21.5.08

Gwneud amser

Credwch fi neu beidio, bu'n rhaid i El Jefe fynd i Lundain eto yr wythnos hon. Wrth ei fod yn mynd yno'n lled aml erbyn hyn, yr oedd yn dda ganddo weld ffrind o'r gorffennol ar y tren. Am ddarn helaeth o'r siwrnai bu'r ddau ohonynt yn cyfnewid hanes ac atgofion.

Cyfarfod byr gafwyd yn y ddinas, ond ar ei ffordd yn ôl adref cafodd El Jefe bleser annisgwyl, sef cwmni ei chwaer, La Melo, of no fixed abode gan ei bod yn byw ar y tren rhwng gogledd Cymru a phrifddinas yr Ymerodraeth Fawr.

Bu sgwrsio a chwerthin, a rhannu hanesion, ac wedi dod adref ni allai El Jefe lai na meddwl ein bod yn esgeulus iawn yn y dyletswydd o roi amser i'n gilydd, i ymlacio a sgwrsio - a'n bai ni ydio.

Oni ddylem fod yn gwneud amser i hyn, a hynny ar frys? Dim ond am ychydig yr ydym ar yr hen blaned yma, ac ofer dweud ar ôl i rywun fynd, 'Fe fyddai wedi bod yn dda pe byddem wedi medru gwneud mwy â’n gilydd.'

'Nawr yw'r amser i wneud hynny! Ffoniwch rywun yn awr i wneud cysylltiad ac i gael sgwrs. O leiaf fe fyddwch wedi dechrau wedyn!

No comments: