17.8.08

Tynnu ar y rhaffau!

Euthum am dro i Aberaeron neithiwr, ac i'r bar newydd sydd gan Westy'r Harbwrfeistr. Wedi cael croeso cynnes gan Glyn, y perchennog, a Dai y rheolwr, cafwyd amser da gan El Jefe wrth iddo sgwrsio gyda hwn a'r llall. Yr oedd yr awyrgylch yn ddymunol iawn, fel yr awgrymir yn yr adlewyrchiadau a welir ar lampau'r to.

Y tu allan yr oedd yn halabalŵ! Yr oedd hen, hen ddefod Gymreig yn cael ei chadw, a dyma'r esboniad a gafodd El Jefe gan un o hynafgwyr y dref.

"Bob blwyddyn, mae drwgweithredwyr yr ardal yn cael eu casglu at ei gili ar y cei, eu gwisgo mewn dillad merched, ac yna'u fforso i gystadlu mewn cystadleuaeth tug-o'-war gyda thim o real merched yr ochr draw. Ie, ie, dyna fe. Feri gwd!"

Aeth yn ei flaen, "Gan mor feri, feri strong and powerffwl yw merched Ceredigion, nid oes gobaith i'r brutes drwgweithredwyr, ac ar eu pennau i'r môr y maent yn mynd bob blwyddyn. Ie, ie; gwir bob gair!"

Ond yr oedd mwy i ddod! "Os yw'r llanw," meddai, "yn caniatau i rai ohonynt nofio at y 'ladyrs' ar ochr y cei, caniateir iddynt fyw, ond os ydynt yn rhy wan i wneud hynny, gadewir iddynt fynd gyda'r lli. Ie, ie; dyna fe! Straight out to sea!"

Mae El Jefe o'r farn mai mwy o arferion fel hyn sydd eu hangen ar gymdeithas heddiw i chadw mewn trefn. Bwriada awgrymu mabwysiadu yr un math o beth ar draws y Fenai cyn bo hir, er nad yw'n hyderus o gwbl y bydd Cynghorau Gwynedd na Môn yn ddigon blaengar i wrando arno, nac yn ddigon dewr i weithredu fel pobl dda Aberaeron.

Mae'n siwr y bydd y ddau Gyngor am drafod 'rheolau iechyd a diogelwch' a phynciau eraill tebyg!

Diflas! Diflas dros ben!

No comments: