31.5.08

Hiraeth am Hiraethog

Tra yng Nghaerfyrddin ar 29 Mai, cafodd El Jefe fynd i weld capel Heol Awst, un o'r ddau gapel Annibynnol sydd yn y dref.

Sylwodd fod yno ffenestri coffa lliwgar i gyn-weinidog yr eglwys, John Dyfnallt Owen, i Stephen Hughes (1622-88), Apostol Sir Gaerfyrddin, ac i nifer a gollodd eu bywydau yn Rhyfeloedd Byd yr ugeinfed ganrif. Yr oedd yno hefyd nifer o blaciau, er cof am amryw eraill.

Yr hyn nad oedd yno oedd unrhyw beth i ddweud mai yng nghapel Heol Awst y traddodwyd yr anerchiad gan Gadeirydd, neu Lywydd, cyntaf Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1872. Yr oedd hyn yn syndod i El Jefe, oherwydd yr oedd y diwrnod hwnnw yn gryn garreg filltir yn hanes y traddodiad Annibynnol yng Nghymru.

Gwilym Hiraethog oedd y Cadeirydd, a'i deitl cofiadwy - wrth sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, cofiwch - oedd, 'Satan'!

Da iawn, Gwilym! Cofiadwy dros ben, a nodweddiadol o'r Annibynwyr sydd bob amser wedi dangos tuedd i wrthod gwneud yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, a gwneud yr annisgwyl! Hir y parhaed y traddodiad hwnnw, meddai El Jefe!

Un da yw disgrifiad John Thomas, Lerpwl, o anerchiad Hiraethog. 'Er mai "Satan" oedd y testun,' meddai, 'yr oedd un a ymddangosai yn feistr ar Satan yn trin ei gyflwr, ac yn dinoethi ei ddichellion.'

30.5.08

Cofio John Penri

Bu El Jefe am dro i Gaerfyrddin ddydd Iau, 29 Mai, a hynny oherwydd ei bod yn Ddydd John Penri ac fod cyfarfod yn cael ei gynnal yng nghapel y Priordy i gofio amdano. Cafodd groeso mawr gan y Gweinidog a'r rhai oedd yn bresennol.

John Penri oedd un o Annibynwyr cyntaf Cymru. Yr oedd yn dod o fferm fechan o'r enw Cefn-brith yn Sir Frycheiniog, ac wedi troedigaeth tra ym Mhrifysgol Caergrawnt, trodd yn Biwritan a dechrau herio'r sefydliad eglwysig oherwydd ei ddiffyg darpariaeth ar gyfer pregethu'r Efengyl yng Nghymru.

Arweiniodd un peth at y llall, ac yn y diwedd fe arestiwyd Penri yn Llundain. Aethpwyd ag ef gerbron llys a'i ddedfrydu i'w grogi ar 29 Mai 1593, a hynny am deyrn-fradwriaeth (Sbaeneg: traición, Saesneg: treason). Yr oedd yn 29 oed a chanddo bedair o ferched bach.

Nid yw Annibynwyr Cymru erioed wedi anghofio'r digwyddiad hwnnw, a da yw hynny, oherwydd dylai cenedl gofio cewri y gorffennol, y bobl a safodd dros yr hyn oedd yn gyfiawn, yn deg ac yn gywir.

21.5.08

Gwneud amser

Credwch fi neu beidio, bu'n rhaid i El Jefe fynd i Lundain eto yr wythnos hon. Wrth ei fod yn mynd yno'n lled aml erbyn hyn, yr oedd yn dda ganddo weld ffrind o'r gorffennol ar y tren. Am ddarn helaeth o'r siwrnai bu'r ddau ohonynt yn cyfnewid hanes ac atgofion.

Cyfarfod byr gafwyd yn y ddinas, ond ar ei ffordd yn ôl adref cafodd El Jefe bleser annisgwyl, sef cwmni ei chwaer, La Melo, of no fixed abode gan ei bod yn byw ar y tren rhwng gogledd Cymru a phrifddinas yr Ymerodraeth Fawr.

Bu sgwrsio a chwerthin, a rhannu hanesion, ac wedi dod adref ni allai El Jefe lai na meddwl ein bod yn esgeulus iawn yn y dyletswydd o roi amser i'n gilydd, i ymlacio a sgwrsio - a'n bai ni ydio.

Oni ddylem fod yn gwneud amser i hyn, a hynny ar frys? Dim ond am ychydig yr ydym ar yr hen blaned yma, ac ofer dweud ar ôl i rywun fynd, 'Fe fyddai wedi bod yn dda pe byddem wedi medru gwneud mwy â’n gilydd.'

'Nawr yw'r amser i wneud hynny! Ffoniwch rywun yn awr i wneud cysylltiad ac i gael sgwrs. O leiaf fe fyddwch wedi dechrau wedyn!

18.5.08

Tempus fugit!

I lawer, bydd hwn yn ymddangos fel tegell, ond os edrychwch yn fanwl fe welwch mai 'amserydd' (timer) cegin ydyw, un o'r pethau hynny yr ydych yn rhoi 'tro' ynddo, ac yna'n ei adael i dician tan y bydd cloch yn canu i ddweud fod yr amser y bu i chwi ei osod ar y deial wedi darfod. Fe welwch y deial ar waelod y 'tegell', lle mae'r '0' i'w weld.

Heddiw, rhoddodd Mujer Superior 'dro' i'r amserydd am ddim rheswm yn y byd! Gosododd ef ar 10 munud, a mynd i wneud rhywbeth arall.


Hyn sydd yn poeni El Jefe: gan nad oedd yr amserydd yn amseru dim, oedd 'amser' yn cael ei wastraffu?

Mewn byd lle mae gofyn i ni fod yn ddarbodus, wnaiff hi mo'r tro i wastraffu dim!

Nid teisen, ond . . .

Pancos!

Dyna wnaeth Bojas Rojas i'w gŵr newydd, Peladito, ar ddiwrnod ei benblwydd, ac er fod teisen yn llawer mwy traddodiadol, bodlonodd El Jefe iddynt gael y pancos gan mai dyna, yn ôl BR, oedd yn draddodiadol yn ei theulu hi!

Felly, ganol y prynhawn, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael cinio nobl gan Mujer Superior, aeth y ddau ati uwchben y stôf i baratoi'r danteithion. Rysait o eiddo Mamgu oedd yn eu tywys, ac er fod BR ychydig yn fler wrth ei gwaith (gweler y jwg), yr oedd yn ymddangos i El Jefe yn addawol dros ben! Gyda chyfarwyddyd cadarn Mamgu ac ychydig o ymarfer, buan y bydd wedi meistroli'r grefft!

Wrth gwrs, fel sy'n digwydd ar achlysuron fel hyn, aeth pobl ati i ddechrau chwilio am siapiau a wynebau yn y cynnyrch. O edrych ar yr un sydd ar y dde, buasai El Jefe'n awgrymu fod arwyddion pendant o ymdrech fwriadol i borthi y ffwlbri hwn; os na, mae'n debyg y gallwn honni fod rhyw fath o wyrth wedi digwydd yn ein cegin ni heddiw!

Ymunodd Rebelde yn hyn gan honni ei fod ef wedi cael wyneb creadur o blaned arall. Dilornus iawn oedd El Jefe o'r awgrym hwn, a thynnodd sylw at y ffaith fod ei bancosen yn llawer iawn tebycach i Smot i ci nac unrhyw beth arall. Nid oedd Rebelde'n fodlon o gwbl, a llyncodd y darn heb sylw pellach!

Ac mae hynny'n brawf, pe byddai angen un, fod pancos Bojas Rojas a Mamgu yn rhai blasus dros ben. Ni allwn ond gobeithio y bydd Peladito a BR yn dod acw bob tro y bydd penblwydd o hyn ymlaen, oherwydd mae ambell bancosen yn fodd i godi calon hyd yn oed y dyn sy'n cael bywyd yn galed!

16.5.08

A phenblwydd hapus, Peladito!

Wel, wel, mae'n dymor y pennau blwydd, mae'n amlwg!

Un arall sy'n dathlu pasio carreg filltir dros y Sul hwn yw Peladito, mab El Jefe, a'r tro hwn mae ef yn disgwyl teisen sylweddol i nodi'r achlysur gan ei wraig newydd, Bojas Rojas. Un 'salw' iawn fydd hi os na fydd ganddi deisen!

Prin fod angen dweud beth yw oed y bachgen. Yr sawl sy'n gallu cyfrif fel Rhufeiniwr, cyfrifed!!

Penblwydd hapus, Pañuelo

Mae gweddill y stori yma yn 'BANNED'!