26.1.08

'Bydd wrth ein bwrdd'

Dyma i chi lun digon dymunol o'r Eifl. Yn Yr Eifl, mae cwpwl sy'n gyfeillion i El Jefe yn byw. Fe'u hadnabyddir fel 'Los Rivales'.

Gan fod El Jefe wedi bod yn arwain gwasanaeth yn eu capel y Sul diwethaf, gwahoddodd Mrs Rivales ef draw i de. Rhoddodd wahoddiad i Mujer Superior hefyd, ac El Constructor a Pañuelo. A dyna pam, mae'n debyg, y cwynodd Pañuelo nad oedd El Jefe wedi gwneud cofnod am wythnos, oherwydd ei bod hi am gael gwybod pa argraff yr oedd te p'nawn Sul Los Rivales wedi ei wneud arno!

'Roedd yn de ardderchog! Dychmygwch yr olygfa! Gan bod pawb ohonom wedi bod mewn capel y prynhawn hwnnw, yr oedd y gwŷr mewn crys a thei a'r merched yn eu dillad gorau. Yr oedd eistedd wrth y bwrdd fel camu yn ôl i gyfnod sydd bellach wedi darfod!

Aeth amser maith heibio ers i mi gael cystal te! Rwy'n dweud wrthych, yr oedd y brechdanau mor ardderchog fel mai trosedd yw eu galw'n 'frechdanau', ac yr oedd y teisennau mor rhagorol fel bod dim ond son amdanynt yn tynnu dŵr i'm dannedd y munud hwn! 'Rwy'n breuddweidio, hyd yn oed, am y sgons, yr hufen a'r jam, ac mae'r cacennau bach lemon wedi gwneud y fath argraff arnaf fel mai prin y gallaf gysgu'n esmwyth yn y nos!

Peth hyfryd iawn yw croeso, ac mae'n aml yn cael ei fynegi drwy'r trafferth y mae pobl yn fodlon mynd iddo ar ein rhan. Diolch, felly, i Los Rivales am brynhawn Sul hyfryd a chofiadwy!

Mae'r diet yn dechrau yfory!

Gyda llaw, glywsoch chi am y dyn aeth ar ddau ddiet? Toedd o ddim yn cael digon i'w fwyta ar un!!

No comments: