14.6.08

Megis pelican yn yr anialwch!

Pan oedd El Jefe yn yr orsaf yn disgwyl am i rif platfform y tren ymddangos ar yr hysbysfwrdd enfawr sydd yno, dechreuodd edrych ar y bobl oedd o'i gwmpas. Mawr, bach, tew, tenau, hen, ifanc, gwyn, du, dwyreiniol, gorllewinol, gogleddol, deheuol: 'roedd pob math yno. Ac nid oedd El Jefe yn adnabod yr un ohonynt! 'Sut gall hyn fod?' gofynnodd iddo'i hun, 'Sut y gall cymaint o bobl fod yn mynd a dod, a minnau'n sefyll yma fel pelican yn yr anialwch, yn ddieithryn i bob un ohonynt?'

Ar yr union foment yr oedd y cwestiwn hwn yn mynd trwy'i feddwl, daeth gwraig ifanc ato a dweud, 'Helo! Sut ydych chi heddiw?' Chwaer i ffrind El Jefe a Mujer Superior oedd hi, a bu'r ddau yn siarad am beth amser. Yr oedd hi newydd gyrraedd y Pydew ar dren, ac El Jefe'n disgwyl un arall i gael gadael!

Beth wnewch chi o beth fel yna? Dau lwybr yn croesi neb rybudd na rheswm. Sbwci, 'ta be? Ond dyna fo, mae yna amryw o bethau sbwci yn digwydd ym mywyd El Jefe!

No comments: