30.5.08

Cofio John Penri

Bu El Jefe am dro i Gaerfyrddin ddydd Iau, 29 Mai, a hynny oherwydd ei bod yn Ddydd John Penri ac fod cyfarfod yn cael ei gynnal yng nghapel y Priordy i gofio amdano. Cafodd groeso mawr gan y Gweinidog a'r rhai oedd yn bresennol.

John Penri oedd un o Annibynwyr cyntaf Cymru. Yr oedd yn dod o fferm fechan o'r enw Cefn-brith yn Sir Frycheiniog, ac wedi troedigaeth tra ym Mhrifysgol Caergrawnt, trodd yn Biwritan a dechrau herio'r sefydliad eglwysig oherwydd ei ddiffyg darpariaeth ar gyfer pregethu'r Efengyl yng Nghymru.

Arweiniodd un peth at y llall, ac yn y diwedd fe arestiwyd Penri yn Llundain. Aethpwyd ag ef gerbron llys a'i ddedfrydu i'w grogi ar 29 Mai 1593, a hynny am deyrn-fradwriaeth (Sbaeneg: traición, Saesneg: treason). Yr oedd yn 29 oed a chanddo bedair o ferched bach.

Nid yw Annibynwyr Cymru erioed wedi anghofio'r digwyddiad hwnnw, a da yw hynny, oherwydd dylai cenedl gofio cewri y gorffennol, y bobl a safodd dros yr hyn oedd yn gyfiawn, yn deg ac yn gywir.

No comments: