18.5.08

Nid teisen, ond . . .

Pancos!

Dyna wnaeth Bojas Rojas i'w gŵr newydd, Peladito, ar ddiwrnod ei benblwydd, ac er fod teisen yn llawer mwy traddodiadol, bodlonodd El Jefe iddynt gael y pancos gan mai dyna, yn ôl BR, oedd yn draddodiadol yn ei theulu hi!

Felly, ganol y prynhawn, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi cael cinio nobl gan Mujer Superior, aeth y ddau ati uwchben y stôf i baratoi'r danteithion. Rysait o eiddo Mamgu oedd yn eu tywys, ac er fod BR ychydig yn fler wrth ei gwaith (gweler y jwg), yr oedd yn ymddangos i El Jefe yn addawol dros ben! Gyda chyfarwyddyd cadarn Mamgu ac ychydig o ymarfer, buan y bydd wedi meistroli'r grefft!

Wrth gwrs, fel sy'n digwydd ar achlysuron fel hyn, aeth pobl ati i ddechrau chwilio am siapiau a wynebau yn y cynnyrch. O edrych ar yr un sydd ar y dde, buasai El Jefe'n awgrymu fod arwyddion pendant o ymdrech fwriadol i borthi y ffwlbri hwn; os na, mae'n debyg y gallwn honni fod rhyw fath o wyrth wedi digwydd yn ein cegin ni heddiw!

Ymunodd Rebelde yn hyn gan honni ei fod ef wedi cael wyneb creadur o blaned arall. Dilornus iawn oedd El Jefe o'r awgrym hwn, a thynnodd sylw at y ffaith fod ei bancosen yn llawer iawn tebycach i Smot i ci nac unrhyw beth arall. Nid oedd Rebelde'n fodlon o gwbl, a llyncodd y darn heb sylw pellach!

Ac mae hynny'n brawf, pe byddai angen un, fod pancos Bojas Rojas a Mamgu yn rhai blasus dros ben. Ni allwn ond gobeithio y bydd Peladito a BR yn dod acw bob tro y bydd penblwydd o hyn ymlaen, oherwydd mae ambell bancosen yn fodd i godi calon hyd yn oed y dyn sy'n cael bywyd yn galed!

No comments: