29.1.08

Shocked, I was!

Bu El Jefe ar y tren i Lundain heddiw, i bwyllgor o 'arweinwyr crefyddol' yno. Yr oeddem yn llenwi ystafell mewn adeilad nepell o orsaf Euston.

Yr oedd un cynrychiolydd wedi rhoi ei deleffon symudol ar y bwrdd o'i flaen, ac wedi ei osod i grynu yn hytrach na chanu.

Hanner ffordd trwy sesiwn y bore, derbyniodd alwad, a chan fod y teleffon ar fwrdd pren, crynodd yn arbennig o swnllyd!

Trodd y dyn nesaf ataf, dyn nad oeddwn erioed wedi ei weld o'r blaen, heb son am sgwrsio ag ef, a dweud, '¡Pena buena, pensé que él se tiraba un pedo!', yr hyn o'i gyfieithu yw, 'Bobol bach, roeddwn yn meddwl ei fod yn torri gwynt (neu'n 'rhwygo bremain')!

Beth ar wyneb daear sy'n gwneud i rywun ddweud y fath beth wrth ddieithryn? Credwch fi, yr oedd yn gyfyng arnaf, ond llwyddais i gadw wyneb syth er bod fy ngreddf i chwerthin bron iawn a mynd allan o reolaeth yn llwyr!

28.1.08

Creulon, 'ta be?

Tydi rhai ffrindiau yn gallu bod yn greulon?

Mae'r sawl sy'n adnabod El Jefe yn gwybod nad yw'n fychan o gorffolaeth. Nid Sacheus cyfoes mohono, o ran maint na chyfoeth, er ei fod, fel y casglwr trethi gynt, wedi dod i adnabod y Gwaredwr.

Beth bynnag, nid am hynny yr oeddwn am son yn awr, ond am gyfarchiad a ddaeth gan un sy'n galw ei hun yn 'ffrind' i El Jefe!

Beth wnewch chi o'r magned rhewgell hwn a anfonwyd i mi yn rhodd drwy'r post?

'Creulon' yw'r gair ddaeth i'm meddwl i. 'Creulon iawn' hefyd! O'r holl bobl sydd yn y byd, oedd yn rhaid ei anfon i mi?

Cywilydd arnat, gyfaill!

26.1.08

Amynedd!

Daeth gair gan ŵr o'r enw Señor Gris, yn ymbil am gael gweld Pedro!

'The suspense is killing me,' meddai, yr hyn o'i gyfieithu yw, 'El incertidumbre me mata!'

'Araf bach, Señor Gris,' yw cyngor El Jefe. 'Rhaid pwyllo, a dysgu amynedd.'

Oni ddywedir yn y Beibl am Abraham: 'wedi disgwyl yn amyneddgar, fe gafodd yr hyn a addawyd.'

'Bydd wrth ein bwrdd'

Dyma i chi lun digon dymunol o'r Eifl. Yn Yr Eifl, mae cwpwl sy'n gyfeillion i El Jefe yn byw. Fe'u hadnabyddir fel 'Los Rivales'.

Gan fod El Jefe wedi bod yn arwain gwasanaeth yn eu capel y Sul diwethaf, gwahoddodd Mrs Rivales ef draw i de. Rhoddodd wahoddiad i Mujer Superior hefyd, ac El Constructor a Pañuelo. A dyna pam, mae'n debyg, y cwynodd Pañuelo nad oedd El Jefe wedi gwneud cofnod am wythnos, oherwydd ei bod hi am gael gwybod pa argraff yr oedd te p'nawn Sul Los Rivales wedi ei wneud arno!

'Roedd yn de ardderchog! Dychmygwch yr olygfa! Gan bod pawb ohonom wedi bod mewn capel y prynhawn hwnnw, yr oedd y gwŷr mewn crys a thei a'r merched yn eu dillad gorau. Yr oedd eistedd wrth y bwrdd fel camu yn ôl i gyfnod sydd bellach wedi darfod!

Aeth amser maith heibio ers i mi gael cystal te! Rwy'n dweud wrthych, yr oedd y brechdanau mor ardderchog fel mai trosedd yw eu galw'n 'frechdanau', ac yr oedd y teisennau mor rhagorol fel bod dim ond son amdanynt yn tynnu dŵr i'm dannedd y munud hwn! 'Rwy'n breuddweidio, hyd yn oed, am y sgons, yr hufen a'r jam, ac mae'r cacennau bach lemon wedi gwneud y fath argraff arnaf fel mai prin y gallaf gysgu'n esmwyth yn y nos!

Peth hyfryd iawn yw croeso, ac mae'n aml yn cael ei fynegi drwy'r trafferth y mae pobl yn fodlon mynd iddo ar ein rhan. Diolch, felly, i Los Rivales am brynhawn Sul hyfryd a chofiadwy!

Mae'r diet yn dechrau yfory!

Gyda llaw, glywsoch chi am y dyn aeth ar ddau ddiet? Toedd o ddim yn cael digon i'w fwyta ar un!!

Crys T i ryfeddu ato

Ar ei deithiau yn ystod yr wythnos aeth heibio, gwelodd El Jefe yr enwog Pedro, ond wrth gwrs, nid ydych chwi wedi eich cyflwyno iddo eto! Fe ddigwydd hynny'n ystod y dyddiau nesaf,

Yr hyn y mae El Jefe am ei ddangos i chwi heddiw yw ei grys T, ac os nad yw hwnnw'n peri rhyfeddod i chwi, mae'n rhaid nad ydych wedi bod yn darllen y cyfan o'r cofnodion hyn!

Mae Pedro'n gweithio i'r Neficoptyrs ac yn cyfrannu'n helaeth at y gwaith da y maent yn ei wneud. Os cewch gyfle rhywdro, cyfrannwch chwithau'n hael iddynt, oherwydd mae casgliadau yn cael ei gwneud o dro i dro, ac mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar y rhoddion y mae'n eu derbyn gan bobl fel chi a fi.

Enghraifft o'r gwaith da sy'n cael ei wneud gan y Neficoptyrs oedd achub y doethion oddi ar y deisen Nadolig honno oedd yn mynd yn llai a llai gyda phob diwrnod oedd yn mynd heibio. Bandido a Rebelde oedd yn bennaf gyfrifol am hynny; gallaf ddweud wrthych fod y ddau fel dwy wylan, yn bwyta popeth sy'n dod o fewn eu cyrraedd!

Beth bynnag am hynny, edmygwch grys T Pedro! Onid ydyw'n werth ei weld? Cofiwch amdano y tro nesaf y byddwch yn gweld bwced casglu'r Neficoptyrs neu Ambiwlans Awyr Cymru. Ewch i'ch poced, a byddwch yn hael!

Sachlian a lludw!

Ie, mewn sachlian a lludw mae El Jefe erbyn hyn oherwydd ei fethiant i ychwanegu peth o'i hanes at y cofnod hwn yn ystod y dyddiau diwethaf. Fe glywodd si fod Pañuelo, ei chwaer yng nghyfraith, wedi mynd mor bell â chwyno, ac fel y gallwch ddychmygu, yr oedd hyn yn loes mawr iddo, ond hefyd yn ysgogiad i ailgydio yn y gwaith o gofnodi ei anturiaethau!

Ond mae angen pwt o esboniad, oherwydd yr hyn sy'n rhaid i ddarllenwyr hoff a theyrngar El Jefe ei gofio yw, mai bywyd caled yw un El Jefe. Mae hynny'n golygu ei fod yn brysur am gyfnodau estynedig o amser ac, o ganlyniad, yn methu dod o hyd i amser i gyfansoddi. Cydymdeimlad y mae ei angen, nid cerydd!

Amigos, maddeuwch i El Jefe! Pe bai amylchiadau yn caniatau, buaswn yn rhoi rhywbeth newydd i chwi i'w ddarllen bob dydd. Gwaetha'r modd, nid yw'r hen ormeswr hwnnw, amser, yn caniatau hynny.

Beth bynnag am hynny, a minnau wedi esbonio fy 'nhawelwch', gadewch i mi fwrw ymlaen, a chyflwyno nifer o eitemau yr wyf yn gobeithio y byddant o ddiddordeb i chwi!

20.1.08

Bobol bach!


Gwelwyd y graffiti hwn ar fur yn ddiweddar!

A yw wedi cyrraedd felly?

A oes rhywun wedi ei weld?

18.1.08

Pendroni am Pedro!

Mae'n siwr eich bod yn gyfarwydd a'r gred fod pob digwyddiad o bwys yn cael ei ragflaenu gan 'arwydd' neu 'arwyddion'.

Wel, dyma un arwydd a welwyd ar y prom yn Por el Mar yn ddiweddar.

Beth wnewch chi ohono? A ydych yn gallu ei esbonio? A oes ystyr cudd iddo?

Beth bynnag yw'r ateb, mae'r son sydd wedi bod am ddyfodiad Pedro wedi peri fod nerfusrwydd cyffredinol wedi cydio mewn pobl. Ydych chi'n un o'r bobl hynny?

Peidiwch ag ofni na phoeni! Mae Pedro'n un ohonom ni - fel y gwelwch chi maes o law!

Mae'n gyfaill i bawb ac yn ofni neb!

17.1.08

Mae'r Neficoptyrs yn ôl!


Edrychwch pwy yw'r diweddaraf i gael ei achub gan y Neficoptyrs - HM o Iglesia de Cyngar!

Wedi achub y tri dyn doeth oddi ar y deisen Nadolig, mae'n amlwg eu bod wedi gweld HM mewn perygl yn rhywle!

Da iawn chi, Neficoptyrs! Daliwch ati!



(Ychydig sydd eto tan y bydd Pedro yn cyrraedd! Daliwch ati i chwilio amdano!)

16.1.08

Pedro?

Dwy adain colomen pe cawn

Mae hon eto’n wythnos galed i El Jefe, nid nad ydio’n gallu ymdopi â hi, cofiwch chi!

Fel hyn mae hi. Ni fyddai'r hen fachgen am i chi feddwl, ar un llaw, ei fod yn cwyno ddiangen ond, ar y llaw arall, ni fyddai chwaith am i chi dybio ei bod hi’n hawdd arno!

Cymerwch yr wythnos hon, er enghraifft. Yn ystod ei dyddiau bydd El Jefe wedi gweld Por el Mar, La Ciudad de Myrddin, Estuario Tawe, El Valle Taf, El Castillo en Arfon, Ciudad de los Beatles, El Colegio en la Colina, a maes y Sioe Amaethyddol yn La Iglesia de Elwedd!

Pe byddai’n haf, o bosibl y byddai peth mwyniant i’w gael o grwydro cymaint ond, o gofio’r glaw sydd eisoes wedi disgyn yr wythnos hon, a’r glaw pellach sy’n cael ei ddarogan yn ystod y dyddiau sydd yn dod, mae pethau’n bur ddigalon a thywyll, hyd yn oed i gymeriad gwydn fel El Jefe!

Ac mae hyn yn dod a ni yn ôl at hofrenyddion, peiriannau sydd, fel y gwyddoch yn barod, yn apelio’n fawr at El Jefe druan. Gwelodd un yn ddiweddar, a dod o fewn y dim i wneud cynnig amdani, neu o leiaf i ystyried prynu un debyg iddi. Fe'i gwelwch yn y darlun!

Dychmygwch pa mor hwylus fyddai popeth pe byddai gan El Jefe un o’r rhain! Gallai fod yn glanio yng ngerddi pobl (pe byddent yn ddigon mawr), ar lawntydd, ar feysydd chwarae, ar gaeau, neu hyd yn oed ar ambell i ffordd. Fyddai dim rhaid iddo boeni am draffig, am ddyfrodd llifogydd nac am gamerâu cyflymder, a phe byddai gofyn, byddai'n gallu gollwng cawod o flawd ar ambell un, fel cosb o’r uchelderau!

Tybed nad oes lle yma i ddeiseb, i berswadio cyflogwyr El Jefe i ddarparu hofrennydd ar ei gyfer? Mae’r blwch pleidleisio yn y golofn ar yr ochr chwith.

Ar y llaw arall, gallech bleidleisio dros i Mujer Superior ganiatau i El Jefe gael moto beic fel hwn! Fydda fo'n cymryd fawr o dro i deithio rhwng gogledd a de wedyn!

Big toys for big boys!

Chi biau’r dewis! Pleidleisiwch!


Gyda llaw, mae Pedro'n dod!

Gwyliwch allan amdano!

13.1.08

Y fan sy'n fy ngwneud yn wan!

Y penwythnos hwn mae Rebelde a Bandido wedi mynd ar bererindod i Por el Mar, a hynny i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer Stag Dŵ Peladito.

76 diwrnod sydd i fynd tan La Boda (y Briodas), ac felly mae'n rhaid i ddyddiau pen-rhyddid Peladito ddod i ben gyda dathliad, a hwnnw'n ddathliad go iawn! Dyna ddywedodd y bechgyn wrth droi tua'r sowth.

Wrth gwrs, wrth fynd, yr oeddent yn gadael eu problemau ar ôl i El Jefe eu goresgyn.

Y fan oedd y broblem, sef y cerbyd y maent yn ei ddefnyddio wrth gynhyrchu ‘serrín’. Yr oedd wedi methu ei phrawf MOT, ac felly El Jefe oedd yn gorfod gwneud y trefniadau trwsio.

Pa syndod fod bywyd yn anodd i mi? Nid yn unig mae gofyn i mi ofalu am fy ngerbydau fy hun (a'u golchi - tasg y bu'n rhaid i mi ei chyflawni bore ddoe ar orchymyn Mujer Superior), ond mae'n rhaid i mi hefyd ofalu am gerbyd y genhedlaeth nesaf!

Tydi pethau wedi newid! Does gen i ddim cof i El Jefe Grande olchi na thrwsio cerbyd i mi erioed! Ac os cofiaf yn iawn, fi oedd yn golchi ei gerbyd yntau hefyd. Tair cenhedlaeth o gerbydau! Pam fi?

11.1.08

Stamp it owt!

Cefais gwmni Peladito ddwywaith yr wythnos hon, er fy mod i’n byw yn y gogledd ac yntau’n byw yn Por el Mar.

1. Y tro cyntaf oedd nos Lun pan euthum yn ei gwmni i weld teulu Bojas Rojas i drafod La Boda (neu’r Briodas). Mae’n bwysig eich bod yn deall mai dim ond 78 o ddyddiau sydd tan y diwrnod mawr ei hun, a bod y bobl sydd o’m cwmpas erbyn hyn yn dechrau cynhyrfu o ddifrif! Prin fod angen dweud fod Peladito, Bojas Rojas a’i theulu wedi trefnu’r cyfan ac wedi gwneud hynny’n arddechog iawn! Heb amheuaeth, mi fydd yn ddiwrnod da, ac yn dilyn y servicio de boda yn Capilla de Maria, Estuario Teifi, cawn wledda a dathlu hyd oriau mân y bore. Rwy’n edrych ymlaen yn barod!

2. Yr ail dro i mi fod yn ei gwmni oedd nos Iau, ar fy ffordd adref o’r gynhadledd yn y brifddinas. ‘Roedd yn rhaid i mi fynd yn gyntaf i Estuario Tawe, ac oddi yno yr euthum i Por el Mar. Y rheswm am y galw oedd bod MS wedi gofyn i mi ddod a chyfeilles i Peladito adref gyda mi, felly rhaid oedd mynd i n’ôl Luz del Sol, (neu Heulwen). Wele lun ohoni.

Yn naturiol, bu’n rhaid i mi ei chario i’r car, ac yr oedd hwnnw wedi ei barcio gryn bellter o dŷ Peladito. O ganlyniad, gallwch ddychmygu’r syllu oedd arnaf wrth i mi gerdded strydoedd Por el Mar gyda Heulwen dan fy nghesail! Buaswn yn tyngu fod un ferch ifanc hipïaidd ei golwg wedi mynd mor bell ag ysgyrnygu ei dannedd arnaf, o bosibl oherwydd ei bod yn credu mai heliwr oeddwn yn mynd a helfa’r dydd tua thref!

Beth bynnag, mae Heulwen yma’n y gogledd yn awr, ac wedi cartrefu’n rhyfeddol. Os ydych yn ceisio dyfalu pam fod stamp ar ei thalcen, Peladito sy’n gyfrifol am hynny. Dywedodd wrthyf pan holais ef, ‘Os ydwi'n ei hanfon ar draws gwlad, mae’n rhaid i mi roi stamp arni!’ Fe gytunais innau’n ddistaw. Wedi’r cyfan, pwy sydd am darfu arno a’i ypsetio, ac yntau ar drothwy ei briodas?

Tybed a fydd yn rhoi stamp ar dalcen ei wraig newydd pan fydd honno’n mynd ar daith? Druan ohoni, os bydd!

9.1.08

Dŵr i ŵr, bid siwr!


Yr wythnos hon, mae El Jefe mewn cynhadledd yng Nghaerdydd gyda chynrychiolwyr o eglwysi ac enwadau o holl wledydd Ynysoedd Prydain.

Difyr yw clywed yr amrywiaeth acenion, a chlywed am sefyllfa eglwysi mewn gwahanol fannau. Nid yn unig yr ydym yn rhannu’r un problemau, ond mae’n ymddangos fod ein hymdrechion i’w datrys yn ddigon tebyg hefyd! A ninnau’n meddwl mai dim ond yng Nghymru yr oedd pethau’n anodd!



Sylwais ar un peth yn y gwesty. Tra ein bod ni’r Cymry wedi gorfod gweld boddi rhai o’n dyffrynnoedd er mwyn sicrhau cyflenwad o ddŵr i ddinasoedd yn Lloegr, mae’n ymddangos fod pobl Lloegr yn potelu’r dŵr sy’n dod o’u ffynhonnau hwy eu hunain, a’i werthu i ni fel Cymry!


Y prawf? Mae'r poteli yma ar y byrddau!



Y cwestiwn ydi, pwy sy’n cael y pris gorau am eu dŵr? Ni roddir gwobr am ddyfalu’r ateb cywir.

6.1.08

Eich Tai Chi

Dyn o ddiddordebau cyfyng yw fy nghyfaill, El Irlandes. Ni welais ef erioed yn cynhyrfu o ganlyniad i unrhyw gêm bel droed, na rygbi na golff. Cododd un o'i aeliau pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ond, ar wahân i hynny, digon cyson a gwastad yw ei ymatebion wedi bod i bopeth dros y blynyddoedd.

Dychmygwch fy sioc, felly, pan glywais ei fod wedi dechrau mynd i Tai Chi!

Na, nid "i'ch tai chi", ond i ddosbarth symud yn ara', a dysgu am yr 'yin' a'r 'yang'! Am ei fod yn un o'r saint, tydio ddim wedi cofleidio'r athroniaeth sy'n mynd gyda'r gweithgarwch eithafol araf hwn ond, fel cyfrwng ymlacio, meddai, mae'r cyfan wrth ei fodd gan nad yw hyd yn oed yn gorfod torri chwys wrth fwrw i mewn iddi.

Tra ar daith yn ddiweddar, gwelais rai o'i gymdeithion yn cynnal 'sesh' o dan bont, allan o wres yr haul.

Fel y dywedai fy Nain flynyddoedd yn ôl, 'Pawb at y peth y bo!'

5.1.08

Iard gefn El Constructor








Iard gefn El Constructor o gyfeiriad Llyn Alaw. Gellir gweld lein ddillad Pañuelo ar yr ochr dde.

(Ddaru chi wir edrych?)

4.1.08


Mae'n rhyfedd lle mae dyn yn gweld ei enw y dyddiau hyn!

Dim ond taro i'r dref wnes i, i brynu Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu, rhag ofn i Peladito a'i ffroen gerddorol (gweler Anturiaethau Peladito) ddweud fod safon fy Nghymraeg yn dirywio, a dyma weld hwn!

Ydi, mae El Jefe yn crwydro'r wlad, yn ymweld â chapeli ac eglwysi, ac mae'n hoffi gwneud hynny!

Braint yw cael rhannu'r neges Gristnogol, nid baich.

3.1.08

Hwre i'r Neficoptyrs!

Welais i erioed y fath beth!

Yr oeddwn yn taro i'r gegin i n’ôl llymaid o ddŵr pan glywais sŵn rhyfedd.

Wedi rhoi'r golau ymlaen, dyma weld un o'r Neficoptyrs yn codi'r olaf o'r Doethion oddi ar y deisen honno sydd wedi bod yn mynd yn llai ac yn llai wrth i bobl ei bwyta.

'Roeddwn eisoes wedi son wrthych ei bod yn greisis ar y Doethion rai, ond rwy'n gweld yn awr i ble yr oedd y Doethur bach hwnnw'n mynd pan adawodd y deisen ddoe! Yr oedd yn mynd i chwilio am y Neficoptyrs!!

Rhedais i'r parlwr ffrynt i n’ôl y camera, ac fel yr oeddwn yn cyrraedd yn ôl yr oedd y Doethur druan yn cael ei godi oddi ar yr eisin.

Cyn pen dim yr oedd yn hedfan drwy'r awyr, heibio i'r stof, draw dros y sinc ac i gyfeiriad y sosbenni. Fel y gwelwch, yr oedd yr hofrennydd o dan dipyn o straen erbyn hynny, ond do, fe lwyddodd i gyrraedd y drws a hedfan i ffwrdd.

A dyna ddiwedd ar y bennod fach yna, a'r Doethion rai wedi mynd am flwyddyn arall. Mae'r deisen yn wag!

Ond codwch eich calon; buan y bydd hi'n Nadolig eto. Dwi'n edrych ymlaen yn barod!


Mae hwn yn gyfle arall i ni fwrw pleidlais. Edrychwch yn y golofn ar y chwith. Y cwestiwn yw, 'A ddylem roi medal i'r Neficoptyrs?'

Yr ydych wedi clywed am eu dewrder, ac am eu menter. Pleidleisiwch, ac os bydd y mwyafrif ohonoch o blaid rhoi medal, cawn weld beth fydd yn bosibl! (Nodyn golygyddol: Daeth y pleidleisio i ben ar 8 Ionawr)

2.1.08

Argyfwng y Doethion!

Erbyn hyn, daeth y gwyliau i ben ac mae'n rhaid i El Jefe ddychwelyd at ei waith. Gan ei fod yn cario baich trwm o ddyletswyddau, ni fydd cymaint yn ymddangos ar y tudalennau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf; er hynny, bydd rhywbeth bach yn ymddangos o dro i dro!

Gadewch i mi, felly, ddwyn y rhan agoriadol a Nadoligaidd o'r cyfraniad cyfoethog hwn i lenyddiaeth gyfrifiadurol Gymraeg i ben trwy son wrthych am 'Argyfwng y Doethion'. Mae'n bur debyg fod argyfwng digon tebyg yn digwydd, neu wedi digwydd, mewn llawer i gartref arall o gwmpas y wlad.

Diau y byddwch yn cofio bod 'cynhesu byd eang', fel y'i gelwir ef, yn toddi'r ia yn yr ardaloedd hynny lle mae'r eirth gwynion yn byw. Gwelsom rai ar y teledu yn prowla mewn cylchoedd ar ddarnau o ia oedd yn mynd yn llai ac yn llai wrth i'r dyddiau fynd heibio. Amhosibl oedd peidio teimlo drostynt.

Felly y bu hefyd gyda'r Doethion wrth i'n teisen Nadolig ni ddiflanu yn ddiweddar. Sylwais eu bod mewn cryn benbleth ynglŷn â beth i’w wneud, a'u bod yn symud o gwmpas pan oeddwn wedi troi fy ngefn. Pan oeddwn yn edrych arnynt, nid oeddent yn symud o gwbl. Rhai felly yw'r Doethion, yn ôl rhai.

O'r hyn a welaf i (ac 'rwyf wedi tynnu lluniau ar wahanol adegau yn ystod yr oriau diwethaf), o weld y deisen yn mynd yn llai, maent wedi bod yn gwneud asesiad o'u sefyllfa. Gweler Llun 1.

Yna mae'n ymddangos iddynt gynnal pwyllgor. Dyna f'esboniad o Lun 2.

Erbyn Llun 3, mae'n amlwg fod rhywbeth yn digwydd, a chynllun o fath yn cael ei weithredu.

Credaf fod Llun 4 a 5 yn cadarnhau hynny.


Os bydd i chwi weld Doethur bychan yn crwydro strydoedd eich ardal chwi, tybed a fyddech yn dweud wrth fod El Jefe wedi bwriadu gwneud darpariaeth ar ei gyfer cyn fod y deisen yn diflanu'n llwyr?

Dywedwch wrtho nad oedd ganddo ddim i'w ofni oherwydd, yn wahanol i Bandido a Rebelde, mae El Jefe yn ddyn trugarog, ond y tro hwn ni chafodd gyfle i ddangos hynny. O bosibl y daw cyfle arall rhywdro yn ystod 2008!

Mae'r flwyddyn yn ymagor o'n blaenau. Ymlaen a ni!

1.1.08

'Dyfais' El Constructor

Holodd ambell un am faint y 'ddyfais' ryfedd honno y mae El Constructor yn ei chadw yn ei iard gefn yn Capilla Roja. (Gweler yr eitem gynharach ar y pwnc.)

Aeth ambell un mor bell a chwyno (do, mwn!) nad oedd y llun yr oedd El Jefe wedi ei arddangos 'yn rhoi unrhyw syniad o raddfa' (pobl prifysgol, mae'n amlwg!).

Dyma, felly, gynnwys llun arall. Mae'r ddyfais wrth ochr sgerbwd cerbyd Mini, ac felly yn siwr o fod tua 5-6 troedfedd o ran ei hyd.

Ond beth ydio? Mae modd i chwi bleidleisio i'r awgrym gorau yn y golofn ar y chwith. Sgroliwch i lawr, a phleidleisiwch! (Nodyn golygyddol: Daeth y pleidleisio i ben ar 8 Ionawr)


Newydd ar gyfer 2008: Modd i gysylltu

Mae El Jefe yn ehangu ei ddarpariaeth ar gyfer 2008 trwy roi modd i'w ddarllenwyr hoff gysylltu ag ef yn uniongyrchol.

Gallwch yn awr anfon neges i:

El-Jefe@hotmail.co.uk

Pwyleisir yr angen i gadw pob neges yn fyr, yn weddus ac yn dyner.

Mae bywyd yn ddigon caled i El Jefe heb i neb newydd ychwanegu at ei ofidiau!

Blwyddyn Newydd Dda!

1 Ionawr 2008

Gwawriodd blwyddyn newydd eto,
o'th drugaredd Arglwydd cu;
llaw dy gariad heb ddiffygio
hyd yn hyn a'n dygodd ni: . . .


Am hynny, gallwn ddechrau'r flwyddyn newydd yn ddiolchgar.

Blwyddyn Newydd Dda i chwi i gyd!