14.12.08

El Jefe'n hyrwyddo'r achos!

Cafodd El Jefe anrheg Nadolig cynnar eleni, a hynny gan mab #3, Rebelde.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae Rebelde yn wneuthurwr offer ysgrifennu o safon, a daeth at El Jefe a dweud ei fod wedi gweld yr union beth ar ei gyfer.

O'i boced, tynnodd allan y beiro hwn, beiro a wnaethpwyd ganddo ef ei hunan.

Sylwer ar y crefftwaith yn gyntaf gan fod y beiro wedi ei wneud allan o goedyn, ond sylwer wedyn ar y symbol Cristnogol sy'n addurno'r beiro!

'Defnyddia hwnna,' meddai Rebelde, 'Fe fydd yn hysbyseb dda i mi.' A gwir y dywedodd! Bob tro y mae El Jefe yn tynnu'r beiro hwn allan o'i boced mewn cyfarfod, mae rhywun yn siwr o ofyn o ble mae wedi dod, ac mae'r sgwrs am fusnes a chrefft Rebelde yn cychwyn!

Yr unig broblem yw fod un person wedi gofyn ai gan drefnydd angladdau yr oedd El Jefe wedi ei gael! Tydio'n beth rhyfedd fod arwydd sy'n golygu 'bywyd' i Gristnogion yn golygu 'marwolaeth' i eraill.

Mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le ar y modd mae Cristnogion yn cyfleu eu neges, ond mae beiro Rebelde yn rhoi cyfle i El Jefe ddweud rhywbeth bach i unioni hynny.

Diolch, Rebelde!

No comments: