27.12.08

Digwyddiadau rownd y deisen

Byddwch yn cofio'r deisen hardd hon a gafodd El Jefe a'i deulu yn anrheg gan Wendy, un o'r rhai sy'n cydweithio gydag El Jefe. Credwch fi, mae mor odidog ag y mae'r llun yn ei awgrymu, yn gampwaith cogyddol!

Wel, dros yr ŵyl, gwelsom bethau rhyfedd yn digwydd o'i hamgylch.

Ar fore dydd Nadolig, pwy ddaeth rownd o gefn y deisen ond tri nad oeddem wedi eu gweld ers y flwyddyn ddiwethaf, ers y Nadolig diwethaf i fod yn fanwl! Yr oedd y tri gŵr doeth wedi dod eleni eto i ymuno yn y dathlu!

Ni fu cymaint llawenydd yn El Castillio (cartref El Jefe) ers amser maith iawn. Yr oedd Mujer Superior yn ei dagrau, ac El Jefe yn llawenhau'n fawr.


Yr oedd Bandido (mab #2) o'r farn mai gwyrth fach Nadoligaidd oedd hon, a Rebelde (mab #3) yn dweud mai presenoldeb y 'Jesus Action Figure' yn y tŷ (gweler isod) oedd wedi peri i'r peth ddigwydd!

Beth bynnag y rheswm, mae'r deisen a'r digwyddiadau o'i chwmpas wedi gwneud Nadolig 2008 yn un arbennig iawn yn El Castillio. Bydd yn un y bydd y teulu yn cofio amdano am hir iawn!

Am El Jefe ei hun, mae'n llawenau fod pethau bach fel hyn yn gallu digwydd, a bod yn fodd i bobl fel ni gael ein hatgoffa o'r rheswm pam yr ydym yn dathlu!

A tydio'n sbort, gyfeillion!!

No comments: