11.1.09

Croeso, Nel!

Tybiodd El Jefe y byddech yn hoffi cael gweld yr ychwanegiad diweddar at y teulu yn El Castillio!

Cyrhaeddodd yr ast fach hon ar ddydd Sul, 11 Ionawr, a hithau yn ddim ond 8½ wythnos oed.

Yn enedigol o Geredigion, mae bellach yn cartrefu yn y gogledd wedi siwrnai hir ond didrafferth i'w chartref newydd.

Bydd y sawl sy'n deall y pethau hyn yn gwybod mai 'ci bugail Almaenig' sydd yma, brîd y newidwyd ei enw yma ym Mhrydain oherwydd nad oedd Prydeinwyr ar un adeg yn hoff o unrhyw beth Almaenig.

Defnyddiwyd yr enw 'Alsatian' yn lle'r enw gwreiddiol.

Bellach, mae'r gymuned bridio cŵn yn dychwelyd at yr hen enw gan gyfeirio ato'n aml fel 'GSD' (German Shepherd Dogs).

Fel y byddech yn disgwyl, nid oes gan El Jefe unrhyw fwriad galw'r ast fach y fath beth (er mai dyna ydyw), oherwydd yr enw y mae'r teulu wedi ei roi arni yw 'Nel'.

Ni fydd yn ast fechan yn hir gan mai un o nodweddion y brîd hwn yw ei fod yn tyfu'n arswydus o gyflym.

Mae hynny'n awgrymu fod trafferthion dirifedi yn aros El Jefe unwaith eto, a diau y byddwch yn clywed yr hanes, ac yn gweld datblygiad Nel, ar y tudalennau hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Am y tro, yr unig beth y gall El Jefe ei ddweud yw, 'Croeso, Nel'!

Gyda llaw, oeddech chi'n gwybod mai'r cyfieithiad Sbaeneg am 'y ci' yw 'el perro'! Os na, dyna chi wedi dysgu rhywbeth newydd wrth ddarllen hanes El Jefe!

No comments: