Dyma gyfle o'r diwedd i son am beth o weithgarwch diwylliannol Peladito, Rebelde a Bandido. Rhybudd: Nid ydynt, o angenrheidrwydd, yn ymddangos yn y drefn yna yn y llun.
Gwelir hwy yma yng ngwisg draddodiadol y Maffi-aye.
Mae'n siwr y byddech yn cytuno ag El Jefe eu bod yn ymddangos yn giwed frawychus dros ben, yn debyg i'r hyn a elwir yn yr hen famwlad yn revolucionarios neu'n luchadores de libertad. Maent yn debyg iawn!
Beth bynnag am hynny, mynd allan am dro ar lan y môr yr oeddent ar ddiwrnod pan yr oedd y gwynt yn arbennig o fain ac oer, sydd ddim ond yn profi na ddylai neb neidio i gasgliadau pan yn gweld y ffordd y mae rhywun arall yn gwisgo. Y tu ôl i'r mygydau y mae tri o'r bechgyn mwyaf dymunol yn y wlad (tan i chwi eu croesi, wrth gwrs.) Mae eu parodrwydd i helpu eraill yn ddibendraw!
Os oeddech, wrth edrych ar y llun, am roi meibion El Jefe dan glo, a thaflu'r allwedd i ffwrdd, ¡usted debería estar avergonzado de usted! ('Dylech fod â chywilydd ohonoch eich hun!')
Y rhain yw rhai o'r Maffi-aye. Os oes gennych broblem, ac os nad oes neb arall yn gallu eich helpu, ac os y gallwch ddod o hyd iddynt, o bosibl y gallwch chwithau gael cymorth y Maffi-aye!
18.2.08
Rhai o'r Maffi-aye
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw
17.2.08
Cario baich, mewn enw'n unig!
Mae ambell un sy'n cael ei feichio gydag enw anffodus. Tra'n teithio ar y tren y dydd o'r blaen, a thra'n darllen ei gylchgrawn ffotograffiaeth arferol, daeth El Jefe ar draws yr enghraifft hon.
Druan ohono! Diolch i'r drefn nad yw'n Gymro Cymraeg, neu fe fyddai wedi ei watwar hyd at ddigalondid!
Dim ond un peth y byddwn yn ei ymbil arnoch - peidiwch, da chi, a rhoi gwybod iddo beth yw ystyr ei enw!
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw
Mae'r dyddiau'n mynd heibio
Ar ddydd Llun, 18 Chwefror, dim ond 40 diwrnod fydd tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas.
Erbyn hyn, maent wedi cael eu tŷ, ac mae edrych ymlaen mawr at y diwrnod y byddant yn symud i mewn iddo!
Dim ond un broblem sydd: nid oes bwyty Indiaidd, Sbaenaidd na Tseineaidd o fewn cyrraedd i'r lle! Beth wnânt am fwyd, y pethau bach? Byddai'n well i Bojas Rojas fynd i ddosbarthiadau gwneud cyri, neu rywbeth!
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw
Amgylchiadau anodd
Cafodd El Jefe, ei gydweithwyr a'i gyfeillion, wythnos arbennig o anodd yr wythnos ddiwethaf, ond nid dyma'r lle i fanylu. Bydd y sawl sydd yn gwybod beth ddigwyddodd yn deall.
A dyna'r rheswm pam y bu El Jefe mor ddistaw; nid wedi colli diddordeb mewn rhoi ei hanes yr oedd, ond teimlo nad oedd yn medru oherwydd yr amgylchiadau.
Erbyn hyn, mae'n gallu dweud mor dda y mae Duw wedi bod yn cynnal a chysuro amrywiol bobl yn ystod yr wythnos a aeth heibio.
Fel y dywed yr Beibl, 'trugarog a graslon yw'r Arglwydd'. Mae'n ffyddlon i ni ymhob amgylchiadau.
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw
6.2.08
Tempus fugit
Dim ond 52 o ddyddiau sydd ar ôl yn awr tan ddiwrnod priodas Peladito a Bojas Rojas.
Mae hynny'n 1,248 o oriau, neu'n 74,880 o funudau.
Buan y daw, a buan yr aiff heibio.
Ni allaf ond gobeithio a gweddio y bydd iddynt gael yr hyn a elwir yn yr hen famwlad yn 'matrimonio largo y feliz'
Gyda llaw, Peladito, mae gen i fatri iach iawn yn fy oriawr i!
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw
4.2.08
Y 'Menyg Duon'
Yn ystod 'Fin de Semana Venado' (hynny yw, 'Penwythnos Stag') Peladito, sefydlwyd cymdeithas newydd dan nawdd y Maff-aye, cymdeithas fydd yn cael ei hadnabod o hyn ymlaen fel 'Urdd y Menyg Duon'. Gwyliwch allan amdani!
Dyma'r cefndir. Diau eich bod wedi clywed am Gymru'n cael ei disgrifio fel 'Gwlad y Menyg Gwynion'. Wel, mewn adwaith i'r meddylfryd hunan-foddhaus hwnnw y sefydlwyd y gymdeithas newydd, i hyrwyddo daliadau hogia (a merched) 'go iawn' sy'n gweld, deall ac ymateb i bethau fel ag y maent yn y byd sydd ohoni heddiw.
Nid oes cyfansoddiad wedi ei lunio, a go brin y bydd un byth. Fe fydd y 'Menyg Duon' yn ymddangos a diflanu yn ôl angen Cymru a'i phobl, i amddiffyn un ac i geryddu'r llall!
Wwwwwww! 'Dwi'n siwr eich bod chi'n poeni 'nawr!
(Daw'r menyg duon o siop Gwerth-Gwlân am £1 y pâr. Maent yn ddelfrydol ar gyfer cadw'r dwylo'n gynnes pan fo'r gwynt yn oer!)
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw
He who hurries his curries, worries!
Do, fe gafwyd 'Fin de Semana Venado' (hynny yw, 'Penwythnos Stag') Peladito, a daeth y Maffi-aye at ei gilydd mewn rhan anghysbell o Gymru i nodi'r ffaith fod y bachgen wedi ei rwydo (yn wir, ei hudo) gan Bojas Rojas!
Dechreuodd y dathlu yn Por el Mar nos Iau diwethaf, a hynny gyda chyri. Chwech ohonom oedd yno: Peladito, El Jefe, Bandido, Rebelde, Rodrigo ac El Irlandés. Ar derfyn dirwnod caled o waith, daethom o amrywiol gyfeiriadau a chynnull mewn bwyty o'r enw Luz de Asia, ac yno cafwyd gwledd y bydd son amdani yn ein plith am flynyddoedd maith.
Sylwais fore trannoeth mai dim ond El Irlandés oedd wedi dod a rhywbeth gydag ef i'w helpu gydag effaith y cyri a'r danteithion eraill y buom yn eu mwynhau.
Hawdd gweld sut y mae wedi llwyddo i ddod ymlaen yn y byd! Mae'n edrych ymlaen ac, oherwydd hynny, yn un i'w edmygu.
Wedi ei osod gan
El-Jefe@hotmail.co.uk
0
sylw