10.5.08

O diar mi!

Bu El Jefe yn ei drydedd prifddinas mewn llai na pythefnos ddoe ac echdoe. Wedi bod yng Nghaerdydd a Chaeredin ar ddiwedd Ebrill, tro Llundain oedd hi yr wythnos hon.

Gwaetha'r modd, rhywun arall oedd yn gofalu am y trefniadau llety ac, o ganlyniad, cafodd El Jefe ei hun yn aros mewn 'deif', lle cwbl anaddas i ddyn o'i urddas ef. Dyna pam yr ebychodd, 'O! diar mi!'

Gan mor siomedig ydoedd, tynnodd lun er mwyn dangos i chwi safon 'is-na-mynachaidd' y lle. 'Un i'w osgoi i'r dyfodol,' oedd barn El Jefe!

Ei unig gysur oedd fod Henk, cyfaill iddo o'r Iseldiroedd yn aros yn yr un pydew, ac wedi cael eu hallweddi, aeth y ddau allan am swper, a mwynhau eu hunain yn fawr iawn! Pa bynnag ddiffygion sy'n perthyn i Lundain fel lle, 'does dim amheuaeth nad yw'n le eithriadol o dda am fwyd!

Bob tro y bydd Henk yn dod draw i Brydain o'r Iseldiroedd, mae'n rhaid iddo gael prynu te, ac felly bu'n rhaid mynd i ganolfan siopa Brunswick nepell o orsaf Euston i chwilio am beth. Yr oedd y dewis yn helaeth, fel ym mhob canolfan siopa, a phrynodd Henk bwysau da o'r dail i fynd adref gydag ef. Diau y bydd yn sipiau yn helaeth yn awr tan y daw drosodd nesaf, rhywdro ym mis Medi!

Un nodyn dwys cyn gorffen: yr oedd y 'deif' yr oedd El Jefe a'i gyfaill yn aros ynddi yn agos i'r man lle y chwythwyd y bws i fyny yn ystod ymosodiad terfysgwyr 7/7.


Trist meddwl fod pobl yn gweld gwerth mewn gwneud y fath bethau, a chwalu bywydau eraill. 'Segurdod yw clod y cledd', y gwn a'r bom, a phob arf arall y gall dyn ei ddefnyddio i niweidio a lladd. Dyna farn El Jefe, beth bynnag!

No comments: