12.8.08

Welis y Welshis

Wele yma engreifftiau o'r math welis a welwyd yn yr Eisteddfod.

Wrth reswm, wrth i bobl fynd a dod ar hyd y maes yn y glaw mawr a gafwyd, ni allai El Jefe fynd at bob un ohonynt a gofyn am gael tynnu llun eu traed. O bosibl y byddai ambell un wedi meddwl ei fod yn cinci ac wedi ymosod arno gyda'u ambarel!

Rhaid felly oedd bod yn ofalus, a dewis a dethol y traed oedd i gael dod yn wrthrychau sylw y camera. Wedi'r cyfan, dyna fyddai pob gwir artist wedi ei wneud, ac un felly yw El Jefe, fel y gwyddoch yn dda erbyn hyn. Nid Philistiad mohono, ond un sydd am warchod y safonnau ymhob maes, gan gynnwys maes yr Eisteddfod!

Beth bynnag am hynny, astudiwch y welingtonau a welir yma!

Ceir streipiau ar rai, dreigiau ar eraill, ambell i galon, tusw o flodau, patrwm wibli-wobli, smotiau amryliw, smotiau du a gwyn, ac yna welis gwyrddion rhyw ffermwr o Drawsfynydd.

Na fyddwch fychanus o'r welis hynny! Welis 'maes y gad' ydynt, ar gyfer y rhai sydd yn rheng flaen brwydr amaethyddiaeth ardal Amcan Un. Maent yn rhan o'r camofflaj, oherwydd y nod yw dychryn y dynion o'r Weinyddiaeth gan eu bod yn rhoi'r argraff o bell nad oes gan ffermwyr Cymru draed a'u bod rhywsut neu'i gilydd yn hofran uwchben y ddaear.

Mae'n gwestiwn diddorol sut mae'r rhai sy'n gwisgo'r welis hyn wedi dewis y par sydd ganddynt. Pam mae rhai yn dewis smotiau yn hytrach na phatrwm? Pam patrwm yn hytrach na llinellau? Pam wibli-wobli yn hytrach na chalonnau? Dyma rai o gwestiynau mawr Eisteddfod Caerdydd 2008.

Erbyn hyn, mae El Jefe yn rhedeg allan o bethau i'w dweud am welis, oherwydd nid yw'n bwnc y mae wedi rhoi llawer o sylw iddo cyn yr Eisteddfod hon. Ond gan fod ganddo gymaint o luniau ohonynt, mae'n teimlo y dylai ddal ati, oherwydd os na wna hynny, bydd yr eitem hon yn ei gofnod bywyd yn colli ei siap!

Ac wrth i ni dynnu tua diwedd y golofn, mae El Jefe am ddiolch i chwi am eich amynedd yn darllen mor bell a hyn! Mae'n glod i chwi. Gwyddoch fel y mae El Jefe yn mawrygu nodweddion fel teyrngarwch a ffyddlondeb; mae'r ffaith eich bod wedi cyrraedd mor bell a hyn yn yr ysgrif hon yn eich gosod yn y grwp dethol ac arbennig hwnnw - Urdd Ufudd Dderwydd Gorsedd Ysblenydd El Jefe!

O bosibl y cawn ni seremoni yn Eisteddfod y Bala y flwyddyn nesaf i'ch urddo'n ffurfiol. (Nid oes angen i aelodau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain wneud cais gan ein bod yn amheus o'r agwedd 'Brydeinig' sy'n perthyn iddynt. Mae'n debyg pe byddai Eisteddfod Fyd-eang yn cael ei chynnal yn rhywle fel Beijing y byddent hwy yn perthyn i 'Gorsedd GB'. Nid felly nyni!)

No comments: