26.1.09

Mae'r pyp yn tyfu!

Wyddai El Jefe ddim fod cwn yn gallu tyfu mor gyflym!

Pe byddech yn craffu ar Nel, yr ast sydd yn y llun, rwy'n siwr y byddech yn gallu ei gweld yn datblygu o ran ei chorffolaeth ac yn cynyddu o ran ei maint.

Credwch fi, mae'n frawychus codi yn y bore, a gweld ei bod wedi tyfu eto dros nos! El Jefe druan!


Wedi dweud hynny, na foed i neb weld bai yn El Jefe! O gofio mai dim ond tua chwe modfedd a hanner, os hynny, oedd uchder neu daldra ci diwethaf Mujer Superior, fyddai dim disgwyl i'r hen fachgen fod yn arbenigo ar dyfiant cwn. Pan fo'r perro llawn maint mor fychan, toes 'na ddim cymaint â hynny o dyfu i'w wneud!

Mae un peth bach arall hefyd. Pwy sy'n ymddangos fwyaf peryglus i chi - Nel y ci, ynteu Rebelde, mab El Jefe?

Ar hyn o bryd, mae cyfarthiad Rebelde yn rhagori ar un Nel, ac mae El Jefe'n amau fod ei frathiad yn dipyn fwy poenus hefyd! Ond rhowch chi dri neu bedwar mis arall, ac fe fydd pethau wedi newid tipyn erbyn hynny.

Yn wir, ar y raddfa mae'r ast hon yn tyfu, nid ei chyfarthiad na'i brathiad fydd yn ein poeni, ond y perygl iddi sathru arnom ni! Mae lle i gredu y bydd hi fel eliffant!

Credwch chi fi, dechrau gofidiau yw hyn, dim ond dechrau'r gofidiau!

No comments: