12.8.08

El Jefe yn yr Eisteddfod!

Do, bu El Jefe yn yr Eisteddfod! Cynhaliwyd hi eleni mewn parc yng nghanol Caerdydd, ac awgrym rhai oedd fod hynny wedi digwydd rhag i bobl Caerdydd wybod ei bod hi yno, a gwir yw dweud na chafwyd llawer o arwyddion y tu allan i'r maes fod y Brifwyl yn y Brifddinas o gwbl. Ond peidiwch a gadael i ni fod yn rhy llawdrwm, er mor ffasiynol yw hynny ymhlith y rhai fyddai'n hoffi byw yng Nghaerdydd ond sy'n gorfod byw yn rhywle arall o fewn ardal Amcan Un. Gweithiodd llawer yn galed i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus, ac maent i'w llongyfarch oherwydd hynny.

Dau ddiwrnod o law a gafwyd yn ystod yr wythnos, ar y dydd Mawrth ar dydd Sadwrn. O'r ddau, y dydd Sadwrn oedd waethaf gan ei bod wedi tywallt yn ddi-dor drwy'r dydd. A dyna pryd y dechreuodd y sioe ffasiynau! Daeth y Welshis a'u welis i'r maes, a darparu diddanwch nid bychan i El Jefe. Yr oedd wedi cynhyrfu trwyddo o weld y fath amrywiaeth, y fath batrymau a'r fath liwiau! Aeth ati gyda'i gamera i hel casgliad bach o engreifftiau i'w dangos i'w ddarllenwyr ffyddlon. Fe'u gwelir yn yr eitem nesaf (sydd, wrth gwrs, uwchben hon!).

No comments: