15.6.08

Beth sy'n digwydd?



Os am gael gwybod beth mae llywodraeth yr Ymerodraeth Fawr yn ei wneud, teithiwch ar dren!

Mae nhw'n gadael eu cyfrinachau i gyd ar rheini!

14.6.08

Megis pelican yn yr anialwch!

Pan oedd El Jefe yn yr orsaf yn disgwyl am i rif platfform y tren ymddangos ar yr hysbysfwrdd enfawr sydd yno, dechreuodd edrych ar y bobl oedd o'i gwmpas. Mawr, bach, tew, tenau, hen, ifanc, gwyn, du, dwyreiniol, gorllewinol, gogleddol, deheuol: 'roedd pob math yno. Ac nid oedd El Jefe yn adnabod yr un ohonynt! 'Sut gall hyn fod?' gofynnodd iddo'i hun, 'Sut y gall cymaint o bobl fod yn mynd a dod, a minnau'n sefyll yma fel pelican yn yr anialwch, yn ddieithryn i bob un ohonynt?'

Ar yr union foment yr oedd y cwestiwn hwn yn mynd trwy'i feddwl, daeth gwraig ifanc ato a dweud, 'Helo! Sut ydych chi heddiw?' Chwaer i ffrind El Jefe a Mujer Superior oedd hi, a bu'r ddau yn siarad am beth amser. Yr oedd hi newydd gyrraedd y Pydew ar dren, ac El Jefe'n disgwyl un arall i gael gadael!

Beth wnewch chi o beth fel yna? Dau lwybr yn croesi neb rybudd na rheswm. Sbwci, 'ta be? Ond dyna fo, mae yna amryw o bethau sbwci yn digwydd ym mywyd El Jefe!

Yr Hen Gorff a'r Corff Newydd

Do, bu'n rhaid i El Jefe fynd i'r Pydew, prifddinas yr Ymerodraeth Fawr, unwaith eto yr wythnos hon.

Pwrpas yr ymweliad oedd mynd i gyfarfod oedd wedi ei alw i drafod nifer o faterion, rhai ohonynt yn faterion o bwys, ac eraill yn rhai y gellid bod wedi sgwrsio amdanynt ar y teléfono. Felly mae'r rhan fwyaf o gyfarfodydd El Jefe, ac o dro i dro, mae mwy o'r ail ddosbarth nag sydd o'r cyntaf!

Mae El Jefe yn ymweld â phrifddinas yr Ingleses mor aml erbyn hyn fel bod holl antur y siwrnai wedi colli ei blas iddo! Mae mynd yno'n galed gan fod y daith yn hir, ac mae symud o gwmpas mewn lle mor boblog yn anodd ac yn dreth ar adnoddau corfforol dyn.

Onid peth da, felly, fyddai pe buasai El Jefe, a theithwyr eraill, yn gallu prynu neu logi corff newydd wrth gyrraedd neu adael yr orsaf? Enw'r siop yn y llun wnaeth iddo feddwl am hynny! Byddai medru cyfnewid yr Hen Gorff am Gorff Newydd yn arbed pobl rhag llawer iawn o flinder, ac yn caniatau iddynt dychwelyd adref yn llawn egni!

Nid felly y cyrhaeddodd El Jefe adref nos Wener, credwch fi! Megis crempog/pancosen ydoedd efe - fflat!

6.6.08

Hace tiempo...

Ar un adeg . . . yr oedd Gordon yn rhedeg y Trysorlys, yn rhedeg economi'r Ymerodraeth Fawr, ac yn gwneud hynny'n rhesymol effeithiol - nid nad oedd prisiau a threthi yn graddol godi; yr oeddent, ond nid ar yr un raddfa ag y maent ar hyn o bryd.

Ond yr oedd llygad Gordon ar joban arall. Yr oedd yn awyddus i gael allwedd Rhif 10 Stryd Ni, yn hytrach na Rhif 11. A chafodd ei ddymuniad! Lle bu gŵg, ymledodd gwên, o leiaf am ychydig!

Buan y daeth yn amlwg nad oedd Dewin y Trysorlys yn gallu bod yn Geiliog y Domen, ac nad oedd yr Ymhonnwr yn gallu bod yn Ymerawdwr.

A siawns nad oes yma wers i ni i gyd? Tydi'r ffaith ein bod ni'n dda am wneud un peth yn golygu y byddwn ni'n dda wrth wneud rhywbeth arall. Synnwyr cyffredin i'r rhan fwyaf ohonom ni, ond tydi hi'n biti fod yr hen Gordon wedi dewis llwybr mor galed i ddarganfod hynny?

¿Qué pasa?

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth! Dyna'r gwir amdani!

Ydach chi wedi gweld pris diesel y dyddiau yma? Tydi hi'n ddim syndod yn y byd nad oes yna neb yn y garej yma ar y dde! Mae nifer y bobl sy'n gallu fforddio rhoi tanwydd yn eu ceir yn mynd yn llai ac yn llai! A fedrwch chi ddim hyd yn oed codi morgej i dalu amdano fo chwaith; mae rhyw wasgfa neu'i gilydd yn y byd hwnnw hefyd!

Mae El Jefe yn beio'r Albanwyr. O'u plith hwy y daeth Gordon Brown, ac o'r diwrnod y daeth hwnnw'n Brif Weinidog yr Ymerodraeth Fawr, mae pethau wedi bod yn mynd at i lawr! Beth bynnag oedd diffygion y Mr Blêr hwnnw, roedd ganddo well trefn ar bethau na hyn. Yn ei gyfnod ef, roedd El Jefe o leiaf yn gallu fforddio talu am ei nwy a'i drydan, a llenwi bol y Tanc Bach y mae'n ei yrru.

Bellach, mae pethau wedi mynd ar chwâl. Beth ydi bywyd yn yr oerfel a'r tywyllwch pan nad ydach chi'n gallu neidio i'ch Tanc a mynd i rywle arall? Caled! Hwnna ydio! Caled dros ben!

2.6.08

¡Un renacimiento, al revés!

Bu El Jefe yn y capel bore ddoe yn gwrando ar ei hen gyfaill, El Irlandés. Ef oedd yn arwain y gwasanaeth ac yn pregethu.

Er nad gweinidog mohono, gwnaeth y gwaith yn ardderchog iawn gan herio'r gynulleidfa, ar sail stori Daniel yn yr Hen Destament, i sylweddoli bod iddynt hwythau hefyd eu rhan yng ngwaith y Deyrnas yng Nghymru y dyddiau hyn.

Pwy roddodd y si ar led nad oes angen i aelodau eglwysi Cristnogol wneud dim byd? Pwy bynnag oedd o, neu hi, fe wnaeth job ardderchog o argyhoeddi bron pawb.

Mae o wedi bod fel diwygiad at yn ôl! (Sbaeneg: ¡al revés! Saesneg: in reverse!)