bynnag yw ein hoed.

'Penblwydd hapus' i mi fy hun felly!

16.9.08

Ciosg La Tienda Vieja

Tydwi ddim cweit yn siwr beth mae Peladito yn ei wneud yn awgrymu fy mod i, El Jefe, yn mynd i ddechrau saethu moch daear a gwenoliaid! Gweler http://anturiaethaupeladito.blogspot.com/

Un peth ydi gwneud y fath bethau ar y paith yn yr hen wlad, ond yng nghefn gwlad Ceredigion, mae El Jefe yn gwybod yn well!

Wedi dweud hynny, yr oedd yn werth i chi weld y ciosg teliffon o flaen La Tienda Vieja wedi i'r gwenoliaid "wneud eu rhifyn" drosto, chwedl Peladito! Yr oedd yn ffiaidd! Bron na fuaswn yn dweud eu bod yn llawn haeddu cael eu saethu!

Wrth gwrs, yn y llun hwn ar y dde, mae'r ciosg yn ymddangos yn lân, ond dychmygwch eich hun yn edrych allan o'r ffenestr sydd ar yr ochr dde iddo. Yn union uwchben y ciosg mae nyth y wenoliaid, a phan ddaw'r alwad byddant yn sticio'u pen-olau bach allan o'r nyth, ac yn gwneud eu hewyllys yn dra helaeth!

A dyna hi'n drybolau ar gefn y ciosg coch, yn union y tu allan i ffenestr Peladito a Bojas Rojas. Druan ohonynt yn gorfod edrych ar y fath olygfa.

Ond dyna ni, dyna sut beth yw byw yn y wlad!

15.9.08

Rhedeg allan o lythrennau!

Teithio i gyfeiriad Aberaeron yr oedd El Jefe pan ddaeth i Ystrad Aeron, pentref bychan ychydig filltiroedd o'r dref.

Yno, ar ochr y ffordd yr oedd yr adeilad hwn, ac enw ei berchnogion wedi ei osod mewn llythrennau bras ar ei ochr rhag i rhyw ddieithryn feddwl mai ef oedd piau'r lle.

Onid ydio'n hen dro fod y ffarmwrs lleol wedi rhedeg allan o lythrennau cyn iddynt allu gorffen yr enw, oherwydd mae El Jefe'n bendant mai 'Amaethwyr Ceredigion Cyfoethog' ydio i fod!

Cacs!

Beth fyddech chwi yn ei ddweud pe byddai gwraig yn dod atoch ac yn gofyn a ydych eisiau 'cac'?

Dyna ddigwyddodd i El Jefe mewn cyfarfod mewn festri yng nghefn gwlad Ceredigion yn ddiweddar!

Yr oedd wedi mynd yno i gyfarfod, ac ar ei ddiwedd yr oedd te parti bychan. Mae'n hen draddodiad i gael te o'r fath ar derfyn cyfarfodydd yng nghapeli Cymru.

Ac yntau'n yfed ei de, daeth y wreigan at El Jefe a gofyn y cwestiwn. 'I chi moin cac?' 'No thanciw,' meddai, nid oherwydd ei fod wedi camddeall yr hyn yr oedd y wraig yn ei ofyn, ond oherwydd fod Mujer Superior wedi ei roi ar ddeiet!

Pa reswm oedd gennych chi dros synnu fod y cwestiwn wedi ei ofyn?

8.9.08

Defnyddio tafodiaith

Bu El Jefe am dro i bentref mwyaf Cymru ddoe, i Rosllannerchrugog. Pwrpas yr ymweliad oedd i gymryd rhan mewn gwasanaeth i groesawu dau fachgen ifanc sy'n mynd yno am y naw mis nesaf i helpu'r eglwysi lleol gyda'u tystiolaeth a'u gwaith. Mae'n arbrawf diddorol, ym marn El Jefe.

Tra yno, sylwodd yr hen fachgen (sef, myfi), ar arwyddion enwau'r strydoedd, neu'r 'strytoedd', o bosib', yn Rhos! Yr oedd yr awdurdodau wedi gwneud defnydd o'r dafodiaith leol.

I fod yn onest, tydi hynny ddim yn gwneud llawer o synnwyr i El Jefe. Dychmygwch pe byddai ardaloedd eraill yn gwneud hynny! Fe fyddech yn cael 'Defern Bech' ym Machynlleth, 'Y Maes, ia!' yng Nghaernarfon a 'Town Centre, aye' ym Mangor!

Ond dyna fo! O bosibl fod Rhos yn wahanol ac yn gweld angen i ddangos hynny!

Ymlaen a chi, felly, 'strut your stuff'!

6.9.08

Under the influence!

Gwlad ryfedd ydi Cymru!

Os ydi Sodom, Nasareth, Carmel a Nebo yn y gogledd, mae'n ymddangos fod Bethlehem, Beulah, Hebron a Gethsemane yn y de! Dyna mae'r llun hwn a anfonwyd imi gan gyfaill yn ei ddangos, a Gethsemane yw'r rhyfeddaf ohonynt i gyd.

Mae pawb yn sylweddoli, wrth gwrs, mai o'r Beibl y mae'r enwau yma i gyd yn dod. Tybed pa argraff gaiff Iddewon ac Israeliaid pan ddônt yma ar ymweliad neu wyliau, a gweld enwau lleoedd yn eu gwlad eu hunain mor amlwg ar arwyddion mewn gwlad arall. Sbwci!

Mae angen deall hanes Cymru i werthfawrogi pam mae hyn wedi digwydd. Pa bynnag ddylanwadau sy'n siapio ei bywyd heddiw, bu adeg pan yr oedd bywyd ein cenedl yn cael ei siapio gan y Gristnogaeth yr oedd y bobl yn ei harddel, ac yn y dyddiau hynny, codi enwau allan o'r Beibl yr oeddent yn darllen cymaint arno yr oedd ein cyn-dadau a'n cyn-neiniau wrth enwi amrywiol leoedd.

Gwlad under the influence oedd Cymru, a da o beth oedd hynny! Fe'n gwnaeth ni'n bobl wâr.

Bellach, anwarineb ydi'r ffasiwn, ond mae'r angen am Gethsemane, a'r Gŵr fu yno, yn parhau.

1.9.08

Medi'r cyntaf: N’ôl i’r gwaith

Fel cymaint o bobl eraill, mae El Jefe yn mynd yn ôl i’r gwaith heddiw. Yr arferiad a'r traddodiad yw cwyno. Ai dyna ddylem ni fod yn ei wneud?

Oni ddylem fod yn llawenhau fod gennym waith i fynd iddo, a'n bod yn ddigon iach i fwrw iddi am gyfnod eto? Oni ddylem fod yn ddiolchgar ein bod yn cael cyflogau teg am yr hyn yr ydym yn ei wneud, a bod hynny'n caniatau i ni edrych ymlaen at gael amser hamdden wrth ein bodd rhywdro eto'n fuan?

Mae fel y son sydd wedi bod am law yn ddiweddar; pobl yn dweud fod gormod ohono, a'u bod wedi syrffedu arno! Mae hynny'n well na chael dim glaw o gwbl, neu fyw yn Awstralia, hyd yn oed os ydym ni'n cael dos o cryptosporidium hefo fo am ddim!

Iechyd da, pobl Bangor, Porthaethwy a Llanfairpwll!