2.1.08

Argyfwng y Doethion!

Erbyn hyn, daeth y gwyliau i ben ac mae'n rhaid i El Jefe ddychwelyd at ei waith. Gan ei fod yn cario baich trwm o ddyletswyddau, ni fydd cymaint yn ymddangos ar y tudalennau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf; er hynny, bydd rhywbeth bach yn ymddangos o dro i dro!

Gadewch i mi, felly, ddwyn y rhan agoriadol a Nadoligaidd o'r cyfraniad cyfoethog hwn i lenyddiaeth gyfrifiadurol Gymraeg i ben trwy son wrthych am 'Argyfwng y Doethion'. Mae'n bur debyg fod argyfwng digon tebyg yn digwydd, neu wedi digwydd, mewn llawer i gartref arall o gwmpas y wlad.

Diau y byddwch yn cofio bod 'cynhesu byd eang', fel y'i gelwir ef, yn toddi'r ia yn yr ardaloedd hynny lle mae'r eirth gwynion yn byw. Gwelsom rai ar y teledu yn prowla mewn cylchoedd ar ddarnau o ia oedd yn mynd yn llai ac yn llai wrth i'r dyddiau fynd heibio. Amhosibl oedd peidio teimlo drostynt.

Felly y bu hefyd gyda'r Doethion wrth i'n teisen Nadolig ni ddiflanu yn ddiweddar. Sylwais eu bod mewn cryn benbleth ynglŷn â beth i’w wneud, a'u bod yn symud o gwmpas pan oeddwn wedi troi fy ngefn. Pan oeddwn yn edrych arnynt, nid oeddent yn symud o gwbl. Rhai felly yw'r Doethion, yn ôl rhai.

O'r hyn a welaf i (ac 'rwyf wedi tynnu lluniau ar wahanol adegau yn ystod yr oriau diwethaf), o weld y deisen yn mynd yn llai, maent wedi bod yn gwneud asesiad o'u sefyllfa. Gweler Llun 1.

Yna mae'n ymddangos iddynt gynnal pwyllgor. Dyna f'esboniad o Lun 2.

Erbyn Llun 3, mae'n amlwg fod rhywbeth yn digwydd, a chynllun o fath yn cael ei weithredu.

Credaf fod Llun 4 a 5 yn cadarnhau hynny.


Os bydd i chwi weld Doethur bychan yn crwydro strydoedd eich ardal chwi, tybed a fyddech yn dweud wrth fod El Jefe wedi bwriadu gwneud darpariaeth ar ei gyfer cyn fod y deisen yn diflanu'n llwyr?

Dywedwch wrtho nad oedd ganddo ddim i'w ofni oherwydd, yn wahanol i Bandido a Rebelde, mae El Jefe yn ddyn trugarog, ond y tro hwn ni chafodd gyfle i ddangos hynny. O bosibl y daw cyfle arall rhywdro yn ystod 2008!

Mae'r flwyddyn yn ymagor o'n blaenau. Ymlaen a ni!

No comments: