3.1.09

Crwcs!

Yng Nghaerdydd yr oedd El Jefe, ac wedi cael syniad da!

I arbed talu £6 y diwrnod am barcio yng nghanol y ddinas tra'r oedd ef a Mujer Superior yn dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd, aeth a'i gar i Benylan, at dŷ ei frawd, El Reverendo, a'i adael yno am ddau neu dri diwrnod. Wedi rhoi 'Krooklock' arno, aeth ymaith yn dawel ei feddwl i fwynhau ei hun.

Pan aeth yn ôl ato ar ddiwedd ei wyliau, darganfu nad oedd allwedd y 'Krooklock' ganddo. Yr oedd wedi diogelu ei gerbyd rhag cael ei yrru ganddo ef ei hunan! Dyma ffonio Mujer Superior, ond 'och a gwae', nid oedd allwedd ganddi hithau chwaith!

Nid oedd dim amdani ond galw am help yr AA (nage - NID Alcoholics Anonymous!). Daeth y dyn o fewn yr awr, ac wedi pwyso a mesur y sefyllfa, ymestynnodd am ei 'hacksaw'. Mewn pum munud, 'roedd El Jefe'n gyrru'n hamddenol i lawr y ffordd!

'Da hynny,' meddech chwi, ddarllenwyr. 'Beth?' meddai El Jefe. 'Fe delais arian da am y 'Krooklock' yna. Pe byddwn wedi gwybod mor hawdd fyddai llifio trwyddo, fyddwn i ddim wedi cyboli!'

'Krooklock', wir! Y 'crooks' oedd y bobl oedd wedi cynhyrchu'r fath declyn diwerth!

Y tro nesaf, bydd El Jefe yn tynnu darn o'r injan allan i atal ei gar rhag cael ei ddwyn!

No comments: