31.5.08

Hiraeth am Hiraethog

Tra yng Nghaerfyrddin ar 29 Mai, cafodd El Jefe fynd i weld capel Heol Awst, un o'r ddau gapel Annibynnol sydd yn y dref.

Sylwodd fod yno ffenestri coffa lliwgar i gyn-weinidog yr eglwys, John Dyfnallt Owen, i Stephen Hughes (1622-88), Apostol Sir Gaerfyrddin, ac i nifer a gollodd eu bywydau yn Rhyfeloedd Byd yr ugeinfed ganrif. Yr oedd yno hefyd nifer o blaciau, er cof am amryw eraill.

Yr hyn nad oedd yno oedd unrhyw beth i ddweud mai yng nghapel Heol Awst y traddodwyd yr anerchiad gan Gadeirydd, neu Lywydd, cyntaf Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1872. Yr oedd hyn yn syndod i El Jefe, oherwydd yr oedd y diwrnod hwnnw yn gryn garreg filltir yn hanes y traddodiad Annibynnol yng Nghymru.

Gwilym Hiraethog oedd y Cadeirydd, a'i deitl cofiadwy - wrth sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, cofiwch - oedd, 'Satan'!

Da iawn, Gwilym! Cofiadwy dros ben, a nodweddiadol o'r Annibynwyr sydd bob amser wedi dangos tuedd i wrthod gwneud yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, a gwneud yr annisgwyl! Hir y parhaed y traddodiad hwnnw, meddai El Jefe!

Un da yw disgrifiad John Thomas, Lerpwl, o anerchiad Hiraethog. 'Er mai "Satan" oedd y testun,' meddai, 'yr oedd un a ymddangosai yn feistr ar Satan yn trin ei gyflwr, ac yn dinoethi ei ddichellion.'

No comments: