14.8.08

Good Show!

Bu El Jefe am dro i Sioe Môn ddoe, neu i'r 'Primin' fel bydd brodorion yr ynys yn ei galw. Dim ond unwaith o'r blaen y bu yno, a hynny flynyddoedd maith yn ôl. Oherwydd hynny, yr oedd yn falch o'r cyfle i gael mynd eto.

Cafodd docyn yn rhodd gan deulu Leonas, a diolcha'n fawr iddynt am y caredigrwydd. Peth rhyfedd yw bod yn wrthrych caredigrwydd cwbl annisgwyl.

Yr oedd bod yn y Sioe yn addysg i El Jefe, gan mai 'dyn y dref' ydyw yn hytrach na 'dyn y wlad'. Gwell ganddo balmentydd clir a golau stryd nac ymbalfalu yn y tywyllwch a chael pob math o aflendid ar ei esgid.

Gwelodd bob math o bethau yno, gan gynnwys blodau, llysiau a chynnyrch llaethdy a chegin. Yr oedd yn amlwg fod cystadlu brwd wedi bod yn digwydd, a llawer un wedi bod yn brysur.

Yr oedd yno gystadleuaeth win hefyd. Oni fyddai'n sbort gweld y beirniad wrth ei waith yn honno?! Ni fyddem yn caniatau iddo boeri allan gynnyrch y bobl gan y byddai hynny'n sarhad arnynt! Byddai'r creadur ar wastad ei gefn o fewn hanner awr! Da y cofia El Jefe am win y byddai mam Mujer Superior yn ei wneud ar un amser pan oedd yn cadw rancho; o ran ei gryfer, byddai wedi medru bod yn danwydd i'r car, neu yn gymorth rhagorol i dynnu paent oddi ar ddrws!

Ar wahan i'r danteithion a nodwyd, yr oedd pethau eraill i'w gweld yn y Sioe. Yr oedd y tractors yn tynnu'r llygad, nid yn unig oherwydd eu maint ond hefyd oherwydd eu bod yn newydd ac yn sgleinio! Yr oedd yna gasgliad sylweddol o rai gwyrdd, coch a glas! Oes yna gwmni sy'n cynhyrchu tractor du? Byddai'n llawer iawn mwy ymarferol i guddio'r baw, ond yn anoddach dod o hyd iddo pe byddech wedi anghofio ble'r oeddech wedi ei adael. O feddwl am y peth, gwell sticio at y lliwiau eraill!

Yr oedd yna hefyd neidio ceffylau, a chan nad oedd El Jefe wedi bod yn agosach na sgrin deledu i'r fath beth o'r blaen, dysgodd yn fuan i werthfawrogi dawn a meistrolaeth y marchogion.

'Roedd yna farchogion o fath arall yno hefyd! Gyda gwahanol rai yn cynrychioli Lloegr, Ffrainc a Chymru, a'r Marchog Du yn herio'r tri arall, llwyfanwyd 'drama'. Pwy fyddai'n fuddugoliaethus? Pwy fyddai'n ennill y wobr? Y Cymro aeth a hi, ac ni chafwyd neb o gwbl yn gweiddi 'ffics'! Rhyfedd o fyd!

A dyma brif ennillydd y dydd! Nid yw El Jefe yn cofio'i enw gan fod y bridwyr yn rhoi enwau pur ddigri ar eu hanifeiliaid gorau! Ond beth bynnag oedd ei enw, doeth fyddai ei alw'n 'Syr' pe byddech yn dod wyneb yn wyneb ag ef!

Y peth enbyd yw na allai El Jefe, wrth edrych arno, feddwl am ddim ond ei fwyta. O bosibl fod a wnelo hynny â’r ffaith fod Mujer Superior wedi rhoi El Jefe ar ddiet ar ddechrau'r wythnos. Felly, gyda'i fol yn rymblo'n ddilywodraeth wrth iddo grwydro'r maes, ni allai feddwl am ddim ond am beth y gallai ei fwyta nesaf! Ond dyma'r darn gorau, a'r prawf fod ond gorchymyn gwraig dda yn drech na phob temtasiwn; y cyfan a gafodd El Jefe i'w fwyta yn ystod y dydd oedd salad ffrwythau a'r dogn lleiaf posibl o 'paella' am yr hwn y talodd gymaint a £4.00!

'Good Show!', medde chwithau wrth gydlawenhau ag ef! 'Mae'n amser i El Jefe golli pwysau!'

Oedd yn rhaid i chwi ychwanegu'r geiriau yna, a sbwylio popeth?

No comments: