31.8.08

Cadw'n ifanc - not mi!

Beth ar wyneb daear yw'r ysfa mewn pobl i geisio aros yn fythol ifanc? Nid dyna'r drefn, felly ofer pob ymdrech!

Sgwrs yn ystod Noson yr Hwtars wnaeth i El Jefe feddwl am y peth. Dywedodd rhywun fod pantalones caliente, closau pethion, hot pants, wedi dod yn ôl i ffasiwn. Aeth ton o gynwrf drwy'r merched, a dyma glywed sut yr oeddent hwythau wedi bod yn eu gwisgo ar un adeg.

Ac nid digon hynny! Rhaid oedd i ddwy ohonynt ddangos sut yr oeddent yn edrych yn y dyddiau hynny, trwy rowlio coesau eu trowsusau i fyny. Gadawaf i'r darllenwyr farnu a oedd hon yn olygfa werth ei gweld, ai peidio.

Un peth sy'n sicr, gwell gan El Jefe heneiddio'n urddasol yn hytrach na hiraethu am gyfnod sydd bellach wedi darfod. Welwch chi mohono fo'n rowlio coes ei drowsus i fyny, ar Noson yr Hwtars na'r un noson arall chwaith!

Noson yr Hwtars


Syndod a braw i El Jefe oedd gweld mewn llun fod El Constructor wedi ei ddal yn 'gwneud llygaid' ar Jacinto yn noson yr Hwtars!

(Do siwr! Rhoddwyd wig a mwsdash i El Constructor er mwyn diogelu ei enw da!)

Wele'r llygaid yn agosach, a barned pawb drosto'i hun!

Diolch fod Pañuelo druan wrth law i gadw golwg ar bethau, hyd yn oed os oedd hi ar yr un pryd yn ceisio cadw un o golofnau'r adeilad yr oeddem ynddo yn ei lle.

Naill ai hynny, neu roedd hi'n credu mai Samson oedd hi.

(Am hanes Samson a'r colofnau, gweler Llyfr y Barnwyr 16:23-31 yn y Beibl.)

30.8.08

Watch out! Mae'r 'Hwtars' abowt!

Neithiwr, a hithau'n noson gynnes ar derfyn haf, cyfarfu'r 'Hwtars' mewn mangre neilltuol rhywle yng Ngwynedd.

Nid ydynt yn cyfarfod yn aml, ond pan ddigwydd hynny, mae'n hŵt!

Yno, yng ngolwg y dylluan, ac islaw iddi, cafwyd amser difyr a doniol. Yn bresennol yr oedd El Constructor a Pañuelo, Señor a Señora Rival, yr Estrellas Errantes (sef Martillo a Jacinto), ac El Jefe a Mujer Superior.

Cewch ychwaneg o'r hanes gyda hyn!

27.8.08

Un arall o gwestiynau mawr bywyd!



Ydi pobl sy'n gweithio ar gyfrifiaduron drwy'r dydd yn mynd yn 'key-bored'?

Maddeuwch i El Jefe os nad yw'r cwestiwn yn un PC!

Ho, ho! Doniol iawn!

26.8.08

Pentref gwyliau newydd yng Nghlwyd

Dyma'r 'lle' diweddaraf i bobl fynd ar eu gwyliau iddo yng Nghlwyd!

Ni fu El Jefe erioed yno ei hun, felly ni all ddweud wrthych ai ardal o fewn ffiniau Sodom yw 'Cefn Du' ai peidio. Tybed a oes yno ardaloedd eraill, megis 'Blaen y Wawr' neu 'Ganol y Dref'? Un peth sy'n sicr; 'Cefn Du Sodom' ddylai fod y rhan waethaf o'r lle!

Os byddwch yn mynd yno ar ymweliad - mwynhewch! Gwell gan El Jefe gadw draw!

Am beth o hanes Sodom (a Gomorra), gweler Genesis 19:23-29 yn y Beibl. Dyweddir yn Genesis 13:13, 'Yr oedd gwŷr Sodom yn ddrygionus, yn pechu'n fawr yn erbyn yr Arglwydd.'

Tybed a yw pethau wedi gwella ar ôl ail-adeiladu'r lle?

El Jefe mewn stad!

Unwaith eto eleni, bu El Jefe a Mujer Superior yng Ngŵyl y Faenol yn mwynhau eu hunain, a chafwyd amser da.

Yn swn y gerddoriaeth arferol, cawsant gwmni difyr a diddan El Constructor a Pañuelo, a'r Los Rivales, y ddau hynny o Fodffordd sy'n enwog ar draws Ewrop am eu afternoon teas a'u brechdanau pysgodyn ac ŵy.

Nid ar y llwyfan yn unig y cafwyd perfformiad! Yr oedd Pañuelo a Señora Rival ar eu gorau, yn enwedig yn eu dynwarediad o Michael Jackson. Gofid mawr i El Jefe yw nad oes ganddo fotografía ohonynt i'w dangos i'w ddarllenwyr hoff!

Rhoddodd Pañuelo y farwol i'r syniad hwnnw rai misoedd yn ôl.

Total ban! Hwnna ydio! Total ban!

23.8.08

Newydd dorri!

Mae El Jefe wedi clywed fod neb llai na Michael Jackson yn bwriadu dod i Gymru i fyw!

Gan fod son mai ei ddymuniad yw cael dod i'r gogledd, mae Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi enwi pentref cyfan ar ei gyfer, er mwyn gwneud iddo deimlo'n gartrefol.

Edrychwn ymlaen at ei weld yno!

Nibs!

Wrthi'n tynnu lluniau ysgrifbin yr oedd El Jefe a Rebelde ar gyfer prosiect y mae Rebelde ynglyn ag ef y dyddiau hyn. Yr oedd yn waith diddorol a phleserus i ddyn sy'n mwynhau tynnu lluniau.

Ond daeth i gof El Jefe tra'n astudio'r ysgrifbin i ysgrifenyddes ei gyfreithiwr ofyn iddo rhyw ddiwrnod pan ffoniodd yno, 'Do you want to speak to 'his nibs'?

Bu bron i El Jefe roi bloedd o chwerthin! Nid oedd wedi clywed yr ymadrodd ers blynyddoedd!

'His nibs', wir!

21.8.08

Cwestiwn ac ateb


Cwestiwn: Pam fod pobl Aberaeron wedi mynd i'r fath drafferth i wneud eu tref y fwyaf lliwgar yng Nghymru?








Ateb: I dynnu sylw oddi wrth y traeth anobeithiol sydd yno!

(Gydag ymddiheuriadau diffuant i bobl Aberaeron.)

Anifail anwes Peladito

Fel arfer mae pobl yn cadw cathod neu gwn fel anifeiliaid anwes, ac o gofio fod Peladito wedi symud i fyw allan yn y wlad, nid oedd yn syndod i El Jefe glywed ei fod yntau wedi dilyn y ffasiwn, a mabwysiadu creadur i'w anwylo.

Yr hyn a ddaeth fel ychydig o sioc oedd mai malwoden sydd gan Peladito, a'i fod yn ei chadw yn y car.

Wele hi yn y llun, ochr yn ochr a darn punt, er mwyn i chwi fedru gweld ei maint.

Tybed ai dyma'r rheswm fod Peladito yn gyrru mor araf o amgylch y wlad?

Tipyn o hen falwen ydio! He, he!

Photo finish!

Mewn ymdrech i adfer ei enw da yn dilyn cyhuddiad ysgeler Peladito, bu El Jefe yn chwilio am dystiolaeth! Daeth o hyd i beth mewn man annisgwyl - mewn adlewyrchiad yn lampau gwesty'r Harbwrfeistr, yn y llun yr oedd Peladito wedi cyhuddo El Jefe o'i ddwyn. Dyma'r ran o'r llun wedi ei chwyddo:



Yn y llun fe welwch El Jefe ar y chwith yn tynnu llun. Mae'r camera o flaen ei wyneb. Yn nesaf ato, a'r tu ôl iddo, sylwer, mae Peladito - hefyd yn tynnu llun! Mae'r ddau gamera yn pwyntio i'r un cyfeiriad ac yn tynnu'r un llun. Ond gan fod Peladito yn tynnu llun y tu ôl i gefn El Jefe, pwy sy'n dwyn llun pwy?

Ddarllenwyr annwyl, chwi a gewch fod yn reithgor yn yr achos hwn.

Hefyd yn y llun mae Bojas Rojas (wrth ochr Peladito, yn siarad gyda ffrind), a Mujer Superior (yr un ochr i'r bwrdd ac El Jefe).

A yw'n ormod disgwyl am ymddiheuriad gan Peladito yn awr?

I rest my case!

17.8.08

Insylted!


Mae El Jefe wedi ei glwyfo, a hynny gan neb llai na Peladito (a'i fam, Mujer Superior, o ran hynny! Gweler yma)

Pwy sy'n dwyn lluniau pwy? Mae erthygl Peladito yn ateb y cwestiwn ar ei ben.

Oherwydd y cyhuddiad, mae El Jefe wedi tynnu ei gerbyd rhyfel allan o'r garej, er nad oes diferyn o waed Rwsaidd yn ei wythiennau o gwbl!

Swel-ingtons Bojas Rojas


Druan ohonof! Myfi a gefais fy nwrdio!

Wedi i mi dynnu llun wellingtons crand Bojas Rojas yn yr Eisteddfod, fe anghofiais eu cynnwys yn fy eiten gynharach ar 'Welis y Welshis'!

Pechais, mae'n ymddangos!

Dyma wneud iawn, felly, a chynnwys llun o'r wellingtons crandiaf ar y maes!

Tynnu ar y rhaffau!

Euthum am dro i Aberaeron neithiwr, ac i'r bar newydd sydd gan Westy'r Harbwrfeistr. Wedi cael croeso cynnes gan Glyn, y perchennog, a Dai y rheolwr, cafwyd amser da gan El Jefe wrth iddo sgwrsio gyda hwn a'r llall. Yr oedd yr awyrgylch yn ddymunol iawn, fel yr awgrymir yn yr adlewyrchiadau a welir ar lampau'r to.

Y tu allan yr oedd yn halabalŵ! Yr oedd hen, hen ddefod Gymreig yn cael ei chadw, a dyma'r esboniad a gafodd El Jefe gan un o hynafgwyr y dref.

"Bob blwyddyn, mae drwgweithredwyr yr ardal yn cael eu casglu at ei gili ar y cei, eu gwisgo mewn dillad merched, ac yna'u fforso i gystadlu mewn cystadleuaeth tug-o'-war gyda thim o real merched yr ochr draw. Ie, ie, dyna fe. Feri gwd!"

Aeth yn ei flaen, "Gan mor feri, feri strong and powerffwl yw merched Ceredigion, nid oes gobaith i'r brutes drwgweithredwyr, ac ar eu pennau i'r môr y maent yn mynd bob blwyddyn. Ie, ie; gwir bob gair!"

Ond yr oedd mwy i ddod! "Os yw'r llanw," meddai, "yn caniatau i rai ohonynt nofio at y 'ladyrs' ar ochr y cei, caniateir iddynt fyw, ond os ydynt yn rhy wan i wneud hynny, gadewir iddynt fynd gyda'r lli. Ie, ie; dyna fe! Straight out to sea!"

Mae El Jefe o'r farn mai mwy o arferion fel hyn sydd eu hangen ar gymdeithas heddiw i chadw mewn trefn. Bwriada awgrymu mabwysiadu yr un math o beth ar draws y Fenai cyn bo hir, er nad yw'n hyderus o gwbl y bydd Cynghorau Gwynedd na Môn yn ddigon blaengar i wrando arno, nac yn ddigon dewr i weithredu fel pobl dda Aberaeron.

Mae'n siwr y bydd y ddau Gyngor am drafod 'rheolau iechyd a diogelwch' a phynciau eraill tebyg!

Diflas! Diflas dros ben!

16.8.08

Ardal y Bont Haearn

Dyna le difyr yw ardal y Bont Haearn; 'Ironbridge' yn Saesneg. Ni fûm yno erioed o'r blaen ond dyma ddal ar y cyfle i ymweld â'r lle yn awr.

Yr hyn a geir yno yw pont haearn(!), y cyntaf o'i bath yn y byd. Fe'i codwyd ym 1779 pan oedd Daniel Rowland a Williams Pantycelyn yn fyw, a hynny cyn bod son am geir, awyrennau na hufen ia '99'. Yr oedd yn amser caled, yn enwedig oherwydd y diffyg '99s'!

Dros yr afon Hafren y codwyd hi, ac er nad oes cerbydau yn ei chroesi bellach, mae'n ymddangos mor gadarn ac erioed.

Tydio'n biti na allaf son yr un mor ganmoliaethus am yr afon ei hun! Yr oedd ei lliw a'i chyflwr yn siom i El Jefe, yn frown gyda math o lysnafedd gwyn yn arnofio ar ei wyneb.

Mae'n siwr mai dim ond pridd oedd yn peri'r lliw, ond i El Jefe, glas yw dŵr afonydd i fod, yn enwedig mewn ardaloedd gwyliau!

Ble mae Awdurdod Twristiaeth yr Ymerodraeth Fawr nad ydynt yn gwneud dim am y sefyllfa hon?

Ar eu gwyliau, mae'n siwr!

14.8.08

Good Show!

Bu El Jefe am dro i Sioe Môn ddoe, neu i'r 'Primin' fel bydd brodorion yr ynys yn ei galw. Dim ond unwaith o'r blaen y bu yno, a hynny flynyddoedd maith yn ôl. Oherwydd hynny, yr oedd yn falch o'r cyfle i gael mynd eto.

Cafodd docyn yn rhodd gan deulu Leonas, a diolcha'n fawr iddynt am y caredigrwydd. Peth rhyfedd yw bod yn wrthrych caredigrwydd cwbl annisgwyl.

Yr oedd bod yn y Sioe yn addysg i El Jefe, gan mai 'dyn y dref' ydyw yn hytrach na 'dyn y wlad'. Gwell ganddo balmentydd clir a golau stryd nac ymbalfalu yn y tywyllwch a chael pob math o aflendid ar ei esgid.

Gwelodd bob math o bethau yno, gan gynnwys blodau, llysiau a chynnyrch llaethdy a chegin. Yr oedd yn amlwg fod cystadlu brwd wedi bod yn digwydd, a llawer un wedi bod yn brysur.

Yr oedd yno gystadleuaeth win hefyd. Oni fyddai'n sbort gweld y beirniad wrth ei waith yn honno?! Ni fyddem yn caniatau iddo boeri allan gynnyrch y bobl gan y byddai hynny'n sarhad arnynt! Byddai'r creadur ar wastad ei gefn o fewn hanner awr! Da y cofia El Jefe am win y byddai mam Mujer Superior yn ei wneud ar un amser pan oedd yn cadw rancho; o ran ei gryfer, byddai wedi medru bod yn danwydd i'r car, neu yn gymorth rhagorol i dynnu paent oddi ar ddrws!

Ar wahan i'r danteithion a nodwyd, yr oedd pethau eraill i'w gweld yn y Sioe. Yr oedd y tractors yn tynnu'r llygad, nid yn unig oherwydd eu maint ond hefyd oherwydd eu bod yn newydd ac yn sgleinio! Yr oedd yna gasgliad sylweddol o rai gwyrdd, coch a glas! Oes yna gwmni sy'n cynhyrchu tractor du? Byddai'n llawer iawn mwy ymarferol i guddio'r baw, ond yn anoddach dod o hyd iddo pe byddech wedi anghofio ble'r oeddech wedi ei adael. O feddwl am y peth, gwell sticio at y lliwiau eraill!

Yr oedd yna hefyd neidio ceffylau, a chan nad oedd El Jefe wedi bod yn agosach na sgrin deledu i'r fath beth o'r blaen, dysgodd yn fuan i werthfawrogi dawn a meistrolaeth y marchogion.

'Roedd yna farchogion o fath arall yno hefyd! Gyda gwahanol rai yn cynrychioli Lloegr, Ffrainc a Chymru, a'r Marchog Du yn herio'r tri arall, llwyfanwyd 'drama'. Pwy fyddai'n fuddugoliaethus? Pwy fyddai'n ennill y wobr? Y Cymro aeth a hi, ac ni chafwyd neb o gwbl yn gweiddi 'ffics'! Rhyfedd o fyd!

A dyma brif ennillydd y dydd! Nid yw El Jefe yn cofio'i enw gan fod y bridwyr yn rhoi enwau pur ddigri ar eu hanifeiliaid gorau! Ond beth bynnag oedd ei enw, doeth fyddai ei alw'n 'Syr' pe byddech yn dod wyneb yn wyneb ag ef!

Y peth enbyd yw na allai El Jefe, wrth edrych arno, feddwl am ddim ond ei fwyta. O bosibl fod a wnelo hynny â’r ffaith fod Mujer Superior wedi rhoi El Jefe ar ddiet ar ddechrau'r wythnos. Felly, gyda'i fol yn rymblo'n ddilywodraeth wrth iddo grwydro'r maes, ni allai feddwl am ddim ond am beth y gallai ei fwyta nesaf! Ond dyma'r darn gorau, a'r prawf fod ond gorchymyn gwraig dda yn drech na phob temtasiwn; y cyfan a gafodd El Jefe i'w fwyta yn ystod y dydd oedd salad ffrwythau a'r dogn lleiaf posibl o 'paella' am yr hwn y talodd gymaint a £4.00!

'Good Show!', medde chwithau wrth gydlawenhau ag ef! 'Mae'n amser i El Jefe golli pwysau!'

Oedd yn rhaid i chwi ychwanegu'r geiriau yna, a sbwylio popeth?

12.8.08

Pwy aiff i'r Aifft?

Bu un o gyfeillion El Jefe, y byddai'n well ei gadw'n ddi-enw am y tro, ar wyliau yn yr Aifft yn ddiweddar.

Wedi gweld y pyramidiau ac ysgwyd llaw gydag ambell un o'r brodorion, dychwelodd adref gyda mwy na lluniau i'w atgoffa o'i daith.

Mae bellach yn Gadeirydd (!) Ymgyrch Arbed Toiledau Erwd ar yr A470, rhag ofn y bydd eu hangen rhywdro ar ei ffordd i Gaerdydd!

'Eistedded y bardd yn hedd yr Eisteddfod!'

Cystadlaethau Eisteddfodol El Jefe

Dyma brif wobrau cystadlaethau answyddogol El Jefe. Nid oedd neb yn gwybod eu bod yn cystadlu, ond maent wedi ennill beth bynnag. Dyna fesur haelioni El Jefe!

1. Am y welis gorau - bachgen dienw!





2. Am wisgo'r het wirionaf ar y maes - Aled Davies o'r Cyngor Ysgolion Sul.





3. Am y crys mwyaf lliwgar ar y maes, Martyn Geraint





4. Am y gwaith celf gorau - Eglwys Dewi Sant, Caerdydd (nid oedd y peiriant yn gweithio!).





5. Am yr arddangosfa symudol orau o byjamasus wedi ei synchroneiddio - Gorsedd GB.




6. Am sicrhau anrhydedd fwyaf yr wythnos iddo'i hun - El Jefe, am gael ei ddwylo ar gwpan y pencampwyr rygbi cyfredol - Cymru!

Welis y Welshis

Wele yma engreifftiau o'r math welis a welwyd yn yr Eisteddfod.

Wrth reswm, wrth i bobl fynd a dod ar hyd y maes yn y glaw mawr a gafwyd, ni allai El Jefe fynd at bob un ohonynt a gofyn am gael tynnu llun eu traed. O bosibl y byddai ambell un wedi meddwl ei fod yn cinci ac wedi ymosod arno gyda'u ambarel!

Rhaid felly oedd bod yn ofalus, a dewis a dethol y traed oedd i gael dod yn wrthrychau sylw y camera. Wedi'r cyfan, dyna fyddai pob gwir artist wedi ei wneud, ac un felly yw El Jefe, fel y gwyddoch yn dda erbyn hyn. Nid Philistiad mohono, ond un sydd am warchod y safonnau ymhob maes, gan gynnwys maes yr Eisteddfod!

Beth bynnag am hynny, astudiwch y welingtonau a welir yma!

Ceir streipiau ar rai, dreigiau ar eraill, ambell i galon, tusw o flodau, patrwm wibli-wobli, smotiau amryliw, smotiau du a gwyn, ac yna welis gwyrddion rhyw ffermwr o Drawsfynydd.

Na fyddwch fychanus o'r welis hynny! Welis 'maes y gad' ydynt, ar gyfer y rhai sydd yn rheng flaen brwydr amaethyddiaeth ardal Amcan Un. Maent yn rhan o'r camofflaj, oherwydd y nod yw dychryn y dynion o'r Weinyddiaeth gan eu bod yn rhoi'r argraff o bell nad oes gan ffermwyr Cymru draed a'u bod rhywsut neu'i gilydd yn hofran uwchben y ddaear.

Mae'n gwestiwn diddorol sut mae'r rhai sy'n gwisgo'r welis hyn wedi dewis y par sydd ganddynt. Pam mae rhai yn dewis smotiau yn hytrach na phatrwm? Pam patrwm yn hytrach na llinellau? Pam wibli-wobli yn hytrach na chalonnau? Dyma rai o gwestiynau mawr Eisteddfod Caerdydd 2008.

Erbyn hyn, mae El Jefe yn rhedeg allan o bethau i'w dweud am welis, oherwydd nid yw'n bwnc y mae wedi rhoi llawer o sylw iddo cyn yr Eisteddfod hon. Ond gan fod ganddo gymaint o luniau ohonynt, mae'n teimlo y dylai ddal ati, oherwydd os na wna hynny, bydd yr eitem hon yn ei gofnod bywyd yn colli ei siap!

Ac wrth i ni dynnu tua diwedd y golofn, mae El Jefe am ddiolch i chwi am eich amynedd yn darllen mor bell a hyn! Mae'n glod i chwi. Gwyddoch fel y mae El Jefe yn mawrygu nodweddion fel teyrngarwch a ffyddlondeb; mae'r ffaith eich bod wedi cyrraedd mor bell a hyn yn yr ysgrif hon yn eich gosod yn y grwp dethol ac arbennig hwnnw - Urdd Ufudd Dderwydd Gorsedd Ysblenydd El Jefe!

O bosibl y cawn ni seremoni yn Eisteddfod y Bala y flwyddyn nesaf i'ch urddo'n ffurfiol. (Nid oes angen i aelodau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain wneud cais gan ein bod yn amheus o'r agwedd 'Brydeinig' sy'n perthyn iddynt. Mae'n debyg pe byddai Eisteddfod Fyd-eang yn cael ei chynnal yn rhywle fel Beijing y byddent hwy yn perthyn i 'Gorsedd GB'. Nid felly nyni!)

El Jefe yn yr Eisteddfod!

Do, bu El Jefe yn yr Eisteddfod! Cynhaliwyd hi eleni mewn parc yng nghanol Caerdydd, ac awgrym rhai oedd fod hynny wedi digwydd rhag i bobl Caerdydd wybod ei bod hi yno, a gwir yw dweud na chafwyd llawer o arwyddion y tu allan i'r maes fod y Brifwyl yn y Brifddinas o gwbl. Ond peidiwch a gadael i ni fod yn rhy llawdrwm, er mor ffasiynol yw hynny ymhlith y rhai fyddai'n hoffi byw yng Nghaerdydd ond sy'n gorfod byw yn rhywle arall o fewn ardal Amcan Un. Gweithiodd llawer yn galed i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus, ac maent i'w llongyfarch oherwydd hynny.

Dau ddiwrnod o law a gafwyd yn ystod yr wythnos, ar y dydd Mawrth ar dydd Sadwrn. O'r ddau, y dydd Sadwrn oedd waethaf gan ei bod wedi tywallt yn ddi-dor drwy'r dydd. A dyna pryd y dechreuodd y sioe ffasiynau! Daeth y Welshis a'u welis i'r maes, a darparu diddanwch nid bychan i El Jefe. Yr oedd wedi cynhyrfu trwyddo o weld y fath amrywiaeth, y fath batrymau a'r fath liwiau! Aeth ati gyda'i gamera i hel casgliad bach o engreifftiau i'w dangos i'w ddarllenwyr ffyddlon. Fe'u gwelir yn yr eitem nesaf (sydd, wrth gwrs, uwchben hon!).