13.1.08

Y fan sy'n fy ngwneud yn wan!

Y penwythnos hwn mae Rebelde a Bandido wedi mynd ar bererindod i Por el Mar, a hynny i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer Stag Dŵ Peladito.

76 diwrnod sydd i fynd tan La Boda (y Briodas), ac felly mae'n rhaid i ddyddiau pen-rhyddid Peladito ddod i ben gyda dathliad, a hwnnw'n ddathliad go iawn! Dyna ddywedodd y bechgyn wrth droi tua'r sowth.

Wrth gwrs, wrth fynd, yr oeddent yn gadael eu problemau ar ôl i El Jefe eu goresgyn.

Y fan oedd y broblem, sef y cerbyd y maent yn ei ddefnyddio wrth gynhyrchu ‘serrín’. Yr oedd wedi methu ei phrawf MOT, ac felly El Jefe oedd yn gorfod gwneud y trefniadau trwsio.

Pa syndod fod bywyd yn anodd i mi? Nid yn unig mae gofyn i mi ofalu am fy ngerbydau fy hun (a'u golchi - tasg y bu'n rhaid i mi ei chyflawni bore ddoe ar orchymyn Mujer Superior), ond mae'n rhaid i mi hefyd ofalu am gerbyd y genhedlaeth nesaf!

Tydi pethau wedi newid! Does gen i ddim cof i El Jefe Grande olchi na thrwsio cerbyd i mi erioed! Ac os cofiaf yn iawn, fi oedd yn golchi ei gerbyd yntau hefyd. Tair cenhedlaeth o gerbydau! Pam fi?

No comments: