31.12.08

Blwyddyn Newydd Dda

Croeso i 2009, a Blwyddyn Newydd Dda i bawb o ddarllenwyr y tudalennau hyn! Gobeithio fod y flwyddyn wedi dechrau'n hapus i chwi!

Mae El Jefe a Mujer Superior yn aml yn hoffi crwydro dros y flwyddyn newydd, a chafwyd hwy yn croesawu'r flwyddyn newydd hon ar strydoedd dinas Caerdydd.

Yr oedd parti mawr yno - ffair, rinc sglefrio ac olwyn fawr. Daeth miloedd ar filoedd at ei gilydd, yn bobl o bob oed, ac o bob lliw a llun. Yn eu canol yr oedd EJ a MS yn mwynhau eu hunain - nid yn mynd dros ben llestri cofiwch chi, dim ond mwynhau eu hunain yn fawr iawn!

Dim ond un broblem oedd, sef yr oerfel! Yr oedd y dymheredd gryn dipyn o dan y pwynt rhewi ac yr oedd golwg rhynllyd ar lawer.

Oedd hynny'n oeri brwdfrydedd EJ ac MS? Go brin! mae'n cymryd mwy nag ychydig oerfel i wneud hynny!

Blwyddyn Newydd Dda i chwi i gyd! Cewch ychwaneg o luniau parti'r brifddinas maes o law!

29.12.08

Dyn a dim digon i'w wneud!




Nid pob dydd yr ydach chi'n gweld wyneb Bart Simpson mewn Sultana Finger!

(Mae'n amlwg fod El Jefe ar ei wyliau.)

27.12.08

Mae rhai gwyrthiau'n amhosibl!


Wele, ar y chwith, un o anrhegion Nadolig Mujer Superior i El Jefe!

Fedrwch chi ddychmygu El Jefe mewn unrhyw le, dan unrhyw amgylchiadau, yn sefyll fel y cymeriad ar y clawr yma?

Wii think not!

Digwyddiadau rownd y deisen

Byddwch yn cofio'r deisen hardd hon a gafodd El Jefe a'i deulu yn anrheg gan Wendy, un o'r rhai sy'n cydweithio gydag El Jefe. Credwch fi, mae mor odidog ag y mae'r llun yn ei awgrymu, yn gampwaith cogyddol!

Wel, dros yr ŵyl, gwelsom bethau rhyfedd yn digwydd o'i hamgylch.

Ar fore dydd Nadolig, pwy ddaeth rownd o gefn y deisen ond tri nad oeddem wedi eu gweld ers y flwyddyn ddiwethaf, ers y Nadolig diwethaf i fod yn fanwl! Yr oedd y tri gŵr doeth wedi dod eleni eto i ymuno yn y dathlu!

Ni fu cymaint llawenydd yn El Castillio (cartref El Jefe) ers amser maith iawn. Yr oedd Mujer Superior yn ei dagrau, ac El Jefe yn llawenhau'n fawr.


Yr oedd Bandido (mab #2) o'r farn mai gwyrth fach Nadoligaidd oedd hon, a Rebelde (mab #3) yn dweud mai presenoldeb y 'Jesus Action Figure' yn y tŷ (gweler isod) oedd wedi peri i'r peth ddigwydd!

Beth bynnag y rheswm, mae'r deisen a'r digwyddiadau o'i chwmpas wedi gwneud Nadolig 2008 yn un arbennig iawn yn El Castillio. Bydd yn un y bydd y teulu yn cofio amdano am hir iawn!

Am El Jefe ei hun, mae'n llawenau fod pethau bach fel hyn yn gallu digwydd, a bod yn fodd i bobl fel ni gael ein hatgoffa o'r rheswm pam yr ydym yn dathlu!

A tydio'n sbort, gyfeillion!!

Anrheg annisgwyl, ond da!

A pwy meddech chwi yw hwn? Dyma'r hanes.

Derbyniodd El Jefe y cymeriad hwn yn anrheg gan Rebelde, sef mab #3, ar fore dydd Nadolig.

Wrth ei roi iddo, meddai'r mab, '¡Cuándo vi este, pensé en usted!' (yr hyn o'i gyfieithu yw, 'Pan welais hwn, meddyliais amdanat ti!')

Agorodd El Jefe'r anrheg yn ofalus, a gwirioni ag ef ar unwaith!

Gall deithio gydag El Jefe yn y car; gall fynd i bwyllgorau a chynadleddau, i gyfarfodydd a digwyddiadau. Nid oes llawer o anrhegion y gallwch wneud cymaint o ddefnydd a hyn ohonynt, ond mae hwn yn sicr yn un ohonynt.

Wrth gwrs, mae'n werth nodi nad Iesu sentimental, siwgwrllyd a diymadferth mo hwn, ond 'Action Figure', y math Iesu y mae angen i ni weld llawer iawn mwy ohono, a chlywed llawer iawn mwy amdano, yn y Gymru sydd ohoni heddiw!

Awn ati, bobl! Action!

Onestrwydd El Jefe!

Gobeithio i chwi i gyd gael Nadolig wrth eich bodd, a bwyta mwy na digon!

Rhag ofn i rywun dybio mai llenwi gofod y mae El Jefe pan yn profi safon ac ansawdd nionod picl, dyma ddangos i chwi ran o fwrdd swper El Castillo (cartref El Jefe) dros y Nadolig hwn.

Sylwer ar yr amrywiaeth gyfoethog o ddanteithion sydd ar y 'gweinydd mud' (y bwrdd crwn y mae'r potiau arno, ac sy'n troi er mwyn i chwi fedru dewis eich potyn).

Sylwer hefyd fod y potyn nionod picl yn y ffrynt bron yn wag! Da o beth, felly, fod gan El Jefe ddau botyn arall yn llechu tu'r cefn!

Ymlaen â'r dathlu a'r gwledda!

24.12.08

Nadolig Peladito

Mae Peladito a Bojas Rojas yn dathlu eu Nadolig cyntaf gyda'i gilydd yn El Roble Torcido.

Ar gyfer y dathlu, maent wedi cael coeden go iawn! Da iawn chi, P & BR!

Sylwch hefyd faint o anrhegion mae P wedi eu prynu i BR!

Trw lyf!

Nadolig llawen iawn i chi eich dau!

Wele!

Mae El Jefe eisoes wedi defnyddio'r gair wrth gyfarch ei ddarllenwyr a dymuno iddynt 'Nadolig Llawen', ond dywedwch i mi, pam mae 'Wele' yn air mor arbennig o addas ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn?

Siocled i weinidogion a ffyddloniaid!



Mae El Jefe'n gweld fod cwmni Cadbury oedd, ar y dechrau, yn gwmni Cristnogol (Crynwyr), wedi dod a siocledi arbennig allan ar gyfer gweinidogion a ffyddloniaid y ffydd yng Nghymru heddiw!

Mwynhewch!

Nadolig Llawen i chi i gyd!

Nadolig llawen iawn i bawb sy'n darllen y tudalennau hyn!

Do, daeth yn amser i ddathlu unwaith eto, a dymuniad El Jefe yw rhannu gyda chwi dros yr ŵyl rai o'r pethau, a'r delweddau, fydd yn peri llawenydd iddo.

Cymerwch, i ddechrau, y deisen hon - nid yn llythrennol, wrth reswm, oherwydd teisen El Jefe a'i deulu yw hi!

Fe'i cafwyd yn anrheg gan un y mae El Jefe yn cydweithio â hi; digon i chwi yw gwybod mai 'Wendy' yw ei henw, ac mai hi yw'r gogyddes deisennau orau yng Nghymru, os nad yn Ewrop gyfan!

Mae'n werth sylwi ar y manylion - clamp o deisen gydag eisin gwyn drosti fel eira. Wrth ei hochr, wele fugail a dafad, ac ar ei phen, angel, Mair a Joseff, a'r BJ!

Welsoch chi erioed deisen harddach? Mae teulu El Jefe wrth eu bodd ac yn diolch i Wendy. Y trafferth yw na allwn gadw'r deisen, a'i bwyta. Dyma, felly, fydd deilema cyntaf y Nadolig! Beth wnawn ni?

Ei bwyta, wrth gwrs (ond nid y bobl sydd arni, na'r BJ!).

Nadolig llawen bawb!

20.12.08

Gwastraff arian

Yn gynnar ym mis Rhagfyr, prynodd El Jefe gwdyn bach i ddal ei deleffon. Yn Tesco y gwelodd o'r cwdyn hwn, cwdyn oedd yn ffitio dros ei felt ac yn cuddio'r teleffon o dan ei fol.

Nid yw eto'n 'Ddolig, ac edrychwch beth sydd wedi digwydd i'r cwdyn! Mae un o'r strapiau sy'n dal y teleffon wedi torri!

Mae hyn yn esbonio i El Jefe sut mae Tesco yn gallu gwneud elw mor fawr. Os yw eu cwdyn teleffon yn para llai na mis, mae angen tua 14 ohonynt i gadw eich teleffon am flwyddyn!

Os yw El Jefe'n cofio'n iawn, fe dalodd £4.95 am hwn. Dyna i chi £69.30 mewn blwyddyn (£4.95 x 14)!

Siawns na ellid gwneud un am lai na £69 fyddai'n para am byth! Ydi Tesco'n gwneud hynny? Nac ydi siwr, oherwydd mae mwy o elw i'w gael o werthu y rhai sy'n torri o fewn y mis.

Cywilydd arnynt!

Dyfarniad El Jefe

Wedi blasu a chnoi am rai dyddiau, mae El Jefe bellach wedi dod i gasgliad am y nionod picl.

Oherwydd hynny, tybia mai doeth o beth yw iddo ddweud yn awr pa nionod y mae yn eu hystyried yn bencampwyr 2008, rhag ofn y bydd rhai o'r darllenwyr am fynd allan i brynu rhai ar gyfer yr Nadolig.

Dyma'r dyfarniad: os ydych yn hoffi gwefr o chwerwedd, o surni, yn eich nionod, ewch am nionod picl ASDA (Perfect with a Ploughman's). Cewch ddau jar am £2.00. Bargen!

Os, ar y llaw arall, eich bod yn hoffi pethau ychydig yn felysach, ond nid yn ormod felly, ewch am 'Haywards, Sweet Onions'. Maent yn ardderchog! Fantástico!

Edrych yn blanc!

Heddiw, daeth El Jefe ar draws hen gopi o'r 'Tyst', papur wythnosol yr Annibynwyr.

Ni wn a oedd newyddion ychydig yn brin yr wythnos yr ymddangosodd y rhifyn hwn, ond er y penawdau, syndod o absennol oedd y print.

Wedi meddwl am y peth, mae'n adlewyrchiad teg o gyflwr y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru yn y cyfnod diweddar.

Oes, mae rhai penawdau o dro i dro, ond ar y cyfan, ychydig o'r 'print mân' a geir, ychydig o glebran am y pethau sydd o bwys.

Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn dangos gymaint ar y blaen i bawb arall yw'r Annibynwyr. Mae yma onestrwydd a pharodrwydd i wynebu'r sefyllfa fel ag y mae, a dyna sydd ei angen heddiw - llai o ddianc rhag realiti y sefyllfa, a mwy o fwrw iddi i geisio newid pethau.

16.12.08

Bywyd caled El Jefe

Pam nad oes dim yn mynd yn hawdd ym mywyd El Jefe?

Dyma ni, yn gwneud ychydig o ymchwil i ansawdd a safon nionod picl. Ar y dechrau, 'roedd El Jefe wedi tybio mai tri neu bedwar math o nionyn y byddai'n gorfod eu blasu, ond erbyn hyn, wedi iddo ymweld ag ychydig o siopau, mae'n gwybod yn wahanol!

Y sefyllfa yw fod amrywiaeth eang o nionod picl ar y farchnad, a dyma El Jefe yn awr wedi gorfod prynu rhai 'crwyn arian' a rhai 'melys'!

Er mai'r un cwmni sydd wedi eu paratoi, mae'n rhaid fod gwahaniaeth rhyngddynt. Pam arall y byddai eu lliw a'u henw yn wahanol?

Mae'n amlwg y bydd yn rhaid i El Jefe gyfyngu ar ei ymchwil nionod neu wynebu'r posibilrwydd cryf y bydd yn sal fel ci dros y Nadolig.

Gwn na fyddai neb o ddarllenwyr y tudalennau hyn yn dymuno hynny, felly dyma gyhoeddi'n swyddogol, "na fydd EJ yn prynu ychwaneg o botiau nionod picl ond yn hytrach yn canolbwyntio ar y rhai sydd ganddo eisoes."

Cyn hir, bydd canlyniad yr ymchwil hwn yn cael ei gyhoeddi, ac El Jefe yn dweud ei farn onest am amrywiaeth o nionod picl.

Diau y bydd BBC Cymru a BBC News 24 ar ei ôl, felly maddeuwch iddo os na fydd son amdano am ychydig dyddiau.

Cuddio y bydd El Jefe!

14.12.08

El Jefe'n hyrwyddo'r achos!

Cafodd El Jefe anrheg Nadolig cynnar eleni, a hynny gan mab #3, Rebelde.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae Rebelde yn wneuthurwr offer ysgrifennu o safon, a daeth at El Jefe a dweud ei fod wedi gweld yr union beth ar ei gyfer.

O'i boced, tynnodd allan y beiro hwn, beiro a wnaethpwyd ganddo ef ei hunan.

Sylwer ar y crefftwaith yn gyntaf gan fod y beiro wedi ei wneud allan o goedyn, ond sylwer wedyn ar y symbol Cristnogol sy'n addurno'r beiro!

'Defnyddia hwnna,' meddai Rebelde, 'Fe fydd yn hysbyseb dda i mi.' A gwir y dywedodd! Bob tro y mae El Jefe yn tynnu'r beiro hwn allan o'i boced mewn cyfarfod, mae rhywun yn siwr o ofyn o ble mae wedi dod, ac mae'r sgwrs am fusnes a chrefft Rebelde yn cychwyn!

Yr unig broblem yw fod un person wedi gofyn ai gan drefnydd angladdau yr oedd El Jefe wedi ei gael! Tydio'n beth rhyfedd fod arwydd sy'n golygu 'bywyd' i Gristnogion yn golygu 'marwolaeth' i eraill.

Mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le ar y modd mae Cristnogion yn cyfleu eu neges, ond mae beiro Rebelde yn rhoi cyfle i El Jefe ddweud rhywbeth bach i unioni hynny.

Diolch, Rebelde!

13.12.08

El Jefe mewn picl!


Diau y bydd darllenwyr ffyddlon y tudalennau hyn yn falch o ddeall fod ymchwil El Jefe i safon ac ansawdd nionod picl ar gyfer y Nadolig yn parhau!

Fe welwch yn y llun ei fod wedi cael tri potyn arall i'w hychwanegu at yr un a gafodd beth amser yn ôl o ASDA. Lled foddhaol oedd hwnnw, ond ar adeg eu blasu yr oedd yn rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliad pendant.

Y tri nesaf yw 'Tesco Spiced Vinegar', 'Haywards Traditional Onions', a 'Tesco Traditional'. Cawn weld beth fydd El Jefe yn feddwl ohonynt.

Bydd yr ymchwil yn cymryd ychydig o amser, wrth reswm, gan nad yw El Jefe'n awyddus i gael camdreuliad. Wrth ymwneud â nionod picl, mae'n bwysig talu sylw manwl i ganllawiau 'Iechyd a Diogelwch' gan fod i arbrofion fel hyn elfennau sy'n cyffwrdd â chynhesu global a nwyon tocsig.

Gwell peidio â manylu ymhellach, neu bydd El Jefe mewn picl go iawn!

5.12.08

Bargen!

Cafodd El Jefe e-bost heddiw yn cynnig y fargen ganlynol (wir!):

December Offers


USA on Sale now from only £298*



O ystyried y sefyllfa economaidd yno, pwy fyddai eisiau'r lle?

(* Dylid esbonio mai cwmni awyrennau oedd yn hysbysebu.)

N’ôl at y ‘Dolig!

Deallwch hyn, mae El Jefe yn hoff iawn o gig oer. Nid oes ganddo fawr amynedd gyda'r bobl hynny sy'n bwyta dim ond llysiau. 'Pwy sydd eisiau edrych fel sbrigyn o seleri?' oedd ei gwestiwn rhywdro pan ddaeth wyneb yn wyneb ag un o'r cyfryw rai!

Beth bynnag am hynny, ar adeg y Nadolig mae'n rhaid wrth ddanteithion gyda'r cig oer, yn eu plith yr hyn a elwir yng Ngogledd Cynru yn 'nionod picl'. Ond y cwestiwn yw, 'Pwy sy'n gwneud y nionod picl gorau?'

Mae hwn yn rhywbeth y mae El Jefe am ymchwilio iddo yn ystod yr wythnosau nesaf. Fel y gwelwch, mae eisoes wedi prynu (a bwyta) jar o Asda, ac mae un arall ganddo o Morrisons. Cyn hir, bydd yn cael un o Tesco, ac o fannau eraill hefyd.

Nid yw am gyfyngu ei ymchwil i gwmnïau mawrion. I'r gwrthwyneb, mae'n awyddus i flasu cymaint o engreifftiau o nionod picl ag sy'n bosibl. Oherwydd hynny, os ydych yn gwneud eich nionod picl eich hun, beth am roi jar i El Jefe i gael ei farn?

Anfonwch e-bost yn nodi eich enw, eich cyfeiriad a'ch rhif teleffon, ac fe ddaw El Jefe i gysylltiad â chwi. (Heb y manylion a nodwyd, ni fydd yn cyboli!)

Yn ôl at y picls rwan! ¡Navidad Alegre!

Rybish, 'ta be?





Mae El Jefe yn gweld y pethau rhyfeddaf wrth deithio!

Beth, meddech chi, mae'r lori yma'n ei gario?

Oedd angen dweud hynny ar ei chefn?

1.12.08

Mae'r Nadolig yn dod!

Mae'n Ragfyr y cyntaf, ac mae'r Nadolig yn dod!

Mae El Jefe yn edrych ymlaen! Beth amdanoch chi?


Os ydych am gwyno mai llun o Sion Corn sydd gan El Jefe yn hytrach na llun 'Cristnogol', anfonwch eich e-bost at sion-corn@gwlad-yr-ia.com

Prin fod angen ychwanegu na fyddwch yn derbyn anrheg ganddo wedyn!

Ho, ho, ho!

Le-bei!

Ar ei ffordd adref yr oedd El Jefe unwaith eto pan deimlodd ei hun yn mynd yn gysglyd!

Ac yntau'n teithio rhwng Corris a Dolgellau, dyma dynnu i mewn i'r le-bei ar ben bwlch Tal-y-llyn, diffodd yr injian a dechrau pendwmpian! O! mor felys oedd y cwsg!

O hyn ymlaen, nid 'le-bei' y bydd El Jefe yn galw'r llecyn hwnnw, ond 'le-bei-bei'!

Zzzzzzzzzz!!