3.1.08

Hwre i'r Neficoptyrs!

Welais i erioed y fath beth!

Yr oeddwn yn taro i'r gegin i n’ôl llymaid o ddŵr pan glywais sŵn rhyfedd.

Wedi rhoi'r golau ymlaen, dyma weld un o'r Neficoptyrs yn codi'r olaf o'r Doethion oddi ar y deisen honno sydd wedi bod yn mynd yn llai ac yn llai wrth i bobl ei bwyta.

'Roeddwn eisoes wedi son wrthych ei bod yn greisis ar y Doethion rai, ond rwy'n gweld yn awr i ble yr oedd y Doethur bach hwnnw'n mynd pan adawodd y deisen ddoe! Yr oedd yn mynd i chwilio am y Neficoptyrs!!

Rhedais i'r parlwr ffrynt i n’ôl y camera, ac fel yr oeddwn yn cyrraedd yn ôl yr oedd y Doethur druan yn cael ei godi oddi ar yr eisin.

Cyn pen dim yr oedd yn hedfan drwy'r awyr, heibio i'r stof, draw dros y sinc ac i gyfeiriad y sosbenni. Fel y gwelwch, yr oedd yr hofrennydd o dan dipyn o straen erbyn hynny, ond do, fe lwyddodd i gyrraedd y drws a hedfan i ffwrdd.

A dyna ddiwedd ar y bennod fach yna, a'r Doethion rai wedi mynd am flwyddyn arall. Mae'r deisen yn wag!

Ond codwch eich calon; buan y bydd hi'n Nadolig eto. Dwi'n edrych ymlaen yn barod!


Mae hwn yn gyfle arall i ni fwrw pleidlais. Edrychwch yn y golofn ar y chwith. Y cwestiwn yw, 'A ddylem roi medal i'r Neficoptyrs?'

Yr ydych wedi clywed am eu dewrder, ac am eu menter. Pleidleisiwch, ac os bydd y mwyafrif ohonoch o blaid rhoi medal, cawn weld beth fydd yn bosibl! (Nodyn golygyddol: Daeth y pleidleisio i ben ar 8 Ionawr)

No comments: