16.1.08

Dwy adain colomen pe cawn

Mae hon eto’n wythnos galed i El Jefe, nid nad ydio’n gallu ymdopi â hi, cofiwch chi!

Fel hyn mae hi. Ni fyddai'r hen fachgen am i chi feddwl, ar un llaw, ei fod yn cwyno ddiangen ond, ar y llaw arall, ni fyddai chwaith am i chi dybio ei bod hi’n hawdd arno!

Cymerwch yr wythnos hon, er enghraifft. Yn ystod ei dyddiau bydd El Jefe wedi gweld Por el Mar, La Ciudad de Myrddin, Estuario Tawe, El Valle Taf, El Castillo en Arfon, Ciudad de los Beatles, El Colegio en la Colina, a maes y Sioe Amaethyddol yn La Iglesia de Elwedd!

Pe byddai’n haf, o bosibl y byddai peth mwyniant i’w gael o grwydro cymaint ond, o gofio’r glaw sydd eisoes wedi disgyn yr wythnos hon, a’r glaw pellach sy’n cael ei ddarogan yn ystod y dyddiau sydd yn dod, mae pethau’n bur ddigalon a thywyll, hyd yn oed i gymeriad gwydn fel El Jefe!

Ac mae hyn yn dod a ni yn ôl at hofrenyddion, peiriannau sydd, fel y gwyddoch yn barod, yn apelio’n fawr at El Jefe druan. Gwelodd un yn ddiweddar, a dod o fewn y dim i wneud cynnig amdani, neu o leiaf i ystyried prynu un debyg iddi. Fe'i gwelwch yn y darlun!

Dychmygwch pa mor hwylus fyddai popeth pe byddai gan El Jefe un o’r rhain! Gallai fod yn glanio yng ngerddi pobl (pe byddent yn ddigon mawr), ar lawntydd, ar feysydd chwarae, ar gaeau, neu hyd yn oed ar ambell i ffordd. Fyddai dim rhaid iddo boeni am draffig, am ddyfrodd llifogydd nac am gamerâu cyflymder, a phe byddai gofyn, byddai'n gallu gollwng cawod o flawd ar ambell un, fel cosb o’r uchelderau!

Tybed nad oes lle yma i ddeiseb, i berswadio cyflogwyr El Jefe i ddarparu hofrennydd ar ei gyfer? Mae’r blwch pleidleisio yn y golofn ar yr ochr chwith.

Ar y llaw arall, gallech bleidleisio dros i Mujer Superior ganiatau i El Jefe gael moto beic fel hwn! Fydda fo'n cymryd fawr o dro i deithio rhwng gogledd a de wedyn!

Big toys for big boys!

Chi biau’r dewis! Pleidleisiwch!


Gyda llaw, mae Pedro'n dod!

Gwyliwch allan amdano!

No comments: