6.9.08

Under the influence!

Gwlad ryfedd ydi Cymru!

Os ydi Sodom, Nasareth, Carmel a Nebo yn y gogledd, mae'n ymddangos fod Bethlehem, Beulah, Hebron a Gethsemane yn y de! Dyna mae'r llun hwn a anfonwyd imi gan gyfaill yn ei ddangos, a Gethsemane yw'r rhyfeddaf ohonynt i gyd.

Mae pawb yn sylweddoli, wrth gwrs, mai o'r Beibl y mae'r enwau yma i gyd yn dod. Tybed pa argraff gaiff Iddewon ac Israeliaid pan ddônt yma ar ymweliad neu wyliau, a gweld enwau lleoedd yn eu gwlad eu hunain mor amlwg ar arwyddion mewn gwlad arall. Sbwci!

Mae angen deall hanes Cymru i werthfawrogi pam mae hyn wedi digwydd. Pa bynnag ddylanwadau sy'n siapio ei bywyd heddiw, bu adeg pan yr oedd bywyd ein cenedl yn cael ei siapio gan y Gristnogaeth yr oedd y bobl yn ei harddel, ac yn y dyddiau hynny, codi enwau allan o'r Beibl yr oeddent yn darllen cymaint arno yr oedd ein cyn-dadau a'n cyn-neiniau wrth enwi amrywiol leoedd.

Gwlad under the influence oedd Cymru, a da o beth oedd hynny! Fe'n gwnaeth ni'n bobl wâr.

Bellach, anwarineb ydi'r ffasiwn, ond mae'r angen am Gethsemane, a'r Gŵr fu yno, yn parhau.

No comments: