7.5.08

Mae enw da yn bopeth!

Yr oedd ddoe yn ddiwrnod da i deithio deithio mewn car yng Nghymru - hynny yw, os oes gennych aire acondicionado yn eich car! Beth bynnag y gwres y tu allan, mae'r ddyfais honno'n sicrhau fod awelon peraidd a dymunol yn cylchdroi o'ch cwmpas drwy'r amser. Mae'n un o ddyfeisiadau mawr y ddynoliaeth!

Gan fod El Jefe'n mynd ar daith arall cyn diwedd yr wythnos, yr oedd wedi gorfod symud yn gyflym o amgylch Cymru yn yr awelon peraidd hyn, a theithio o'r gogledd i Abertawe, ac yna i Lanelwedd, cyn troi trwyn y coche bach yn ôl am y gogledd, lle'r oedd ei swper yn disgwyl amdano. Ar y daith yn ôl, fe stopiodd yn Ninas Mawddwy a thynnu llun capel yno.

Hoffodd yn fawr y maen a welir yn y llun. Sylwer nad 'Capel Cynulleidfaol' yw'r disgrifiad, ond 'Eglwysdy', sydd ddim ond yn dangos fod pobl Dinas Mawddwy wedi taro'r hoelen ar ei phen yn 1867, a nodi'n eglur mai dim ond 'tŷ' ar gyfer yr 'eglwys' yr oeddent hwy wedi ei adeiladu!

Ar yr 'eglwys' mae'r pwyslais, ar y bobl yn hytrach na'r adeilad. Ac yn y fan yna mae gwers i Gristnogion ym mhobman, sef mai mewn pobl mae angen buddsoddi adnoddau, amser ac arian, nid mewn cerrig, brics a sment.

Pan fo'n bosibl i chwi wneud y ddau, popeth yn iawn, ond pan fo'n rhaid dewis, y bobl ddylai ddod gyntaf bob amser. Dyna'r traddoliad Cynulleidfaol, yr un mae El Jefe yn ymhyfrydu ynddo.

Gyda llaw, diffiniad syml o eglwys Gynulleidfaol fyddai, 'cymuned o Gristnogion lleol sydd mewn cytundeb a'i gilydd i addoli Duw, ei wasanaethu mewn ufudd-dod i'w Air, a gweinyddu'r bedydd a'r cymun.'

Mae mor syml, ac nid oes son am adeilad!

No comments: