31.7.08

Un o lecynnau rhyfeddaf Cymru

Go brin ei bod yn bosibl i unrhyw un beidio â rhyfeddu at bentref Portmeirion: mae'n un o'r lleoliadau rhyfeddaf yng Nghymru!

Ar wahan i fod yn gefndir i gyfres deledu 'Y Carcharor', mae hefyd yn le o hud a lledrith gwirioneddol. Ar ddiwrnod braf o haf, prin y byddech yn credu mai yng Nghymru yr ydych. Mae mor dwyllodrus â hynny.

Ac i'r Eidal Fach hon y tu hwnt i Benrhyndeudraeth yr aeth El Jefe ac MS ddydd Sadwrn diwethaf. Yr oedd MS wrth ei bodd ac wedi dotio, ac yn tynnu lluniau fel petai hwn oedd y cyfle olaf un i wneud hynny. Bu El Jefe yntau'n ddigon prysur yn tynnu ambell i 'snap' hefyd, fel y gwelwch chi yn y fan yma!

Er nad yw'r lluniau'n cyfleu hynny, yr oedd nifer sylweddol o bobl ym Mhortmeirion ar ddydd ein hymweliad, ond rhan annisgwyl o ryfeddod y lle oedd gweld yr adar mor ddof wrth iddynt ddod i chwilio am eu briwsion. Nid oedd gan hwn (ar y dde) syniad pa mor agos y daeth i beidio goroesi y diwrnod y tynnwyd ei lun: pe bai wedi dod fodfedd yn agosach, rwy'n siwr y byddai Peladito wedi rhoi cnoc nid bychan iddo ar ei benglog, i amddiffyn Bojas Rojas, sydd ag arswyd ganddi parthed adar!

He, he! Meddyliwch o ddifrif am y peth! Aderyn bychan fel hwn yn gallu gyrru rhywun fel Bojas Rojas i fflap!! Digri dros ben!!

'Twît, twît!'

Yum, yum!!


Melone Pulchinella - un o ddanteithion nos Sadwrn diwethaf!

Oes angen dweud mwy?

Go brin!

30.7.08

Selybreshons!

Pethau rhyfedd yw cerrig milltir!

Gredwch chi, ar 26 Gorffennaf eleni yr oedd MS ac El Jefe yn dathlu penblwydd 30 eu priodas! Mae nhw wedi bod yn flynyddoedd da, a ninnau nid yn unig wedi cael hapusrwydd ond hefyd wedi cael gweld ein tri mab, Peladito, Bandido a Rebelde yn tyfu'n ddynion.

Dechreuodd y dathlu nos Wener, 25 Gorffennaf, pan aeth MS, El Jefe, Pañuelo ac El Constructor i westy'r Cei yn Neganwy i wledda. Trannoeth rhaid oedd i MS ac El Jefe fynd am dro, a hynny i'r un lle ag y bu iddynt fynd drannoeth eu priodas 30 mlynedd yn ôl, sef i bentref Eidalaidd, hudolus a rhamantus Portmeirion!

Yn ddiarwybod i MS yr oedd El Jefe wedi trefnu fod Peladito a Bojas Rojas yn dod yno hefyd (gweler ar y chwith), ac felly cafwyd sypreis nid bychan pan ddaeth y ddau i'r golwg.

Wedi dychwelyd gartref, aeth pawb allan eto i swper - MS, El Jefe, Peladito, Bojas Rojas, Bandido a Leona, a Rebelde. Cafwyd gwledd nid bychan yn y bwyty Eidalaidd yn yml pier Bangor.

Ar y Sul, rhaid oedd offrymu diolch, ac felly, yn capel yr oedd dod o hyd i El Jefe. Gweddus diolch pan fo dyn wedi derbyn cymaint o fendithion.

Dyna fy marn i, beth bynnag!

Beth ddigwyddodd?

Os oedd El Jefe'n medru gofyn 'Beth sy'n digwydd?' yn ei erthygl ddiwethaf, yna'n sicr fe allai darllenwyr y dudalen hon fod wedi bod yn gofyn gyda pheth cyfiawnder yn ddiweddar, 'Beth sydd wedi digwydd . . . i El Jefe?'!

Oherwydd prysurdeb mawr, a thon o galedi difrifol i gyfyngu arno, bu'n rhaid i'r hen fachgen roi heibio'r pleser o rannu ei feddyliau gyda'i ffrindiau. Ond yn awr, fel y gwelwch, mae yn ôl!

Gyda'r haf yn ymestyn o'i flaen, ac ychydig o seibiant yn dod yn sgïl hynny, mae'n debyg y bydd yn gallu rhoi ambell i stori yn ei lle o dro i dro.

Felly, 'gwyliwch y gofod hwn', fel mae nhw'n dweud - y bobl hynny sy'n 'cymryd ar fwrdd', yn cael 'meddyliau awyr las' ac sydd yn 'gollwng gwynt' yn lle rhechan fel pawb arall!

Mae El Jefe yn ôl!