11.1.08

Stamp it owt!

Cefais gwmni Peladito ddwywaith yr wythnos hon, er fy mod i’n byw yn y gogledd ac yntau’n byw yn Por el Mar.

1. Y tro cyntaf oedd nos Lun pan euthum yn ei gwmni i weld teulu Bojas Rojas i drafod La Boda (neu’r Briodas). Mae’n bwysig eich bod yn deall mai dim ond 78 o ddyddiau sydd tan y diwrnod mawr ei hun, a bod y bobl sydd o’m cwmpas erbyn hyn yn dechrau cynhyrfu o ddifrif! Prin fod angen dweud fod Peladito, Bojas Rojas a’i theulu wedi trefnu’r cyfan ac wedi gwneud hynny’n arddechog iawn! Heb amheuaeth, mi fydd yn ddiwrnod da, ac yn dilyn y servicio de boda yn Capilla de Maria, Estuario Teifi, cawn wledda a dathlu hyd oriau mân y bore. Rwy’n edrych ymlaen yn barod!

2. Yr ail dro i mi fod yn ei gwmni oedd nos Iau, ar fy ffordd adref o’r gynhadledd yn y brifddinas. ‘Roedd yn rhaid i mi fynd yn gyntaf i Estuario Tawe, ac oddi yno yr euthum i Por el Mar. Y rheswm am y galw oedd bod MS wedi gofyn i mi ddod a chyfeilles i Peladito adref gyda mi, felly rhaid oedd mynd i n’ôl Luz del Sol, (neu Heulwen). Wele lun ohoni.

Yn naturiol, bu’n rhaid i mi ei chario i’r car, ac yr oedd hwnnw wedi ei barcio gryn bellter o dŷ Peladito. O ganlyniad, gallwch ddychmygu’r syllu oedd arnaf wrth i mi gerdded strydoedd Por el Mar gyda Heulwen dan fy nghesail! Buaswn yn tyngu fod un ferch ifanc hipïaidd ei golwg wedi mynd mor bell ag ysgyrnygu ei dannedd arnaf, o bosibl oherwydd ei bod yn credu mai heliwr oeddwn yn mynd a helfa’r dydd tua thref!

Beth bynnag, mae Heulwen yma’n y gogledd yn awr, ac wedi cartrefu’n rhyfeddol. Os ydych yn ceisio dyfalu pam fod stamp ar ei thalcen, Peladito sy’n gyfrifol am hynny. Dywedodd wrthyf pan holais ef, ‘Os ydwi'n ei hanfon ar draws gwlad, mae’n rhaid i mi roi stamp arni!’ Fe gytunais innau’n ddistaw. Wedi’r cyfan, pwy sydd am darfu arno a’i ypsetio, ac yntau ar drothwy ei briodas?

Tybed a fydd yn rhoi stamp ar dalcen ei wraig newydd pan fydd honno’n mynd ar daith? Druan ohoni, os bydd!

No comments: