2.5.08

Tren bach y 'sgwarnogod

Do, fe ddaeth El Jefe yn ôl mewn pryd i ymarfer ei derecho a votar!

Gadawodd y gwesty yng Nghaeredin yn fuan wedi cinio ddoe, a dal y tren cyntaf yng ngorsaf Waverley fyddai'n caniatau iddo ddychwelyd i Pais de Gales cyn ei bod yn rhy hwyr iddo fwrw'i bleidlais.

Daeth Mujer Superior i'w gyfarfod yn yr orsaf ar ddiwedd y daith 300 milltir, a mynd ag ef ar ei union i'r centro electoral er mwyn iddo fedru rhoi ei groes gyferbyn a'r enw cywir.

Os ydych yn disgwyl iddo ddweud wrthych enw pwy oedd hwnnw, mae arnaf ofn fod yn rhaid iddo eich siomi! Un o freintiau'r drefn bresennol yw nad oes rhaid i neb ddatgelu i bwy y mae wedi pleidleisio. Diogelwch y fraint honno, neu fe fydd y llywodraeth am gael gwybod! Mae nhw eisoes yn gwybod popeth arall amdanom ni!

Ond tybed, yn awr, wedi'r ymdrech fawr, fydd pleidlais El Jefe wedi gwneud unrhyw wahaniaeth? Ni allwn ond disgwyl am y canlyniadau er mwyn cael gwybod hynny.

Wrth gwrs, byddai'n haws pe na bai gwefan Cyngor Gwynedd wedi dadfeilio dan y straen o gael etholwyr eiddgar yn cesio darganfod pwy yw eu cynghorwyr nesaf yn mynd i fod. Dyma, ar y dde, y sgrin oedd yn croesawu ymholwyr brwd drannoeth diwrnod yr etholiad.

O gael eu hethol, o bosibl mai tasg gyntaf y cynghorwyr newydd fydd pleidleisio dros gael gweinydd mwy a gwell i'r Cyngor Sir! O wneud hynny, byddant yn gallu teimlo ar unwaith eu bod wedi gwneud rhywbeth i newid pethau yn y rhan yma o'r byd!

Gwyn eu byd!

No comments: