18.5.09

Ddy pyp growing yp!

Ydi, fel y gwelwch, mae'r pyp yn dal i dyfu.

Bellach, yn dilyn triniaeth lawfeddygol, gall fynd allan i chwarae yn ddi-lyfethair, a heb i El Jefe orfod poeni a yw ei gartref yn mynd i or-lifo o gwn bach maes o law!

Chwe mis a hanner yw Nel erbyn hyn, a thua chwe stôn a hanner hefyd. Mae'n yfed fel ych, ac yn bwyta fel ceffyl!

Mae wedi gwneud cymaint o ddifrod i ffens yn y cefn fel bod un ymwelydd eisoes wedi awgrymu y byddai 'Shredder' wedi bod yn enw da iddi!

Dim ond gobeithio mae El Jefe na chlywodd Nel yr awgrym, oherwydd mewn ychydig o fisoedd eto fe fydd yn ddigon cryf, a digon mawr, i gymryd talp allan o'i goes - hynny yw, os nad ydi hi'n gwerthfawrogi hiwmor fel yna.

Mae lle i bryderu oherwydd, wedi'r cyfan, ysgyrnygu ei dannedd wnaeth hi ar El Jefe pan awgrymodd o mai 'Schnell' oedd ei henw hi mewn gwirionedd, am mai ci Almaenig oedd hi.

Sie wurde nicht amüsiert!

PB hapus, Peladito!

Dyma'r ail benblwydd y mis hwn o fewn cylch cyfyng cydnabod El Jefe!

Pañuelo ddoe, Peladito heddiw!

Faint yw ei oed? Mae yn ei ugeiniau, ond y flwyddyn nesaf bydd yn cychwyn ar gyfnod newydd yn ei fywyd pryd y bydd yntau hefyd, fel eraill sydd wedi mynd o'i flaen, yn teimlo ei fod yn gadael dyddiau ieuenctid ar ôl.

Penblwydd hapus i ti, Peladito, oddi wrth bawb yn 'El Castillo'. Cawn ddathlu'r achlysur y tro nesaf y bydd El Jefe'n pasio heibio i La Tienda Vieja!

17.5.09

A chaewyd y drws!

Gan ei bod yn ddydd Sul, aeth El Jefe am y capel y bore yma. Nid yw'n gallu mynd i'w gapel ei hun yn aml am ei fod yn teithio cymaint, ond heddiw daeth cyfle.

I ffwrdd ag ef, felly, yn ei gerbyd modur, ond pan gyrhaeddodd, (och a gwae!) cafodd fod y lle dan glo a neb yno.

O edrych ar yr hysbysfwrdd, deallodd ei bod yn Sul cymanfa, ac yr oedd pawb wedi mynd i fyny i Ddyffryn Ogwen ar gyfer honno. O edrych ar ei oriawr, gwelodd El Jefe ei bod yn rhy hwyr iddo ef wneud hynny, ac felly bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref yn ddyn siomedig!

'Loc-owt ar y Sul, hwnna ydio!,' chwedl Ifans y Tryc, 'Loc-owt!'

Penblwydd hapus!

Dyma hi'n dydd Sul, 17 Mai, ac ydi, mae Pañuelo, fy chwaer yng nghyfraith, yn cael ei phenblwydd - eto! Nid yw'n 50 nac yn 52, ond eleni, rhywle yn y cyfeiriad yna mae cael nifer ei blynyddoedd.

Gwn nad yw'n mwynhau'r proses o heneiddio, ond mae'n gwneud hynny gydag urddas (y rhan fwyaf o'i hamser). Mae'n fythol ifanc (ar y cyfan), yn ymatal rhag sinigiaeth y canol oed (pan mae'n gallu), ac yn dal i fyw bywyd i'w eithaf (pan fo'r egni ganddi).

Felly, eleni eto, Pañuelo, penblwydd hapus iawn i ti! Mwynha dy ddiwrnod, a chofia fod pawb yn heneiddio'n gynt ar y tu allan nag y mae nhw ar y tu mewn!

Gwylier y gofod hwn am benblwydd arall yfory!

16.5.09

Pwy ydi hwn?

Mae nhw'n dweud fod gan pawb ei ddwbwl rywle yn y byd!

Os felly, tybed ydach chi'n gweld i bwy y mae hwn yn debyg?

He, he! Spitting image!


(Nodyn cyfreithiol: Nid yw El Jefe yn cynnig gwobr am yr ateb cywir.)

Mae pobl yn cwyno!

Mae bywyd El Jefe yn mynd hyd yn oed yn galetach!

Meddyliwch am y peth! Ac yntau yng nghanol ei brysurdeb, yn teithio, yn cyfarfod â phobl, yn ceisio eu helpu, eu cynghori, a thrwy wneud hynny, wneud bywyd yn haws iddynt, mae rhai pobl wedi cwyno ei fod yn esgeuluso ysgrifennu ei hanes yn y tudalennau hyn!

Gyfeillion mwyn, nid oes ond 24 awr i'r dydd, a dim ond 60 munud mewn awr! Mae El Jefe'n gwneud ei orau, ond mae'r pwysau gwaith yn ei heneiddio'n gyflym, fel y gwelwch yn y llun.

Wedi dweud hynny, mae El Jefe'n addo y bydd o hyn ymlaen yn gwneud ymdrech wirioneddol i roi rhywbeth ar y sgrin i'ch difyru!

Wedi'r cyfan, fe fyddai bywyd yn dipyn tlotach iddo heb y ffans!

2.3.09

Cenwch yn llafar i'r Arglwydd

Nid yn aml y byddwch yn gweld offeryn fel hwn y dyddiau hyn, ond dyma oedd yng nghapel yr Annibynwyr yn Llanwrtyd lle bu El Jefe yn ddiweddar. (Gweler y stori flaenorol.)

Er mor fychan ydyw, gwnaeth yr organ fach ei gwaith yn rhagorol yn yr oedfa olaf, yr oedfa oedd yn dod a'r cyfan i ben wedi dros 300 mlynedd o hanes.

Nid bod yr offeryn yr oedran hwnnw, wrth gwrs! Ond wrth i'r organyddes bwmpio'r gwynt trwyddi trwy droedio'r pedalau yn egniol, penderfynodd yr organ mai yn soniarus yr oedd dod a phethau i ben, nid yn ddigalon nac yn alarus.

Yr hyn yr ydym ei angen yw i'r Ysbryd Glân ddod a phwmpio ychydig o wynt drwy'r eglwysi eraill cyn ei bod yn rhy hwyr. Ond pwy a ŵyr; fe all ddigwydd mewn rhai mannau eto, yn enwedig o gofio mai Duw sy'n gallu atgyfodi'r meirw yw ein Duw ni, nid un sydd wedi pacio'i fag a'n gadael!

Diwedd pennod

Ychydig dros wythnos yn ôl, bu El Jefe yn datgorffori eglwys yn Llanwrtyd. Ysytyr hynny yw ei fod wedi gweld cau capel arall. O fewn mis, mae wedi bod yn dyst i dri o'r achlysuron hyn; yn dyst i ddiwedd tair o gymunedau ffydd gwan a bregus.

Prin fod unrhyw beth yn dangos mor glir ein bod yn byw mewn cyfnod o newid mawr. Mae pennod gyfoethog yn hanes Cristnogaeth Cymru bellach wedi dod i ben, a rhan o ddyletswydd El Jefe ac eraill tebyg iddo yw nodi hynny gyda chymaint o urddas ag sy'n bosibl yn y fath sefyllfa.

Nid yw'n waith pleserus, ond mae'n waith y mae'n rhaid i rhywun ei wneud. Thâl hi ddim i ni adael pethau i fynd rhwng y cŵn a’r brain!

20.2.09

Ymwelydd!

Mae El Jefe ac MS yn hoffi gweld ymwelwyr yn taro heibio i 'El Castillo' o dro i dro.

Byddant yn ceisio rhoi croeso cynnes iddynt, ac yn anfodlon iddynt adael heb eu bod rhywfodd, rhywsut wedi torri peth ar eu syched.

Felly yr oedd hi'n ddiweddar yn achos yr hen Ddalai Lama. Daeth heibio am sgwrs ag El Jefe, i ofyn ei gyngor.

Cafwyd amser da, a gwych oedd gweld nad oedd ei archwaeth am baned o de draddodiadol Gymreig wedi pylu dim!

Doedd gan El Jefe ddim calon i'w roi iddo mewn cwpan 'china'.

Rhyddid i Tibet!

Arall-fydol!




Wah!

'Alien' ydi'r pyp wedi'r cyfan!

Holides

Ar ddechrau'r wythnos a elwir yn 'Wythnos Hanner Tymor', bu El Jefe ac MS draw i Wrecsam i weld cyfeillion iddynt, ac aros y noson.

Tra'n cydnabod ein bod i gyd yn mynd yn hŷn, mae dirywiad ambell un yn dangos fymryn yn fwy nac yn achos pobol eraill.

Beth mae o'n wneud?

Peidiwch a gofyn!

6.2.09

Mae'n ddrwg i'r iechyd

Sioc nid bychan i El Jefe oedd cerdded i mewn i'w gegin heddiw a darganfod fod y pyp wedi dechrau smocio!

Beth sy'n gwneud y peth yn waeth ydi ei bod yn gwneud hynny mewn 'enclosed space', a fedrwch chi ddim bod yn llawer mwy 'enclosed' nac yn hen gegin El Castillo.

I ddweud y gwir, mae'r 'hen gegin', yn debycach i gwpwrdd gyda dau ddrws, un yn y ffrynt, a'r llall yn y cefn.

Ac yn y fan honno yr oedd y pyp yn cnoi ar ei sigâr!

Ydi hi erioed wedi clywed am 'pyplic health'?

Sywler ar y ffordd y mae'n ceisio rhoi golwg caled a chŵl arni hi ei hun!

Poser!

3.2.09

Llais o'r lluwch!

A hithau wedi gostegu ychydig yn y bore bach, y diweddaraf yw ei bod yn awr yn bwrw eira'n drwm unwaith eto o amgylch swyddfa El Jefe.

Wrth reswm, mae'r llun ar y dde wedi ei dynnu allan o'r swyddfa, ac felly nid llun o'r swyddfa mohono, ond llun o swyddfa rhywun arall.

'Nodweddiadol o El Jefe,' meddech chi, 'yn rhoi pleser i eraill yn lle iddo'i hun!'

Peidiwch a thwyllo eich hunain, bobl. Mae hi'n rhy oer a diflas i El Jefe fentro allan i dynnu llun o'i swyddfa ei hun!

Yn y math yma o dywydd, goroesi yw'r flaenoriaeth, nid peryglu bywyd i gael llun del!

Y car bach dan gwrlid gwyn

Mae rhywbeth am eira sy'n gwneud i El Jefe deimlo'n farddonol, ac o'i gwmpas heddiw, a thros ei gar, mae o leiaf dwy fodfedd ohono!

Nid fod El Jefe yn fardd, wrth gwrs, ond mae'n teimlo weithiau fod rhywbeth o'i fewn sy'n ymdebygu i farddoniaeth, a'i fod yn ceisio gwthio'i ffordd allan!

Ni ŵyr a oes unrhyw un arall sy'n teimlo fel hyn o dro i dro, ond mae'n deimlad braf, er fod iddo elfen o rwystredigaeth.

Ynghanol eira sy'n parlysu popeth, dyna i chi rywbeth i fyfyrio arno! A oes o'ch mewn fardd sy'n ysu i ddod allan?

Yr ateb mwyaf tebygol i El Jefe a chwithau yw, 'Nac oes!'

'Get real!'

2.2.09

Eira mân, eira mawr!

Welodd El Jefe erioed y fath beth! Ychydig o blu eira, ac mae popeth yn dod i stop! Mae'r tywydd yn dod yn brif stori ar y newyddion, a gwlad gyfan yn cael ei pharlysu!

Sylwer mai 'plu' yw'r gair Cymraeg sy'n cael ei ddefnyddio wrth son am 'blu eira'! Ni allai El Jefe (nac El Reverendo, o ran hynny, ac mae ef yn gryn arbenigwr ar eiriau!) feddwl am air oedd yn cyfateb i'r 'flake' yn y 'snowflake' Saesneg. O'u cyfieithu, 'snow feathers' gawn ni yng Nghymru!

O wel, mae o leiaf yn ein gwneud yn wahanol i'n cymdogion dros y ffin!

31.1.09

'O enau plant bychain . . .'

Dychryn wnaeth El Jefe pan welodd y creaduriaid hyn ar lawr cegin El Reverendo heno!

Aeth ati i edrych beth oeddent, a chael mai'r ateb oedd - slipars!

'Bobol bach,' meddai wrtho'i hun, 'Beth ar wyneb daear fyddai'n gwneud i ddyn fel Reverendo wisgo'r fath bethau?'

Wedi holi, dyma ddarganfod yr ateb - 'Cael ei ferch fach i'w prynu yn anrheg iddo.'

Da iawn ti, ferch Reverendo. 'Rwan, beth am brynu siwt Superman iddo fo?

He, he!

Llygad am lygad!

Heno, mae El Jefe yn aros gyda'i frawd, El Reverendo. Mae yna bob amser groeso ar yr aelwyd hon, a chryn dipyn o chwerthin!

Wedi dweud hynny, trist yw gweld gwendidau canol oed yn cydio yn yr hen Reverendo. Gadewch i mi esbonio; mae wedi cael sbectol am y tro cyntaf!

'Dim ond i ddarllen,' meddai wrth El Jefe.

'Ie. ie! Wrth gwrs, frawd!' Dyna mae pawb yn ei dweud - ar y dechrau!!

26.1.09

Mae'r pyp yn tyfu!

Wyddai El Jefe ddim fod cwn yn gallu tyfu mor gyflym!

Pe byddech yn craffu ar Nel, yr ast sydd yn y llun, rwy'n siwr y byddech yn gallu ei gweld yn datblygu o ran ei chorffolaeth ac yn cynyddu o ran ei maint.

Credwch fi, mae'n frawychus codi yn y bore, a gweld ei bod wedi tyfu eto dros nos! El Jefe druan!


Wedi dweud hynny, na foed i neb weld bai yn El Jefe! O gofio mai dim ond tua chwe modfedd a hanner, os hynny, oedd uchder neu daldra ci diwethaf Mujer Superior, fyddai dim disgwyl i'r hen fachgen fod yn arbenigo ar dyfiant cwn. Pan fo'r perro llawn maint mor fychan, toes 'na ddim cymaint â hynny o dyfu i'w wneud!

Mae un peth bach arall hefyd. Pwy sy'n ymddangos fwyaf peryglus i chi - Nel y ci, ynteu Rebelde, mab El Jefe?

Ar hyn o bryd, mae cyfarthiad Rebelde yn rhagori ar un Nel, ac mae El Jefe'n amau fod ei frathiad yn dipyn fwy poenus hefyd! Ond rhowch chi dri neu bedwar mis arall, ac fe fydd pethau wedi newid tipyn erbyn hynny.

Yn wir, ar y raddfa mae'r ast hon yn tyfu, nid ei chyfarthiad na'i brathiad fydd yn ein poeni, ond y perygl iddi sathru arnom ni! Mae lle i gredu y bydd hi fel eliffant!

Credwch chi fi, dechrau gofidiau yw hyn, dim ond dechrau'r gofidiau!

20.1.09

Ydi, mae bywyd yn galed!

Onid ydi El Jefe wedi dweud o'r dechrau fod bywyd yn galed? Bob dydd mae'n dod o hyd i dystiolaeth newydd i gadarnhau hynny.

Cymerwch, er enghraifft, Nel yn y fan yma. Tra mae rhai ohonom yn gorfod gweithio i ennill ein bara 'menyn, a chwysu er mwyn cael dau pen linyn ynghyd, dyma hi, aelod diweddaraf y Clwb y Cenel, yn mwynhau ei hun dan blanced gynnes ac ar sach cysgu.

Cyn hir bydd rhywun yn dod i'w bwydo ac i glirio ar ei hôl. Wedi hynny, caiff ei difyru a'i difetha!

Fel y dywedodd El Irlandés wrth El Jefe unwaith, '¡La vida no es justa!' (Tydi bywyd ddim yn deg!)

¡Exactamente, mi amigo, exactamente!

11.1.09

Croeso, Nel!

Tybiodd El Jefe y byddech yn hoffi cael gweld yr ychwanegiad diweddar at y teulu yn El Castillio!

Cyrhaeddodd yr ast fach hon ar ddydd Sul, 11 Ionawr, a hithau yn ddim ond 8½ wythnos oed.

Yn enedigol o Geredigion, mae bellach yn cartrefu yn y gogledd wedi siwrnai hir ond didrafferth i'w chartref newydd.

Bydd y sawl sy'n deall y pethau hyn yn gwybod mai 'ci bugail Almaenig' sydd yma, brîd y newidwyd ei enw yma ym Mhrydain oherwydd nad oedd Prydeinwyr ar un adeg yn hoff o unrhyw beth Almaenig.

Defnyddiwyd yr enw 'Alsatian' yn lle'r enw gwreiddiol.

Bellach, mae'r gymuned bridio cŵn yn dychwelyd at yr hen enw gan gyfeirio ato'n aml fel 'GSD' (German Shepherd Dogs).

Fel y byddech yn disgwyl, nid oes gan El Jefe unrhyw fwriad galw'r ast fach y fath beth (er mai dyna ydyw), oherwydd yr enw y mae'r teulu wedi ei roi arni yw 'Nel'.

Ni fydd yn ast fechan yn hir gan mai un o nodweddion y brîd hwn yw ei fod yn tyfu'n arswydus o gyflym.

Mae hynny'n awgrymu fod trafferthion dirifedi yn aros El Jefe unwaith eto, a diau y byddwch yn clywed yr hanes, ac yn gweld datblygiad Nel, ar y tudalennau hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Am y tro, yr unig beth y gall El Jefe ei ddweud yw, 'Croeso, Nel'!

Gyda llaw, oeddech chi'n gwybod mai'r cyfieithiad Sbaeneg am 'y ci' yw 'el perro'! Os na, dyna chi wedi dysgu rhywbeth newydd wrth ddarllen hanes El Jefe!

5.1.09

Syndod a rhyfeddod!

Mynd yn ôl i'w waith yr oedd El Jefe, yn dilyn cyfnod gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd, a phwy oedd yn cyrraedd y swyddfa yr un amser ag ef ond neb llai na chymeriadau'r deisen Nadolig!

Ar y blaen yr oedd Joseph, a dafad yn ei ddilyn gyda pharsel bach gwerthfawr ar ei chefn. Y tu ôl iddi hi, yr oedd Mair yn cadw llygad barcud ar y parsel.

Y tu ôl iddi hi wedyn, yr oedd bugail, ac yn cwblhau y fintai hapus, tri gŵr doeth oedd yn dal i gludo eu anrhegion, rhag ofn iddynt fynd i ddwylo Cyngor Sir Gaerfyrddin, mae'n siwr, wrth iddynt basio drwy'r rhan arbennig honno o'r wlad.

Uwch eu pennau yr oedd angel yn cadw gwyliadwriaeth, a mynd yr oeddent i gyd i gyfeiriad desg Wendy, y gogyddes a'u rhoddodd ar y deisen.

Mewn amrantiad, yr oeddent wedi diflanu, a go brin y gwêl neb hwy eto tan tua'r Nadolig nesaf!

4.1.09

In control!


Mae'n amlwg fod El Irlandés, cyfaill El Jefe, yn ei adnabod yn dda!

O wybod am ddau wendid El Jefe, y teledu a'i angen dwfn i gadw rheolaeth ar bethau, dyma El Irlandés yn prynu'r anrheg Nadolig hwn iddo.

Tydio'n ardderchog? Y rimôt mwyaf yn y deyrnas!

Cymharwch ei faint â’r darn 50 ceiniog sydd wrth ei ochr. Fel y gwelwch, mae'n anferthol!

Yr hyn na ŵyr El Irlandés yw y bydd El Jefe yn awr yn gallu rheoli ei deledu ef o El Castillio, ac mae'r ddau dŷ o leiaf dair milltir oddi wrth ei gilydd!

Gyda llaw, batri car sy'n rhoi pwer i'r rimôt. Mae y tu ôl iddo yn y llun hwn.

Croeso n’ôl - unwaith eto!


Da gweld fod Peladito (aka Tybi Boi) wedi penderfynu ail gydio yn ei flog! Gweler yma.

Bu'r we yn dlotach lle yn ystod ei absenoldeb.

Cofiwch chi, mae wedi ceisio ail gydio ynddi o'r blaen - a methu! Mae El Jefe'n credu mai rhywbeth fel 'pwysau cyfrifoldeb y bywyd priodasol' oedd y rheswm am y methiant y tro hwnnw!

O bosibl ei fod wedi cyfarwyddo â hynny erbyn hyn!

3.1.09

Crwcs!

Yng Nghaerdydd yr oedd El Jefe, ac wedi cael syniad da!

I arbed talu £6 y diwrnod am barcio yng nghanol y ddinas tra'r oedd ef a Mujer Superior yn dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd, aeth a'i gar i Benylan, at dŷ ei frawd, El Reverendo, a'i adael yno am ddau neu dri diwrnod. Wedi rhoi 'Krooklock' arno, aeth ymaith yn dawel ei feddwl i fwynhau ei hun.

Pan aeth yn ôl ato ar ddiwedd ei wyliau, darganfu nad oedd allwedd y 'Krooklock' ganddo. Yr oedd wedi diogelu ei gerbyd rhag cael ei yrru ganddo ef ei hunan! Dyma ffonio Mujer Superior, ond 'och a gwae', nid oedd allwedd ganddi hithau chwaith!

Nid oedd dim amdani ond galw am help yr AA (nage - NID Alcoholics Anonymous!). Daeth y dyn o fewn yr awr, ac wedi pwyso a mesur y sefyllfa, ymestynnodd am ei 'hacksaw'. Mewn pum munud, 'roedd El Jefe'n gyrru'n hamddenol i lawr y ffordd!

'Da hynny,' meddech chwi, ddarllenwyr. 'Beth?' meddai El Jefe. 'Fe delais arian da am y 'Krooklock' yna. Pe byddwn wedi gwybod mor hawdd fyddai llifio trwyddo, fyddwn i ddim wedi cyboli!'

'Krooklock', wir! Y 'crooks' oedd y bobl oedd wedi cynhyrchu'r fath declyn diwerth!

Y tro nesaf, bydd El Jefe yn tynnu darn o'r injan allan i atal ei gar rhag cael ei ddwyn!

2+2 = 4!


Annie Lennox yn siarad ar y teledu o blaid y Palestiniaid yn Llain Gaza heddiw, ac El Jefe yn gofyn i'w feibion, 'Beth oedd enw grŵp pop hon?'

'Arithmetics,' meddai Bandido heb oedi!

That just about sums it up!

1.1.09

Rownd a rownd!

Do, fe fu El Jefe a Mujer Superior yn y ffair!

Yr oedd yn ddychrynllyd o oer yno, a MS yn dioddef o hypothermia wedi iddi ddod yn ôl i'r gwesty.

Yr oedd yn werth mynd er hynny, petai ddim ond i weld yr olwyn fawr. Yr oedd yn strwythur trawiadol, a chyda'r golau oedd arni, yr oedd i'w gweld o bob cyfeiriad ar draws y ddinas.

Wrth gwrs, mae El Jefe'n ymwybodol o'r cwestiwn sy'n mynd trwy feddyliau'i ddarllenwyr yn awr.

A fu El Jefe ar yr olwyn? Wel do siwr! Onid ydi hynny'n amlwg!

Gallwch chwi benderfynu ym mha gerbyd yr oedd yn teithio!

Blwyddyn newydd dda i chwi unwaith eto!

I fyny ac i lawr!

Gwelwyd hwn mewn lifft yng Nghaerdydd.

Beth, ar wyneb daear, yw 'emergency breakdown' pan ydych chi mewn lifft? Onid yw pob 'breakdown' yn 'emergency'?

Os ydych chi mewn rhywbeth tebyg i focs esgidiau, a hwnnw i fod yn mynd a chwi o un llawr i'r llall, ond yn sydyn ei fod yn stopio rhwng dau lawr, onid yw hynny'n 'emergency' ymhob amgylchiad?

Ynteu oes yna achlysuron y byddech yn fodlon aros yn y lifft a marw'n ddistaw oherwydd eich bod o'r farn nad yw eich achos yn 'emergency' go iawn?

Pobl rhyfedd yw pobl dinas!