30.7.08

Selybreshons!

Pethau rhyfedd yw cerrig milltir!

Gredwch chi, ar 26 Gorffennaf eleni yr oedd MS ac El Jefe yn dathlu penblwydd 30 eu priodas! Mae nhw wedi bod yn flynyddoedd da, a ninnau nid yn unig wedi cael hapusrwydd ond hefyd wedi cael gweld ein tri mab, Peladito, Bandido a Rebelde yn tyfu'n ddynion.

Dechreuodd y dathlu nos Wener, 25 Gorffennaf, pan aeth MS, El Jefe, Pañuelo ac El Constructor i westy'r Cei yn Neganwy i wledda. Trannoeth rhaid oedd i MS ac El Jefe fynd am dro, a hynny i'r un lle ag y bu iddynt fynd drannoeth eu priodas 30 mlynedd yn ôl, sef i bentref Eidalaidd, hudolus a rhamantus Portmeirion!

Yn ddiarwybod i MS yr oedd El Jefe wedi trefnu fod Peladito a Bojas Rojas yn dod yno hefyd (gweler ar y chwith), ac felly cafwyd sypreis nid bychan pan ddaeth y ddau i'r golwg.

Wedi dychwelyd gartref, aeth pawb allan eto i swper - MS, El Jefe, Peladito, Bojas Rojas, Bandido a Leona, a Rebelde. Cafwyd gwledd nid bychan yn y bwyty Eidalaidd yn yml pier Bangor.

Ar y Sul, rhaid oedd offrymu diolch, ac felly, yn capel yr oedd dod o hyd i El Jefe. Gweddus diolch pan fo dyn wedi derbyn cymaint o fendithion.

Dyna fy marn i, beth bynnag!

No comments: